Cymdeithas Owain Glyndŵr Society
Strategaeth
Hanes Cymru
2017
Hanes Cymru yn ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain:
Cyflwyniad
Mae Cymdeithas Owain Glyndŵr yn credu y dylai disgyblion Cymru ddeall cymaint â phosib am eu hanes a’u treftadaeth. Felly, rydym yn croesawu datganiadau penodol gan y Gweithgorau Trawsgwricwlaidd ar natur y cwricwlwm sydd i’w gyflwyno i ddisgyblion ein hysgolion yn y dyfodol. Dywed Gweithgor y Dimensiwn Cymreig:-
“Yn ystod ein cyfnod cychwynnol, buom wrthi’n ystyried modelau cwricwlwm rhyngwladol a chawsom fod gwledydd fel Seland Newydd, Awstralia a’r Ffindir i gyd yn mabwysiadu’r egwyddor fod hunaniaeth genedlaethol wrth galon dysgu”
Mae’r Gweithgor Profiadau Dysgu Cyfoethog yn ategu’r sylw yma:-
“Wrth ddatblygu’r partneriaethau hyn, bydd angen rhoi ystyriaeth fanwl i’n treftadaeth a diwylliant a beth mae cael eich addysgu yng Nghymru yn ei olygu, gan gydnabod cryfderau yn y cwricwlwm presennol fel y Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cymreig”.
Yn naturiol, ‘rydym yn credu byddai deall hanes Owain Glyndŵr yn ateb y gofynion hyn, ond mae’r ddau weithgor yn gwneud pwynt ehangach. Os nad yw disgyblion yn gwybod am, ac yn gwerthfawrogi eu treftadaeth a diwylliant eu hunain, sut mae disgwyl iddynt werthfawrogi ieithoedd a threftadaeth pobloedd gwahanol? Yn anffodus, am gryn amser, nid yw disgyblion Cymru wedi cael eu trwytho yn hanes ein gwlad yn ei gyfanrwydd. Gellir disgrifio’r cyflwr hwn fel gwall ar y cof neu wallgofrwydd, a hynny ar raddfa genedlaethol.
Cerflun Owain Glyndŵr, Corwen
Er mwyn gwella’r sefyllfa mae Cymdeithas Owain Glyndŵr o’r farn bod angen dysgu Hanes Cymru yn gronolegol. Dyna’r ffordd mae disgyblion yn dod i ddeall y newidiadau graddol a sydyn mewn Hanes, yn hytrach na blasu ambell bwt o hanes yma ac acw. Bydd dilyn trefn gronolegol yn egluro i’r disgyblion sut a phryd trodd y Brythoniaid yn Gymry a pha heriau allanol wynebent gan bobl megis y Rhufeiniaid, Gwyddelod a Sacsoniaid. Mae’r ymosodwyr hyn yn cynnig cyfle nid yn unig i edrych ar eu holion yng Nghymru ond i astudio cymdeithas y bobloedd hyn y tu hwnt i Gymru.
Yn y cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid datblygodd gwlad gellir ei galw yn Gymru a’r iaith Gymraeg yn datblygu i ffurf sydd yn ddealladwy hyd heddiw i ryw raddau. Un o nodweddion cynnar y wlad oedd dylanwad y saint. Sefydlwyd cyfundrefn grefyddol arbennig a chawsant ddylanwad mawr yng Nghymru, fel mae’r nifer o enwau llefydd yn tystio, ac hefyd i raddau llai y tu hwnt i Gymru. Yn yr un cyfnod, mae tystiolaeth bod y Cymry yn masnachu ar hyd arfordir gorllewinol Ewrop.
Er bod tensiynau cynyddol rhwng arweinwyr Cymru a’r teyrnasoedd y tu hwnt i Glawdd Offa, ‘roedd Hywel ap Cadell ap Rhodri yn edmygu ymdrechion tywysogion y tu hwnt i Gymru wrth iddynt greu cyfundrefn gyfreithiol i’w teyrnasoedd. Tua 930 O.C. aeth ati i lunio cyfres o gyfreithiau blaengar i Gymru trwy ymgynghori gyda arweinwyr o bob rhan o’r wlad.
