Delweddau
|
Ganwyd Owain ap Gruffydd Fychan (Owain Glyn Dŵr). |
|
|
Owain yn astudio’r gyfraith yn Neuaddau'r Brawdlys yn Llundain |
|
|
Priodi Margaret, merch Sir David Hanmer. |
|
|
Gwasanaeth milwrol dan Sir Gregory Sais yn Berwick on Tweed gyda’i frawd Tudur |
|
Awst |
Cymryd rhan yn ymosodiad Brenin Richard II ar yr Alban. |
|
|
Owain a Tudur yn gwasanaethu yn sgweieriaid i Iarll Arundel. |
|
|
Cymryd rhan yn ymgyrch y Brenin Richard yn yr Iwerddon |
|
|
Richard II yn cael ei ddiorseddu a’i lofruddio. Henry Bolingbroke yn dod yn Henry IV. Cyhoeddi mai ei fab, Harri o Drefynwy, yw ‘Tywysog Cymru’. |
|
|
Owain yn cwyno i’r Senedd fod yr Arglwydd Grey o Ruthun wedi cipio tir oedd yn perthyn iddo. Dilynwyr Owain yn ei gyhoeddi’n Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy ar Fedi 16. Owain a’i gynghreiriaid yn ymosod a llosgi Rhuthun, yna’n symud i Ddinbych, Rhuddlan, y Fflint, Penarlâg a Holt yn ogystal â Chroesoswallt a'r Trallwng. Cawsant eu gorchfygu mewn brwydr i’r gogledd o’r Trallwng. Ar ei ffordd yn ôl o’r Alban anelodd Harri IV am yr Amwythig, yna trwy ogledd Cymru i Sir Fôn, gan losgi ac ysbeilio. Atafaelodd ystadau Owain a’i berthnasau. |
|
Ebrill 1af |
Cipiodd Gwilym a Rhys ap Tudur gastell Conwy. Tywysog Harri a Hotspur (mab Iarll Northumberland) yn derbyn gorchymyn i ddod a'r gwrthryfel i ben. |
|
|
Mai/Gorffennaf |
Brwydr Hyddgen, ger Pumlumon; byddinoedd Owain yn fuddugol. Mae’n mynd ymlaen i Sir Faesyfed. |
|
Hydref |
Gorymdeithiodd y Brenin Harri am yr ail dro i Gymru gan anrheithio a dienyddio cefnogwyr Owain. Cestyll Aberystwyth a Harlech dan warchae gan gefnogwyr Owain ond methwyd cipio’r cestyll. Owain yn dechrau trafodaethau diplomyddol â Brenin Robert o’r Alban, a thrwy hynny yn datgan ei hun yn frenin ar wlad annibynnol. |
Ebrill |
Owain yn dal Arglwydd Grey o Ruthun |
|
|
Mehefin |
Brwydr Bryn Glas ger Pyllalai (Pilleth). Owain yn trechu Edmund Mortimer; gwrthododd y Brenin dalu pridwerth Mortimer. Yn y cyfamser ymunodd Mortimer gydag Owain. Owain yn meddiannu Morgannwg a Gwent. |
|
Medi |
Y Brenin Harri yn arwain ymgyrch arall i Gymru ond yn cael ei drechu gan y glaw! |
|
Tachwedd |
Edmund Mortimer yn priodi Catrin, merch Owain |
Mai |
Harri, ‘Tywysog Cymru’, yn ymosod ar ac yn llosgi cartrefi Owain yn Sycharth a Glyndyfrdwy. Owain yn ymgyrchu yn ne-orllewin Cymru, trwy Aberhonddu; cipio cestyll Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn |
|
|
Gorfennaf 21ain |
Byddin Tywysog Harri yn trechu ac yn lladd Hotspur yn Amwythig ('roedd Hotspur yn frawd yng nghyfraith i Mortimer). |
|
Medi |
