Cartrefi Owain Glyn Dŵr
Owain Glyn Dŵr oedd yn dal arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith bob ochr i Fryniau'r Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac etifeddodd hefyd diroedd yng Ngheredigion yng ngorllewin Cymru.
Sycharth
Roedd ei gartref maenoraidd yn Sycharth, plwyf Llansilin ger Clawdd Offa. Roedd ei faenordy a’i diroedd trawiadol yn destun eiddigedd i gyfoeswyr Owain, a disgrifiwyd hwy mewn awdl a gyfansoddwyd gan Iolo Goch yn hwyr yn y 14eg ganrif.
Daethpwyd o hyd i weddillion pren torgoch ar y safle a chadarnhawyd ganddynt i'r adeiladau gael eu llosgi gan fyddin y tywysog Harri (Harri V yn ddiweddarach) yn 1403. Er nad oes dim yn aros uwchben y ddaear o'r tŷ gwreiddiol, mae wedi'i gofrestru fel heneb o bwysigrwydd cenedlaethol.
Am gyfarwyddiadau i Sycharth cliciwch yma.
* Ewch i'n tudalen Sycharth i gael cyfrif llawnach.
Glyndyfrdwy
Roedd Glyndyfrdwy, ail gartref Glyn Dŵr, yn Nyffryn Dyfrdwy tua deng milltir i'r gogledd o Sycharth, ac mae’n debyg iddo gael ei adeiladu ar dwmpath ffosedig yn yr un cae â ‘Mwnt Glyn Dŵr’.
Roedd yn borthdy hela gwych wedi'i amgylchynu gan barcdir, ac roedd gan Owain garchardy yn Ngharrog gerllaw hefyd. Fel Sycharth, llosgwyd adeiladau Glyndyfrdwy i'r llawr gan y tywysog Harri yn 1403.
Ceir cyfarwyddiadau i Glyndyfrdwy a Charrog yma.
Harlech
Ar ôl iddynt gipio Castell Aberystwyth yn 1404, aeth lluoedd Glyn Dŵr ymlaen i gipio Castell Harlech ac yna daliasant hi hyd 1409. Gwnaeth Owain Harlech yn lys a chartref ei deulu yn ystod y cyfnod hwn, ac oddiyno sefydlodd reolaeth effeithiol ar bron yr oll o'r wlad. Fodd bynnag, collodd ei ymgyrch ei symbyliad ar ôl 1406 a chollwyd y castell i'r Saeson yn Chwefror 1409 ar ôl gwarchae hir.
Am gyfarwyddiadau i Gastell Harlech cliciwch yma.
Mae traddodiad lleol yn Swydd Henffordd yn honni i Glyn Dŵr dreulio ei ddyddiau olaf yn teithio rhwng cartrefi ei ferched yn Kentchurch Court, Lawton’s Hope a Chastell Croft, ac iddo farw yn yr ardal tua 1415.
Cyflwyno Delweddau i'w Hehangu