Yn ystod yt hanner milflwydd rhwng Cyfreithiau gwerthfawr Hywel Dda a chyfnod Owain Glyndŵr, bu rhagor o ymosodiadau ar Gymru. Mae’n gyfnod sydd ond wedi cael ychydig o sylw mewn nifer o ysgolion Cymru, yn arbennig yn y blynyddoedd yn arwain at arholiadau allanol. Ond mae’r cyfnod yn cynnig cyfle i ddeall pwy yn union oedd y Normaniaid a sut iddynt dros y canrifoedd ymdoddi i fod yn Saeson. Ar yr un pryd, gellir olrhain y berthynas rhyngddynt â’r wlad y gadawsant yn 1066, Ffrainc.
Mae nifer lluosog o leoliadau yng Nghymru yn tystio i’r brwydrau fu rhwng y Cymry a’r Normaniaid/Saeson. Gadawodd y Normaniaid/Saeson eu hôl ar sawl agwedd o fywyd Cymru. Ond yn yr un cyfnod, ‘roedd nifer o Dywysogion Cymru yn gwrthsefyll yr ymosodiadau ac yn cynnal diwylliant cynhenid Cymru, fel gwnaeth yr Arglwydd Rhys gyda Eisteddfod Aberteifi yn 1176.
Tywysog olaf a mwyaf llwyddiannus Cymru, yn wyneb grym enfawr Lloegr, oedd Owain Glyndŵr ar ddechrau’r bymthegfed ganrif.
Cyfnod Owain Glyndŵr
Diddordeb penodol ein Cymdeithas yw hanes Owain Glyndŵr. Beth sydd yn gwneud ei hanes ef mor bwysig?
Mae ei ddylanwad ar hanes Cymru wedi ei gydnabod sawl tro. Mae strydoedd, sgwariau, tafarndai a phrifysgol yn cario ei enw. Mae ei bwysigrwydd wedi ei gydnabod yn gyson dros y blynyddoedd, er enghraifft:-
- Pan gomisiynwyd 10 cerflun o’r Cymry enwocaf cyn Oes Victoria gan Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd yn 1906, aeth y nifer mwyaf o bleidleisiau’r cyhoedd i Owain Glyndŵr;
Cerflun Owain Glyndŵr, Caerdydd
- Yn 2002 trefnwyd pôl gan y BBC i ddarganfod y 100 Prydeiniwr mwyaf mewn hanes. Glyndŵr oedd yr uchaf o blith y Cymry gan ddod yn 23ain ar y rhestr;
- Mwy arwyddocaol na hynny hyd yn oed oedd ymchwil gan y “Sunday Times” yn 1999. Holwyd cant o bobl amlwg, mewn meysydd fel gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a’r celfyddydau, pwy oedd unigolion pwysicaf y mileniwm. Daeth Glyndŵr yn 7fed ar y rhestr.
-
Owain Glyndŵr – 7fed person pwysicaf y mileniwm
Lledodd ei enwogrwydd a’i bwysigrwydd ymhell y tu hwnt i Gymru.
Mae’n berson diddorol. Tywysogion Gwynedd arweiniodd y gwrthsafiad yn erbyn ymosodiadau’r Normaniaid/Saeson. Ond gyda llofruddiaeth Owain Lawgoch, yn Mortagne sur Mer yn 1378, daeth rôl arweiniol llinach Gwynedd i ben. Syrthiodd y cyfrifoldeb am amddiffyn Cymru ar ŵr canol oed, cyfforddus ei fyd oedd wedi treulio blynyddoedd yn gwasanaethu Brenin Richard II. Ond pan laddwyd Richard gan ei gefnder, Henry o Lancaster, yn 1399, rhyddhawyd Owain Glyndŵr o’i lw o deyrngarwch i Frenin Lloegr. Cyhoeddodd y Brenin newydd, Henry IV, mai ei fab oedd i gael y teitl “Tywysog Cymru”. ’Roedd y cyhoeddiad hwn ynghyd â’i gweryl gyda chyfaill y Brenin newydd, Reginald de Grey, yn ormod i Owain. Seiliodd Owain ei hawl i fod yn Dywysog Cymru ar y ffaith ei fod yn ddisgynnydd i Dywysogion Powys a’r Deheubarth, ac fe’i cyhoeddwyd yn Dywysog Cymru mewn seremoni yng Nglyndyfrdwy ar Fedi 16 1400.