Pedwerydd ymgyrch y Brenin i Gymru yn aneffeithiol. |
|
Tachwedd |
Llynges Ffrengig yn ymuno ag Owain i ymosod ar gastell Caernarfon. |
Mai |
Cestyll Aberystwyth a Harlech wedi’u cipio gan Glyn Dŵr. |
|
|
Gorffennaf |
Owain yn rheoli’r rhan fwyaf o Gymru ond y Saeson yn dal eu gafael ar gestyll mawr Edward I yng ngogledd Cymru. Cynghrair ffurfiol â Brenin Ffrainc. |
|
Mehefin/Gorfennaf |
Owain yn cynnal senedd ym Machynlleth (ac yn ôl pob tebyg un yn Harlech y flwyddyn ganlynol). Cael ei goroni’n Dywysog Cymru. |
Chwefror |
Cytundeb Tridarn rhwng Owain, Edmund Mortimer a’r Iarll Northumberland (tad Hotspur). Yn ôl y Cytundeb 'roedd Owain i reoli Cymru a siroedd y gororau tra byddai Mortimer yn rheoli de Lloegr, a Northumberland y gogledd. 'Roedd ffiniau Cymru yn ymestyn i darddiadau’r Merswy a’r Trent ac o fewn ychydig filltiroedd i Birmingham. |
|
|
Mawrth 11eg |
Byddin Tywysog Harri yn trechu’r fyddin Gymreig oedd yn ymosod ar gastell y Grysmwnt. |
|
Mai 5ed |
Brwydr Pwll Melyn (ger Brynbuga). Y Cymry wedi eu trechu; Tudur, brawd Owain, yn cael ei ladd. Cipiwyd Gruffudd, mab Owain, a’i anfon i'r Tŵr (lle bu farw yn ddiweddarach). |
|
Mehefin |
Byddin Lloegr yn ail-gipio castell Biwmares ac yn anrheithio Sir Fôn. |
|
Awst |
Llynges Ffrengig yn hwylio i Aberdaugleddau ac ymuno â chefnogwyr Owain. Ymosodwyd ar nifer o arisynau a threfi’r Saeson. Gyda'i gilydd mi wnaethant orymdeithio tuag at Gaerwrangon. Daethant wyneb yn wyneb â byddin Harri IV yn Woodbury Hill ger Caerwrangon. Ni fu brwydr a dychwelodd y fyddin i Gymru. |
Mawrth 8fed |
Mae llythyr gan Siarl VI o Ffrainc yn ysbrydoli llunio Llythyr Pennal (nawr yn cael ei gadw yn yr archifau yn Ffrainc) sy’n amlinellu cynlluniau uchelgeisiol Owain ar gyfer Cymru - Eglwys Gymreig annibynnol, dwy brifysgol a.y.b. |
|
Awst |
Y Brenin yn ceisio codi gwarchae’r Cymry ar gastell Coety ond yn cael ei drechu gan y glaw. |
|
|
Tywysog Harri yn methu ail-gipio Aberystwyth. |
|
Medi |
Tywysog Harri yn ail-gipio castell Aberystwyth ac yn symud ymlaen i gipio castell Harlech (Llys Owain) ynghyd â’r mwyafrif o deulu Owain. Edmund Mortimer yn marw yn ystod y gwarchae a chaiff y lleill eu hanfon i’r Tŵr. |
|
|
O hyn ymlaen 'roedd Owain a’i gefnogwyr yn ymladd herwryfel. Erbyn tua 1413 roedd Owain yn cuddio. Daeth y Tywysog Harri wedi yn dilyn marwolaeth ei dad; 'roedd yn barod i drafod telerau ac mae’n cynigiodd bardwn, ond nid wnaeth Owain ymateb. |
|
|
Awgryma’r ychydig o dystiolaeth hanesyddol sydd gennym fod Glyn Dŵr wedi marw ym 1415, ond ni wyddom yr union leoliad na dyddiad |
Llinell Amser - Cryno
Digwyddiad