Galwodd Owain o leiaf ddwy senedd, un ym Machynlleth rhywbryd yn 1404 ac yna'r flwyddyn ganlynol yn Harlech. Ar ôl gorchfygiad Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282 nid oedd gan y Cymry unrhyw gynrychiolaeth seneddol. Dywedodd yr awdurdod mwyaf ar hanes Owain, R.R.Davies “ ni ystyriwyd y wlad a’i phobol yn ddigon soffistigedig yn wleidyddol i haeddu’r fath anrhydedd, ac ni fyddai’n cael ei gyflwyno hyd y Deddfau Uno yn 1536”. Gwybod fod gan Glyn Dŵr dogfen yn ymwneud â Hywel Dda (Brenin Cymru yn y ddegfed ganrif) yn ei gartref yn Sycharth ac felly byddai wedi bod yn ymwybodol o’r gŵys oddi wrth Hywel i chwech o ddynion o bob cwmwd yng Nghymru i ymgasglu er mwyn ffurfio cod cyfreithiol i Gymru.  


Er na wyddom lawer am y seneddau yma, rydym yn gwybod i Glyn Dŵr ddilyn esiampl Hywel Dda wrth iddo alw ar bedwar cynrychiolydd o bob cwmwd yng Nghymru i’w senedd yn Harlech. Roedd casglu cynrychiolwyr o Gymru gyfan yn gwneud gosodiad hanesyddol am Gymru fel cenedl ac am ei Thywysog Glyn Dŵr. Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf o’i fath bron i bedair canrif ynghynt; a digwyddodd y cyfarfod tebyg nesaf bron i chwe chanrif yn ddiweddarach o ganlyniad i sefydlu Cynulliad Cymru yn 1999.


Credwyd am ganrifoedd mai yn y Senedd-dŷ (y llun uchod) y cynhaliwyd y senedd gyntaf. Ond mae profion Dendrocronoleg yn dangos ei fod yn adeilad hŷn (1460) ond fe allai adeilad wedi bod ar y safle eisoes. Beth bynnag yw’r tarddiad, mae’r adeilad yn cynnal arddangosfa ardderchog sy’n esbonio hanes Glyn Dŵr. Mae’n cynnwys fideo wedi ei gomisiynu’n benodol, panelu arddangos dwyieithog, system cyfrifiaduron rhyngweithiol, murlun helaeth yn ymwneud â brwydr Hyddgen, copi cywir o’r Llythyr Pennal, darlun hanesyddol a rhwbiad pres.

Arddangosfeydd yng Nghanolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth (gyda chaniatâd caredig y Ganolfan)

Seneddau Owain Glyn Dŵr

"Senedd-dŷ" Glyn Dŵr, Machynlleth

Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Saesneg Diweddariadau

Seneddau

Chwilio'r Wefan