Pont yn ein hanes
Gellir dadlau bod y gwrthryfel a arweiniwyd gan Owain Glyndŵr yn fynegbost neu’n bont rhwng hanes cynnar ein gwlad a digwyddiadau arwyddocaol ganrifoedd yn ddiweddarach. Ef oedd yr olaf a’r mwyaf llwyddiannus o Dywysogion Cymru. Cyfeiriai yn aml yn ei ddatganiadau at y cyfnod pan oedd y Brythoniaid/Cymry yn rheoli’r rhan fwyaf o’r ynysoedd hyn. Pan oedd gwrthryfel Glyndŵr yn ei anterth, dyma a ddywedodd Archesgob Caergaint:
“The Welsh being sprung by unbroken succession from the original stock of Britons, boast of all Britain as theirs by right”.
Ceir adlais hefyd o ddull gweithredu Hywel Dda yn y ddegfed ganrif pan ddaeth cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru i Hendy-gwyn ar Daf i lunio deddfau i Gymru. Yn yr un modd, galwodd Owain Glyndŵr bobl o bob rhan o’r wlad i’w Seneddau.
Nid syniad gwreiddiol oedd cysylltu gyda Ffrainc. Yn 1212/3, efallai dan ysgogiad y Pab a oedd wedi ei gythruddo gan y Brenin John, bu sôn am gynghrair rhwng Llywelyn Fawr a Philip Augustus, Brenin Ffrainc. Yng nghyfnod y Rhyfel Can Mlynedd trefnodd Owain Lawgoch, yr olaf o linach Tywysogion Gwynedd, finteioedd Cymreig i gynorthwyo’r Ffrancod yn erbyn y Saeson. Ond ni lwyddodd ef na Llywelyn Fawr i sicrhau cynghrair ffurfiol fel y gwnaeth John Hanmer a Gruffudd Yonge ar ran Glyndŵr yn 1404. Y flwyddyn ganlynol glaniodd llu Ffrengig yn Aberdaugleddau i’w gynorthwyo. Dyma’r unig dro yn ein hanes i Gymru gael Polisi Tramor gweithredol.
Wrth gydnabod Pab Avignon yn Llythyr Pennal, 1406, ‘roedd Glyndŵr a’i gynghorwyr yn gofyn i Frenin Ffrainc gefnogi:
- Eglwys annibynnol i Gymru gydag offeiriaid oedd yn siarad Cymraeg;
- Sefydlu dwy brifysgol, un yn y gogledd a’r llall yn y de;
- Cydnabod Cymru fel gwlad annibynnol dan arweiniad Glyndŵr.
Er i’r gwrthryfel hir fethu yn y pen draw, mae sawl adlais o bwyntiau allweddol Llythyr Pennal yn ein hanes diweddarach:
- Er iddi wrthod Beibl yn yr iaith Gernyweg, sylweddolodd Elizabeth I y byddai’n rhaid cael Beibl Protestannaidd Cymraeg er mwyn cael y dylanwad a ddymunir ar y Cymry;
- Yn yr un cywair, Cymraeg oedd iaith yr emynwyr Methodistaidd megis Ann Griffiths a William Williams, Pantycelyn yn y 18fed ganrif;
- Cymraeg yn bennaf oedd iaith ysgolion cylchynol chwyldroadol Griffith Jones a ddenodd sylw'r Ymerodres Catrin yn 1764;
- Wrth i’r Chwyldro Diwydiannol ymledu fel tân drwy gymoedd De Cymru, cafodd y gân a fyddai’n cael ei mabwysiadu fel ein hanthem genedlaethol ei chyfansoddi gan Evan a James James ym Mhontypridd yn 1856.
