Ganed Syr John Edward Lloyd (1861 - 1947) yn Lerpwl, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg Lincoln, Rhydychen. Ysgrifennodd hanes difrifol cyntaf blynyddoedd ffurfiannol y wlad, ‘A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest’ (1911) a hefyd ‘Owen Glendower/Owain Glyn Dŵr’ (1931). Cyd-olygodd â Robert Thomas Jenkins yr argraffiad cyntaf o'r Bywgraffiadur Cymreig, er na chafodd ei gyhoeddi tan 1959.


Claddwyd ef ar Ynys Tysilio, Porthaethwy, a chyfesurynnau ei fedd yn:


Cyfesurynnau: (53.22332, -4.17132)

Pa3gair: skews.slack.expect

Ynys Tysilio

Print


    Bywgraffiadau

Saesneg

Syr J.E. Lloyd

what3words