DYDDIAU OLAF
OWAIN GLYNDŴR
Arolwg gan Gymdeithas Owain Glyndŵr
'Nid yw ei
fedd ger eglwys, na dan gysgod ywen hynafol. Mae mewn man mwy diogel a mwy cysegredig
fyth. Nid yw'r glaw yn syrthio arni, na chenllysg nag eirlaw yn oeri'r borfa
uwch ei ben. Mae'n fythwyrdd mewn glesni gwanwyn tragwyddol. Disglair yw'r haul
arni; agos a chynnes ac annwyl mae'n gorwedd, yn ddiogel o bob storom, o bob
ebargofiant oer a llwyd. Ni chaiff amser gyffwrdd â hi; ni chaiff llygredd ei
amharchu; gan fod y bedd hwn yng nghalon pob gwir Gymro. Yno, am byth, o
genhedlaeth i genhedlaeth, mae calon Owain mewn breuddwyd, breuddwydio ymlaen,
yn ddiogel am byth.'
Owen
Rhoscomyl 1905
Ychydig a wyddom am flynyddoedd olaf Glyndŵr; mae'r amgylchiadau ynghylch ei farwolaeth
yn fwy o ddirgelwch fyth.
Erbyn 1412 roedd wedi
gorfod ildio y rhan fwyaf o'r tir a enillodd yn y
blynyddoedd cynt. Er bod rhai ardaloedd yn dal i gefnogi, nid oedd y rheini yn
ddigon sylweddol na chytûn i wrthsefyll grym y gelyn. Eithriad nodedig i'r
patrwm hwn oedd Meirionydd, lle cafodd coron Lloegr gryn anhawster i reoli'r bobl; parhaodd y
sefyllfa tan farwolaeth Glyndŵr. Y digwyddiad nodedig olaf cyn ei farwolaeth
oedd i'w filwyr gipio Dafydd Gam (bu Dafydd yn elyn i Glyndŵr a gwnaeth
ymgais i'w lofruddio). Rhyddhawyd Dafydd wedi i Glyndŵr dderbyn pridwerth
sylweddol. Daeth Harri V yn frenin Lloegr yn 1413 a chynigiwyd pardwn i Owain,
ond fe'i gwrthododd. Derbyniodd ,Maredudd,
ei unig fab i
oroesi'r gwrthryfel bardwn y brenin wedi marwolaeth Glyndŵr.
Fel gyda llawer o'i hanes diweddar, mae cryn ansicrwydd
ynghylch dyddiad marwolaeth Owain. Barn yr Athro Glanmor Williams oedd ei fod
wedi marw rywbryd rhwng 1415 a 1417 ac mae'r dystiolaeth arall o'r un farn. Mae rhai ffynonellau yn awgrymu 1416 ond y
mwyafrif yn cynnig 1415.
Mae cronicl ysgrifennwyd ond ychydig o flynyddoedd wedi'i
farwolaeth (Peniarth MS135) yn dweud:
'Yn 1415
diflannodd Owain ar Ddydd Sant Mathew yng nghyfnod y cynhaeaf ac wedi hynny ni
wyddom i ble yr aeth. Mae nifer fawr yn dweud y bu farw; mae'r brudwyr yn dweud
na fu.'
Mae Adda o Frynbuga,
cyfoeswr i Glyndŵr, hefyd yn cofnodi yn ei Gronicl o 1415:
'Ar ôl cuddio
am bedair blynedd wrth y brenin a'r deyrnas, bu Owain Glyndŵr farw, a'i
gladdu gan ei gefnogwyr yn nhywyllwch nos. Serch hynny, darganfuodd ei elynion
yn lle fe'i claddwyd a
bu'n rhaid iddo gael ei gladdu eilwaith; mae'n amhosib i ni ddarganfod yn lle.'
Er bod
Adda yn gyfoeswr, mae rhai o'i gofnodion yn amheus ym marn haneswyr o safon.
Mae'n rhyfedd, er enghraifft, na ddifwynwyd ei fedd gan ei elynion, arferiad cyffredin yn y cyfnod.
Daeth
Thomas Pennant (1726 - 98) i'r casgliad
fod Owain wedi marw ar Fedi 20, 1415, ond mae ffynonellau eraiil yn cynnig Medi
21 (Gŵyl Sant Mathew). Mae cronicl Cymreig o'r flwyddyn 1415, gyhoeddwyd o
fewn cenhedlaeth i'w farwolaeth, yn awgrymu dyddiad hwyrach:
'Diflannodd
Owain ar ŵyl Sant Mathew yn yr hydref. Ni ŵyr neb wedyn ym mha le y bu'n cuddio. Mae llawer
yn dweud y bu farw, ond mae'r proffwydi yn dweud na fu farw..'
