Ar Chwefror 28ain 1405 fe wnaeth Glyn Dŵr gytundeb â Edmund Mortimer (mab yng nghyfraith Glyn Dŵr) a Henry Percy, Iarll Northumberland. Arwyddwyd y cytundeb yng nghartref archddiacon Bangor. O ganlyniad i’r cytundeb byddai Lloegr a Chymru wedi eu rhannu yn dair rhan. Byddai Percy yn rheoli deuddeg sir a enwir oedd yn ymestyn o ffin yr Alban i ddyfnderoedd canolbarth Lloegr a Dwyrain Anglia; byddai Mortimer yn rheoli gweddill Lloegr ac eithrio’r rhan roedd Owain wedi hawlio. Byddai Glyn Dwr yn rheoli “…from the Severn estuary as the River Severn flows from the sea as far as the northern gate of the city of Worcester; from that gate directly to the ash trees known in the Cambrian or Welsh language as Onennau Meigion which grow on the high road leading from Bridgnorth to Kinver; then directly along the highway, popularly known as the old or ancient road, to the head or source of the River Trent; thence to the head or source of the river commonly known as Mersey and so along that river to the sea.”. Gwelwn safle Owain yn yr adeg yma yn cael ei adlewyrchu wrth i ran Owain gynnwys Sir Gaer gyfan, rhan sylweddol o Swydd Henffordd, Swydd Amwythig a Chaerwrangon. Atgyfnerthwyd gan gefnogaeth Ffrengig ac roedd ganddo bŵer bargeinio sylweddol gyda’i fab yng nghyfraith, Edmund Mortimer, wrth ei ochr.
Roedd rhan gyntaf teyrnasiad Harri IV yn gyfnod o gythrwfl mawr. Roedd ei hawl i orsedd Lloegr yn eithaf amheus ac roedd gan nai Mortimer mwy o hawl gyfreithlon i goron Lloegr. Roedd y tri llofnodwr yn ddynion uchelgeisiol. Rhoddodd y gefnogaeth gan Ffrainc hyd hynny mwy o achos iddynt fod yn hyderus ynglŷn â rhagolwg eu dyfodol (er gorchfygiad difrodus y Percies yn Amwythig yn 1403).
Map Eglwysig canoloesol o Gymru a’r Mers