Wrth i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd rhagddi mae adleisiau pellach o Lythyr Pennal yn dod i’r amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Prifysgol Cymru
Yn ail hanner y 19eg ganrif, bu ymgyrch fawr dan arweinyddiaeth Hugh Owen i sefydlu colegau a phrifysgol ar dir Cymru. Y cam cyntaf oedd prynu adeilad yn Aberystwyth, oedd wedi’i bwriadu i fod yn westy, yn 1872. Parhaodd y Coleg ger y lli trwy’r degawd ansefydlog nesaf trwy haelioni diwydianwyr cyfoethog megis David Davies a “cheiniogau’r tlodion”. Yn yr 1880au sefydlwyd colegau hefyd ym Mangor a Chaerdydd. Yn 1893, cafodd dyheadau Glyndŵr, John Trefor a Griffith Yonge bron hanner milflwydd yn gynharach eu gwireddu, a sefydlwyd Prifysgol Ffederal Cymru ar gyfer ieuenctid y genedl.
Datgysylltu’r Eglwys
Er bod y Chwyldro Diwydiannol yn prysur drawsnewid bywydau nifer sylweddol o Gymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’n debyg mai Datgysylltu’r Eglwys oedd pwnc gwleidyddol mwyaf llosg y cyfnod. Bu hyn yn sail i lwyddiant y Blaid Ryddfrydol hyd at 1914 ac yn sbardun i yrfa wleidyddol Lloyd George. Arweiniodd at derfysgoedd ffyrnig yn Nyffryn Clwyd yn yr 1880au. Yn 1920, gyda Lloyd George yn Brif Weinidog, datgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru. Bellach ‘roedd gan Gymru ei Harchesgob ei hun, fel ‘roedd Glyndŵr a’i gynghorwyr wedi dymuno mwy na pum can mlynedd yn gynharach.
Yn wahanol i’r Iwerddon, nid oedd annibyniaeth ar frig yr agenda gwleidyddol yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Mynegwyd arwahanrwydd ac arbenigrwydd pobl Cymru mewn dulliau diwylliannol a chrefyddol yn bennaf. Serch hynny, roedd creu sefydliadau cenedlaethol megis y Brifysgol yn 1893 a’r Llyfrgell yn 1907 yn arwydd bod Cymru yn cael ei chydnabod fwyfwy fel gwlad ar wahân gyda’i nodweddion arbennig ei hun. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sefydlwyd Cymru Fydd dan arweiniad Tom Ellis a Lloyd George. Mudiad byr hoedlog ond pwerus o fewn y Blaid Rhyddfrydol oedd hwn oedd yn ceisio sicrhau Hunan Lywodraeth i Gymru.
Mae’n bosibl mai creu’r fath sefydliadau a datgysylltu’r Eglwys oedd gan yr hanesydd nodedig Syr John Lloyd yn ei feddwl wrth draddodi Darlithiau Ford ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1920. Darparodd fersiwn wedi ei haddasu yn 1931, lle’r oedd yn hollol glir am bwysigrwydd Owain Glyndŵr yn hanes Cymru gan ei ddisgrifio fel “a great national hero” ac ymhellach “he may with propriety be called the father of modern Welsh nationalism”.
Beth bynnag oedd barn Syr John Lloyd, ‘roedd problemau cymdeithasol dwysach yn pwyso ar wleidyddion rhwng y ddau Ryfel Byd ac yn y cyfnod wedi 1945. Ciliodd y sôn am greu sefydliadau ar wahân tan y 1950au a’r 1960au.
Sefydlodd llywodraeth Lafur Harold Wilson swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1965 ac yn dilyn Refferendwm 1997, crëwyd Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Bellach mae gan y Cynulliad / Senedd, yr hawl i ddeddfu yn y meysydd a ddatganolwyd ac mae trafod ar ymestyn grymoedd trethiannol a benthyca’r Senedd.
