Sycharth
Ychydig a wyddys am hanes Sycharth hyd at ddiwedd y 14eg ganrif pan etifeddodd Owain Glyn Dŵr arglwyddiaeth Cynllaith gan ei dad, Gruffudd Fychan. Fe’i hadeiladwyd ar gloddwaith mwnt a beili cain yn nyffryn Cynllaith i’r gorllewin o Glawdd Offa, a buasai yn brif gartref a llys Owain a'i deulu hyd ei ddinistr yn 1403 gan y tywysog Harri, Harri V Lloegr yn y dyfodol.
Roedd Sycharth yn stad drawiadol iawn a oedd yn destun cenfigen i gyfoeswyr Owain. Ceir y disgrifiad gorau sydd gennym o'r maenordy ffosedig yn y gerdd a gyfansoddwyd gan Iolo Goch ar ddiwedd y 14eg ganrif. Roedd Iolo yn fardd teithiol dawnus a chofnododd y gerdd un o'i ymweliadau â Sycharth. Mae’n llawn canmoliaeth i’r croeso a’r lletygarwch a gynigiodd Glyndŵr i’w westeion yno.
Disgrifia Iolo Goch neuadd faenorol ysblennydd yr aethpwyd ati dros bont ffos a thrwy gât. Roedd gan yr adeilad do teils, simnai, a naw cwpwrdd dillad yn cynnwys dillad tebyg i’r rhai gorau a geir yn y siopau yn Cheapside yn Llundain. Mae'n cymharu ei adeiladau allanol â chlochdy Cadeirlan Dulyn a chloestrau Abaty San Steffan, ac yn amlwg roedd gan Sycharth yr adnoddau angenrheidiol i gynnal aelwyd fawr, gan gynnwys perllan, colomendy carreg, cwningar, pwll pysgod, crehyrod, melin a pharc ceirw.
Darganfuwyd trawst pan ddraeniwyd y ffos ym 1891, a thorrwyd ei ddiwedd i ffwrdd a'i storio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Y gobaith yw y bydd technegau dyddio modern yn cael eu defnyddio i ddangos bod y pren wedi’i dorri cyn 1400, ac yna gallai'r pren gael ei arddangos er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei weld.
Sycharth oedd prif gartref teulu Owain hyd 1403. Roedd yn byw yno gyda'i wraig, Marred, a'u plant lu. Canmolodd Iolo Goch Owain a Marred am eu croeso a'u lletygarwch: cafodd ymwelwyr y bwydydd a winoedd gorau, a chwrw’r Amwythig gorau, ac fel y dywedodd Iolo, ‘… nid oes newyn na syched yn Sycharth.’
Syniad prin sydd gennym o olwg Owain a Marred: Disgrifir Owain fel ‘gŵr meingryf’ a’r ‘Gorau Cymro’; a Marred fel ‘gwraig orau o gwragedd … urddol hael anianol’. Yr un modd, disgrifir eu plant fel ‘… nythaid teg o benaethau.’
Gwnaed gwaith cloddio ar y safle ym 1962-3 ac yn 2003 a ddatgelodd olion dwy neuadd bren ar ben y twmpath. Roedd un o'r adeiladau hyn yn sylweddol a thua 13m o hyd ond ni oroesodd yr un o'r adeiladau ysbeilio rhyfelwyr a lladron. Yn 2009, gwnaethpwyd arolygon anymwthiol pellach a oedd yn ôl pob golwg yn dangos lleoliad y gorthwr gwreiddiol, yn ogystal â nifer o adeiladau a strwythurau o fewn ardal y beili. Nodwyd clostir allanol hefyd gan yr arolwg hwn ar ochr ogleddol y mwnt.
Gellir gweld dehongliad o sut olwg oedd ar Sycharth yn nyddiau Glyn Dŵr mewn fideo gan
* Mae'r Gymdeithas wedi gofyn i Gyngor Sir Powys wella'r arwyddion i'r safle, ond cliciwch yma am gyfarwyddiadau i Sycharth.
Defnyddio Delweddau i Ehangu