Mae ystod eang o ffynonellau yn cynnig mai ar Fedi 21,
1415 y bu farw.
Ni wyddom fawr am flynyddoedd olaf Glyndŵr. Mae rhai
adroddiadau yn ei bortreadu fel cardotyn truenus yn ceisio am loches lle bynnag
yr oedd i'w gael, hyd yn oed ar brydiau mewn ogofau. Mae sawl awgrym am leoliad
ei fedd wedi cael sylw, yn cynnwys un sy'n awgrymu Bryn Lawton's Hope rhwng
Leominster a Henffordd yn ôl llawysgrif yn dyddio o 1513. Cafodd Iolo Morgannwg
weledigaeth o Owain fel gwaredwr y genedl, yn cysgu gyda'i filwyr mewn ogof ac
yn barod i achub Cymru mewn argyfwng.
Mae mwyafrif yr adroddiadau, serch hynny, yn dewis Y Golden Valley yn swydd Henffordd fel y
safle lle' 'roedd Owain yn fwyaf tebygol o fod wedi treulio ei flynyddoedd
olaf. Priododd dwy o'i ferched ŵyr o'r dyffryn (mae'n rhyfeddol fod tair
o'i ferched wedi priodi dynion o swydd Henffordd). Yn y dyddiau hynny roedd
rhan o boblogaeth y Mers yn gefnogol i Gymru tra 'roedd y lleill yn cefnogi
Lloegr.
Priododd Alys (merch hynna' Glyndŵr) Syr John Scudamore o Kentchurch Court yn y Golden Valley. Mae tŵr sylweddol yn rhan o adeiladwaith Kentchurch Court sydd
wedi'i enwi yn "Dŵr Glyndŵr". Mae ynddo ystafell sy'n dal
cysylltiad hanesyddol gyda Glyndŵr ac, yn ôl yr hanes, mae ysbryd ynddi.
Aeth criw teledu o HTV i recordio rhaglen yno yng nghwmni nifer o swyddogion
Cymdeithas Owain Glyndŵr a gwrthododd aelod o'r criw fynd i mewn i'r
ystafell gan ei fod wedi synhwyro fod ysbryd yno. Gwnaethom ymchwiliadau yn yr
ardal a darganfod fod traddodiad lleol cryf yn cysylltu Owain Glyndŵr â Kentchurch Court. Mewn sgwrs gyda dyn
lleol clywodd swyddog o'r Gymdeithas fod traddodiad lleol fod Owain yn byw yn y
tŵr a bod ceffyl bob amser ger ffenestr ei ystafell yn barod i'w helpu id
dianc pe bai milwyr yn dod ar gyfyl y lle. Dywedodd John Scudamore (disgynnydd
i Glyndŵr) wrth Adrien Jones (Llywydd y Gymdeithas) fod traddodiad teuluol
yn hawlio mai ym Monnington Straddel, tua 7 milltir o Kentchurch, mae bedd
Owain.
Mae
portread trawiadol o hen ŵr i'w weld yn Kentchurch Court. Mae wynepryd
heriol testun y portread yn syfrdanu'r gwyliwr. Mae rhai wedi tystio mai
portread yw o Owain Glyndŵr yn hen ddyn. (gweler y paragraff isod am Alex
Gibbon) ond tystiolaeth y teulu yw mai llun o Siôn Cent yw hwn. Bardd â
chysylltiad agos gyda theulu Scudamore oedd Siôn Cent. Mae arddull Ffleminaidd
y llun wedi awgrymu i rai mai gwaith Jan van Eyck yw'r portread, ond mae'r
cofnod cyntaf sydd gennym amdano o'r flwyddyn 1422, a'r holl weithiau y gwyddom
amdanynt yn deillio o'r cyfnod rhwng 1432 a 1439. Mae'r dyddiadau hyn yn
tanseilio’r honiad mai van Eyck yw’r arlunydd
Mae
cryn ddryswch yn y cofnodion hanesyddol rhwng Monnington Straddel yn y Golden Valley a Monnington-on-Wye (mae
pellter o 9 milltir rhyngddynt wrth deithio ar y ffordd fawr). Roedd Marged,
merch Glyndŵr, yn briod â Syr Richard Monnington a oedd yn dal tiroedd yn
Lawtons Hope a Sarnesfield. Roedd trydedd merch Glyndŵr, Sioned, yn briod
â Syr John Croft o Gastell Crofft. Gallai Owain fod wedi teithio i wahanol
gartrefi ei ferched yn ei ddyddiau olaf, ond Kentchurch oedd y lle mwyaf diogel
o'r tri. Gan fod Bryn Lawtons Hope yn gorwedd rhwng Castell Crofft a Kentchurch
Court, mae'n bosib fod Owain wedi marw wrth deithio o un i'r llall.
