Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag un o swyddogion y Gymdeithas; neu yn well fyth ymunwch â’r Gymdeithas.

Sefydlwyd Cymdeithas Owain Glyn Dŵr ym 1996 o ganlyniad i ysgogiad Adrien Jones o Landeilo. Ei phrif nod yw anrhydeddu cof un o gymeriadau enwocaf hanes Cymru, ac yn wreiddiol canolbwyntiodd ar dair tasg benodol:


1. trefnu adeiladu cofadail addas i Owain Glyn Dŵr: dadorchuddiwyd cofadail ym  Machynlleth ar Fedi 16eg, 2000 i nodi 600 mlynedd ers dechrau'r Gwrthryfel;


2. ceisio canfod lleoliad bedd Owain a’i ddynodi’n addas: cynhaliwyd arolwg yn  Monnington Straddel yn 2000 ond gyda chanlyniadau amhendant;


3. gwaddoli ysgoloriaeth yn ei enw: cyflwynir hambwrdd arian i enillydd Gwobr  Cyn-fyfyriwr Prifysgol Wrecsam Glyndŵr yn flynyddol.


Mae’r Gymdeithas wedi codi ymwybyddiaeth ynglŷn â chyfraniad enfawr Owain i hanes Cymru gan weithredu fel a ganlyn:


* ymgyrchu dros i hanes canoloesol Cymru fod yn elfen orfodol o'r  cwricwlwm yn ysgolion Cymru;


* cyflwyno arddangosfeydd mewn digwyddiadau hanes lleol, Sain Ffagan,  Eisteddfodau Genedlaethol ac Urdd, a gwyliau eraill;

* hyrwyddo enw a stori Glyndŵr i gynulleidfa fwy trwy wefan a thudalen Facebook  y Gymdeithas.


Nid yw’r Gymdeithas yn perthyn i unrhyw blaid nac i unrhyw enwad crefyddol, ac mae’n derbyn cefnogaeth gan Gymry blaenllaw yn cynnwys aelodau o brif bleidiau gwleidyddol Senedd a San Steffan. Mae’n gweithredu polisi dwyieithog cyflawn, ac mae’n elusen gofrestredig.
(Rhif Elusen Gofrestredig 1073847).

Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Diweddariadau Saesneg Chwilio'r Wefan

Y Gymdeithas