Mae gan Gymru bellach lefel uwch o hunanlywodraeth nag ar unrhyw adeg ers 1400-1409. Wrth gamu o’i swydd fel Prif Weinidog Cymru yn 2009, ‘roedd Rhodri Morgan o’r farn mai’r cyfnod ers sefydlu’r Cynulliad oedd “our greatest years since Glyndẇr”. Mae chwe chan mlynedd bellach ers y gwrthryfel ac mae Cymru’n wlad hollol wahanol i’r hyn yr oedd adeg Glyndŵr. Fodd bynnag, mae llwyddiannau ac etifeddiaeth y digwyddiadau nodedig hynny yn dal yn fyw ac yn parhau i ddylanwadu ar ein bywydau hyd heddiw.
Dylai pob disgybl yng Nghymru ddysgu am Owain Glyndŵr a’r cyfnod pwysig hwn yn ein hanes.
Cyfleoedd yn y Cwricwlwm Dyniaethau Arfaethedig
Tra’n derbyn bwriad yr Athro Donaldson i ganolbwyntio ar chwe maes profiad penodol, mae Cymdeithas Owain Glyndŵr yn argyhoeddedig bod angen i blant Cymru ddeall Hanes Cymru yn ei gyfanrwydd yn y cwricwlwm newydd. Mae angen pwyslais ar gyfnod “Oes y Tywysogion” a esgeuluswyd gan nifer o ysgolion Cymru yn y gorffennol.
Mae hanes Owain Glyndŵr yn cynnig cyfleon i ymweld â lleoliadau niferus sydd yn rhan o hanes y gwrthryfel a chyfeirio hefyd at gefnogwyr a gelynion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Ffrainc a’r Babaeth. Nid dim ond Cymru sydd yn rhan o’r cyfnod allweddol yma.
Gan i’r gwrthryfel ledu ar draws Cymru gellir yn hawdd astudio'r hanes dan y pennawd Hanes Lleol mewn nifer fawr o leoliadau.
- Ardal Corwen/ Glyndyfrdwy—ardal ei fagwraeth a’r cyhoeddiad enwog ar Fedi 16 1400;
- Ardal Llansilin/ Sycharth – ei gartref ysblennydd a ddisgrifiwyd yn y gerdd gan Iolo Goch;
- Ardal Hanmer – lleoliad ei briodas i Marged, merch Syr David Hanmer oedd wedi llanw sawl swydd bwysig dan Richard II;
- Trefyclo/Bryn Glas – brwydr dyngedfennol 1402 a dal Edmund Mortimer;
- Machynlleth – Senedd gyntaf Cymru yn 1404;
Y Senedd-dŷ, Machynlleth
- Harlech – Senedd 1405 a llys Brenhinol Owain;
- Aberystwyth – Un o’r cestyll allweddol iddo goncro yn 1404;
- Llanymddyfri – Dienyddiwyd Llywelyn ap Gruffudd Fychan ym mhresenoldeb y Brenin am iddo gefnogi Glyndŵr;
- Caerfyrddin - tref bwysicaf Cymru ar ddechrau’r 15fed ganrif, a syrthiodd i ddwylo Glyndŵr yng Ngorffennaf 1403;
- Pen-y-bont ar Ogwr - milwyr Glyndŵr yn dal Castell Coety dan warchae yn 1401;
- Aberdaugleddau – glaniodd tua 2,500 o Ffrancod yn 1405 i’w gefnogi yn y frwydr yn erbyn Henry o Lancaster.
Sgiliau Hanes
Rhan hanfodol bwysig o waith hanesydd yw pwyso a mesur tystiolaeth hanesyddol. Yn naturiol, mae llawer mwy o dystiolaeth ar gael am gyfnodau mwy diweddar megis ffilm a chyfweliadau. Gall hyn olygu bod astudio cyfnodau diweddar yn opsiwn deniadol i athrawon a disgyblion. Ond dylai haneswyr ifanc ddeall bod pethau pwysig wedi digwydd yn ein hanes ymhell cyn bodolaeth technoleg a methodoleg fodern. Yn ei lyfr awdurdodol ar hanes Glyndŵr, “The Revolt of Owain Glyndŵr” mae R.R.Davies yn nodi’r heriau sydd yn wynebu haneswyr wrth astudio’r cyfnod [tud 97-101].
