21 Chwefror, 1401 - Adroddodd y Senedd San Steffan fod y Gymry 'mewn hwyliau peryglus'. |
|
Mawrth 1401 - Cyfreithiau Penydiol yn erbyn y Cymry. |
|
1 Ebrill, 1401 - Cipiodd Gwilym a Rhys ap Tudur Gastell Conwy. |
|
31 Mai, 1401 - Roedd Henry Hotspur yn Nolgellau ar gyfer Brwydr Cadair Idris - ac tua'r un pryd roedd John Charleton, Arglwydd Powys, yn ymosod ar luoedd Glyndŵr ger Dinas Mawddwy. |
|
Mehefin 1401 - Ymosododd Hywel Sele ar Glyndŵr yn Nannau, ond cafodd ei ladd a chafodd ei gorff ei ollwng i mewn i goeden wag. |
|
Diwedd Mehefin 1401 - Brwydr Hyddgen, Pumlumon (22 Mehefin, efallai). |
|
24 Mehefin, 1401 - Cymerodd Harri Hotspur rheolaeth Castell Conwy. |
|
Awst 1401 - Mae'n debyg, ymosododd Glyndŵr ar Abaty Cwm Hir, ac yna Sir Faesyfed, Trefaldwyn a'r Trallwng. |
|
Hydref 1401 - Mewn ymateb i Frwydr Hyddgen, ymosododd Harri IV a'i filwyr ar Abaty Ystrad Fflur yn ystod 'Alltaith Frenhinol'. |
|
9 Hydref, 1401 - Cafodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru yn Llanymddyfri gan Harri IV. |
|
2 Tachwedd, 1401 - Brwydr Twtil yng Nghaernarfon. |
|
29 Tachwedd, 1401 - Agorodd Glyndŵr drafodaethau diplomyddol â Brenin Robert o’r Alban ac arglwyddi Iwerddon, ac felly’n datgan ei hun yn frenin annibynnol. |
|
Llinell Amser - 1401
Digwyddiad
Delweddau