Er mawr syndod i’r Eglwys Gymreig ym Mhennal ar Fawrth 31ain 1406, anfonodd Owain Glyndŵr lythyr yn Lladin at frenin Ffrainc Siarl VI. Cliciwch yma i weld testun llawn y llythyr. Mae’n arwyddocaol oherwydd mae’n amlygu uchelgeisiau Owain ar gyfer Cymru fel gwlad annibynnol. Ysgrifennodd at y brenin oherwydd roedd o am ei gefnogaeth i waredu Cymru o lywodraeth ormesol Lloegr (roedd yna reolau gwahaniaethol llym roedd yn ffafrio’r Saeson dros y Cymry yng Nghymru). Yn gyfnewid am gefnogaeth y Ffrancwyr roedd Owain yn barod i gydnabod Benedict XIII o Avignon fel y Pab (yn lle’r Pab yn Rhufain -Pab Innocent VII -roedd y Saeson yn cydnabod), Roedd yn nisgwyliedig byddai Benedict yn cefnogi mwy o benodiadau eglwysig yng Nghymru.
Cyn adeg Owain roedd yr esgobion gan amlaf o Loegr. Rhwng 1372 a 1400 penodwyd cyfanswm o un ar bymtheg o esgobion, a dim ond un roedd yn Gymro. Ymgyrchodd Owain am glerigwyr Cymreig (yn ogystal â rhai oedd yn gallu siarad Cymraeg).
Galwodd am grwsâd yn erbyn Harri IV a maddeuant ar gyfer ei gefnogwyr i gyd. Tŷ Ddewi fyddai sedd Archesgob Cymru, a byddai’i arglwyddiaethau yn cynnwys yr esgobaethau o Gaerwysg, Caerfaddon, Henffordd, Caerwrangon, Coventry a Litchfield, a drwy hyn dychwelyd y trefniant oedd wedi’i weithredu yn gynharach yn hanes Prydain. Byddai’r incwm o’r mynachlogydd yn cael ei gadw yng Nghymru. Roedd ei gweledigaeth hefyd yn cynnwys sefydlu dwy brifysgol- un ar gyfer gogledd Cymru ac un i dde Cymru (ar y pryd roedd ond 22 prifysgol yn Ewrop gyfan).
Caiff y llythyr gwreiddiol ei gadw yn yr Archives Nationales ym Mharis ond cyflwynwyd copïau cywir i’r canlynol: Eglwys San Pedr ad Vincula, Pennal; Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth; Amgueddfa Cymru; Prifysgol Glyndŵr; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mwyn eu gwerthfawrogi mae angen gweld y copïau cywir manwl ar femrwn sydd wedi’u paratoi gan staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Defnyddiodd y staff technegau heneiddio arbennig ac ail-grewyd sêl Glyndŵr o fowldiau’r sêl wreiddiol.