Er nad yw’r sefydliadau canlynol yn gysylltiedig â’n Cymdeithas yn uniongyrchol, efallai byddant yn ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn ag Owain Glyndŵr a hanes ei gyfnod.
Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth
Mae Canolfan Owain Glyndŵr yn graidd i bawb sydd â diddordeb yn Glyndŵr a’i hanes. Mae wedi ei leoli ar safle sy’n gysylltiedig â lleoliad senedd Glyndŵr ac mae’n cynnwys atgynhyrchiad o’r Llythyr Pennal. Mae’n bosib prynu llyfrau a phethau cofiadwy yn y ganolfan hefyd.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Yn haeddiannol disgrifiai ei hun yn “...un o lyfrgelloedd mawr y byd”. Mae’n gartref i gasgliad cynhwysfawr o lyfrau yn ymwneud ag Owain Glyndŵr a hanes Cymru. Hefyd mae gan y llyfrgell gasgliad helaeth o ddogfennau ac mae wedi digideiddio ystod drawiadol o ddogfennau yn ei gasgliadau.
Sefydliad ambarél yw Fforwm Hanes Cymru ar gyfer cymdeithasau annibynnol sy’n gysylltiedig â hanes Cymru. Mae’n trefnu arddangosfeydd yn nigwyddiadau amrywiol megis Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Gallwch ddarganfod rhestr lawn o gymdeithasau cyswllt, ynghyd â manylion cyswllt a.y.b.
Cymdeithas Y Dywysoges Gwenllian
Y Dywysoges Gwenllian oedd unig blentyn Llywelyn ein Llyw Olaf a Eleanor de Montfort. Lladdwyd Llywelyn (Tywysog olaf brodorol Cymru) gan ddynion Edward I yn 1282 pan oedd Gwenllian ond yn chwe mis oed a chafodd ei chipio i Briordy yn Sempringham, Swydd Lincoln. Yno fe wnaeth hi weini fel lleian am 54 mlynedd hyd ei marwolaeth.
Wedi ei leoli mewn cwm anghysbell ym Mhowys, roedd Cwm Hir yn abaty Sistersaidd eang. Rhagorwyd ei gorff 75m yn unig gan Eglwysi Cadeiriol Durham a Chaerwynt ym Mhrydain. Ar ôl i Llywelyn (Tywysog olaf brodorol Cymru) cael ei ladd gan ddynion Edward I yn 1282 cafodd ei ben ei dorri a’i danfon i Lundain i’w arddangos ar y Tŵr. Cludwyd ei gorff i Abaty Cwm Hir yn gyfrinachol er mwyn ei gladdu.
Canolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn ar Daf
Yn ôl traddodiad galwodd Hywel Dda gynhadledd fawr o gyfreithwyr ac arweinyddion o’i holl deyrnas i’r ‘Tŷ Gwyn ar Daf’ yn Nyfed i astudio cyfreithiau’r gwahanol daleithiau a’u cyfundrefnu yn un gyfraith unedig a theg i’w genedl. Disgrifiwyd ‘Cyfraith Hywel’ fel un o ryfeddodau Hanes Cymru ac o ganlyniad gellir nodi eu bod yn hynod o bwysig. Cerfiwyd enghreifftiau o’r cyfreithiau ar blaciau o lechi sydd wedi eu haddurno mewn enamel hardd ar waliau’r gerddi.
Wedi ei greu yn 1997, dyma’r unig Gymdeithas Gymreig sy’n ymroddedig i astudio brwydrau Cymreig.
Cymdeithas Cofio Llywelyn Society
Mae'r coffau blynyddol o farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282 yn digwydd ar ail benwythnos mis Rhagfyr bob blwyddyn yng Nghilmeri ac Abaty Cwm Hir.