Ger Monnington Court ym Monnington Straddel mae
mwnt sydd â thraddodiad cryf o fod y man lle claddwyd Owain. Mae'n safle
gofrestredig ac yng ngofal English
Heritage. Dyma'i disgrifiad ohono:
'Mae'r mwnt
yn 3.4 metr o uchder, o ffurf hirgrwn gydag echel hir o 40 metr a'i
gyfeiriadedd yn ogleddol-ddeheuol. Mae ffos yn dal i fod i'r gorllewin a'r
gogledd ond mae wedi'i llanw ym mhobman arall. Mae'r mwnt yn gorwedd ar ochr
ddwyreiniol o feili sydd bron yn sgwâr wedi'i amgylchynu gan gwter fâs gyda
nant yn rhedeg drwyddi. Mae'n bosib fod y beili yn nodwedd naturiol wedi'i greu
gan gwrs y nant ac os crëwyd beili fel rhan o gastell mae'i leoliad yn fwy
tebyg o fod i'r gorllewin o'r mwnt islaw i adeiladau Monnington Court. Mae
olion tirwedd cefnen a rhych yn y caeau sy'n amgylchyni'r mwnt. Cofrestredig.'
Tywyswyd
Adrien Jones (Llywydd y Gymdeithas) i'r safle gan John Scudamore. Ymwelodd
swyddogion y Gymdeithas â'r safle wedyn yng nghwmni'r newyddiadurwraig Collette
Hume (sy'n hanesydd) ac fe gafodd y safle tipyn o sylw yn y Western Mail. Comisiynodd y Gymdeithas
arolwg geoffisegol o 400 metr sgwâr o'r safle gan TerraDat o Gaerdydd yn y flwyddyn 2000. Nid oedd yr arolwg yn
fewnwthiol ac ni fu cloddio. Datgelwyd olion adeilad cerrig petryalog yn mesur
10m. x 6m., a'i furiau yn fetr o drwch, o dan wyneb y mwnt. Roedd aliniad yr
adeilad yn ogleddol-ddeheuol. Mae rhai wedi awgrymu mai tŵr oedd yn
wreiddiol ond ei fod wedi'i ysbeilio dros y blynyddoedd, a'r cerrig wedi'i
defnyddio i bwrpas arall. Datgelwyd nifer sylweddol o offer haearn yn y mwnt
ond methwyd a darganfod beth oeddynt. Mae aliniad yr adeilad yn awgrymu mai nad
capel oedd yno. Mae'r Gymdeithas yn ddyledus i Tony Carter, a
arweiniodd yr ymchwil i'r safle.
Ysgrifennodd
Thomas Pennant : 'Dywedir ei fod ef (Owain Glyndŵr)
wedi'i gladdu ym mynwent Monnington [Monnington-on-Wye], ond nid oes cofadail,
nag unrhyw gofeb o'r man ei claddwyd".
Mae'r
hanesydd a chlerigwr Thomas Thomas, yn ysgrifennu am Eglwys Monnington, Monnington-on-Wye
yn 1822, yn dyfynnu dogfen Harl.M.S.S.6832 fel hyn:
'Tua 1680, ail-adeiladwyd yr eglwys. Yn y fynwent roedd
boncyff masarnen, tua 9 troedfedd o uchder, diamedr dwy droedfedd a hanner; a
gan ei bod yn ffordd y gweithwyr fe'i torrwyd i lawr. Yn union o'i tani, tua
throedfedd o dan arwynebedd y tir, roedd
carreg fedd fawr heb ei hamsgrifio; ac wedi'i chlirio cafwyd ar y gwaelod bedd
o garreg ac ynddi (fel y tybir) roedd corff Owain Glyndŵr; roedd yn gyfan
a sylweddol ei faint. Ond nid oedd arwydd o unrhyw goffin . Pan gyffyrddwyd ag
unrhyw ran ohono fe drodd yn llwch. Wedi bod heb ei orchuddio am ddau ddiwrnod
gorchmynnodd Mr. Tomkins i ni osod y garreg drosto unwaith eto, ac yna i
daflu'r pridd drosto.'
Mae Chris Barber, awdur In Search
of Owain Glyndŵr, yn cyfeirio at draddodiad lleol fod Owain wedi marw
yn Chapel Cottage, ger Monnington Court. Mae'r enw'n awgrymu y gallai hwn fod
yn gapel anwes yn gysylltiedig â'r eglwys agosaf yn Vowchurch. Mae Abaty Dore,
Abaty Sistersaidd sefydlwyd yn 1147 ac ynghanol y Golden Valley, yn safle tebygol, (yn enwedig gan fod yr abaty yn
meddu ar dir sylweddol yn y cwm, yn cynnwys safle presennol Monnington Court). Mae'n debyg felly bod
cysylltiad rhwng yr adeilad a'r abaty.