Serch hynny, heblaw am y lleoliadau niferus sydd yn ymwneud â hanes Glyndŵr, mae adnoddau ar gael er mwyn astudio’r cyfnod. Mae gan Cymdeithas Owain Glyndŵr a Chanolfan Machynlleth wefannau pwrpasol. Cynhyrchiad cyntaf Theatr Maldwyn oedd “Y Mab Darogan” ac mae sawl cân wedi eu hysgrifennu amdano yn ogystal â chorff sylweddol o farddoniaeth yn y Gymraeg a Saesneg. Gellir yn rhwydd gyfeirio at ddrama Shakespeare, Henry IV, Part 1. Bydd hyn yn dangos i ddisgyblion natur tystiolaeth y cyfnod a hefyd, fel y mae R.R. Davies yn dangos bod tystiolaeth mwy diweddar, megis ymddangosiad Llythyr Pennal, wedi newid barn bobl am Glyndŵr. Rhydd hyn gyfle i ddisgyblion ddatblygu sgiliau megis “meddwl yn feirniadol” a “cynllunio a threfnu”
Mae hanes Glyndŵr yn cynnig sawl cyfle i wneud cyfeiriadau traws gwricwlaidd. Gobeithio bod modd i Hyfforddiant Athrawon egluro arwyddocad y cyfnod ac ehangder y posibiliadau ar draws nifer o bynciau. Yn naturiol, mae Cymdeithas Owain Glyndŵr yn dymuno gweld cynhyrchu adnoddau digidol cyfoes i hwyluso gwaith athrawon a disgyblion.
Arholiadau a Chanfyddiad
Yn ôl y wybodaeth a gafwyd gan swyddogion CBAC yn 2010, nid oes fawr o gyfle i astudio cyfnod Owain Glyndẇr nac yn wir Oes y Tywysogion ar gyfer arholiadau. Tra’n derbyn bod angen rhywfaint o ddewis ar ysgolion wrth ddewis pa gyfnod i’w astudio, mae’n amlwg bod y deunyddiau niferus, hawdd i’w cael ar feysydd fel y Natsiaid a’r Ymgyrch Hawliau Sifil yn yr UDA wedi arwain athrawon at esgeuluso hanes Cymru yn gyffredinol a “Oes y Tywysogion “ yn benodol. Sawl ysgol yng Nghymru sydd yn defnyddio’r adnodd “Cornerstones” a luniwyd ar gyfer cwricwlwm Hanes ysgolion Lloegr? Ymylol yw’r cyfeiriadau at Gymru mewn adnodd o’r fath. Os oes lle wedi bod i Hanes Cymru, y rhagdybiaeth anffodus yw bod yr hanes hwnnw yn cychwyn gyda dyfodiad diwydiannwyr megis Crawshay a Guest i gymoedd De Cymru. Cafodd y Chwyldro Diwydiannol effaith enfawr ar Gymru, ond ‘roedd gennym hanes cyffrous cyn hynny hefyd ac nid yw wedi cael sylw dyledus yn ein ysgolion.
Dros y blynyddoedd, mae’n syndod ac yn siom faint o oedolion sydd yn dweud wrthym na chawsant eu dysgu am hanes Owain Glyndŵr na thywysogion eraill Cymru. Rydym yn argyhoeddedig o bwysigrwydd hanes gwrthryfel Owain Glyndŵr, ac y dylid ei ddysgu i bob disgybl yng Nghymru o fewn y cwricwlwm Hanes a’i gynnig yn opsiwn arholiad. Trwy wneud hynny, daw cyfle i genedlaethau’r dyfodol werthfawrogi a chymryd balchder yn hanes y genedl unigryw hon.