Mae’r cofadail yn fonolith llechen maint 5m o Chwarel Penrhyn ger Bethesda yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei rhoddi’n garedig gan McAlpine Ltd. Mae corf y monolith tua 1m lled a dyfnder. Mae wedi ei leoli ym Machynlleth.
Mae pen y cofadail yn arddangos Sêl Fawr Owain Glyndŵr. Mae’n oreurog i roi fwy o amlygrwydd. Caiff y Sêl Fawr ei chynnwys i bwysleisio arwyddocâd Owain yn wleidydd a chaiff ei hamgylchu gyda’r geiriau -
Owain Glyndŵr Tywysog Cymru Prince of Wales.
Mae’r plinth yn arddangos cerdd wedi ei hysgrifennu yn y gynghanedd mewn ffurf pennill traddodiadol ac adnabyddus yn y Gymraeg sef yr englyn. Dyma waith bardd lleol Dafydd Wyn Jones. Enillodd gystadleuaeth Talwrn Y Beirdd ar Radio Cymru i greu englyn er cof Owain Glyndŵr.
Dyma englyn Mr Jones:
Owain, tydi yw'n dyhead,-Owain,
Ti piau'n harddeliad,
Piau'r her yn ein parhad
A ffrewyll ein deffroad.
Yn gyfrifol am gynllunio a cherflunio’r cofadail oedd y ceinlythrennydd a’r cerflunwyr rhyngwladol enwog Ieuan Rees. Cafodd ei dadorchuddio ar dir Y Plas, Machynlleth ar Fedi 16eg 2000, sef chwe chan mlwyddiant y dydd y cyhoeddwyd Owain yn Dywysog Cymru.