Mae Trysorydd/Ysgrifennydd Aelodaeth y Gymdeithas,
Dr John Hughes, wedi ysgrifennu nofel am ferch Glyndŵr - Glyndŵr's
Daughter (gweler manylion isod**) a'i farn ef yw mai yng nghantref Maelienydd
yng ngogledd-ddwyrain Powys fe'i claddwyd. Mae'r Athro Gruffydd Aled Williams
wedi dyfynni feirdd y 15g fel Lewys Glyn Cothi, Robin Ddu, ac eraill sydd a'u
gwaith yn awgrymu mae ym Maelienydd y treuliodd ei flynyddoedd olaf. Efallai ei
fod wedi symud i gartref ei ferch, Gwenllïan, yn ei henaint. Mae Athro Williams o'r farn, os claddwyd
Owain yng Nghymru, mai ym Maelienydd mae ei fedd. Ysgrifennodd yr Athro lyfr ardderchog
ar y pwnc, Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr, yn 2015 (manylion isod*) sydd yn
diweddaru'r hanes.
Yn ei
lyfr The Mystery of Jack of Kent and the
Fate of Owain Glyndŵr mae Alex Gibbon yn hawlio bod corff Owain wedi'i
gludo o swydd Henffordd a'i gladdu yn Eglwys Sant Gwrdaf, Llanwrda., Sir
Gaerfyrddin. Mae hefyd yn hawlio, fel y gwnaeth nifer, fod y llun yn Kentchurch Court yn bortread o Owain
Glyndŵr yn hytrach na Siôn Cent, a bod Owain wedi dieithrio fel Brawd
Ffransisiaidd yn gweithio fel caplan i deulu Scudamore. Yn wir, mae'n hawlio
fod Owain a Siôn Cent yn un person ac yn dadlau fod y dieithrio yn gyfrwng i
ddiogelu Owain yn ei flynyddoedd olaf.
Cafodd
y Gymdeithas y fraint o gomisiynu darlith gan y diweddar Syr Rees Davies (Athro
Chichelle yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen bryd hynny) yn Eisteddfod
Genedlaethol y Bala. Ar ôl y ddarlith datgelodd yr Athro (y prif awdurdod ar
hanes Glyndŵr) ei fod o'r farn mai yn un o'i gadarnleoedd yn y gogledd y
treuliodd ei flynyddoedd olaf. Pwysleisiodd, serch hynny, nad oedd tystiolaeth
ar gael i gadarnhau ei farn. Gwyddom fod Meirionydd wedi gwrthsefyll dylanwad
coron Lloegr o leiaf tan farwolaeth Glyndŵr a byddai'n rhesymol, felly,
iddo geisio lloches yno ymhlith ei gefnogwyr selog.
Cafodd
swyddogion y Gymdeithas gyfarfod gyda Dr Keith Ray, Archeolegydd swydd
Henffordd, a'i farn ef oedd bod Owain bron yn sicr wedi'i gladdu mewn tir
cysegredig, a bod o leiaf pedwar safle o fewn i'r sir lle y gallai fod yn
gorwedd. Cadarnhaodd fod rhai cloddiadau wedi digwydd ar y mwnt ym Monnington
Straddel ond, gan mai amaturiaid fu'n gyfrifol, nid oedd fawr o dystiolaeth
ysgrifenedig ar gael.
Datgladdwyd
gweddillion o faes parcio yng Nghaerlŷr yn ddiweddar, ac roedd gwyddonwyr
fforensig yn argyhoeddedig (gyda sicrwydd o 99+%) mai gweddillion Rhisiart 111
(1452 - 1485) oeddynt. Mae'r fenter hon yn dangos grym rhyfeddol technegau
dadansoddi geneteg (yn enwedig dadansoddi DNA mitochondriaidd) ac yn awgrymu y
byddai'n bosib gwirio gweddillion honedig Glyndŵr pe'i darganfyddir. Mae'r
offer dadansoddol ar gael i ddatgelu'r ateb i'r dirgelwch; y cwestiwn dadleuol, wrth gwrs, yw a ddylid ceisio chwilio am yr ateb.
*Dyddiau
Olaf Glyndŵr Gruffydd Aled
Williams Y Lolfa
ISBN 978-1-78461-156-9
**Gwenllian's Daughter John Hughes Y
Lolfa
ISBN 978-1-84771-331-5