6 Mawrth, 1406 - Hywel Gwynedd, cefnogwr Glyndŵr, cafodd ei ladd ar Fynydd Helygain gan fwrdeisiaid o Fflint.



31 Mawrth, 1406 - Anfonodd Glyndŵr ‘Llythyr Pennal’ at Siarl VI, Brenin Ffrainc. Cliciwch yma



4 Ebrill, 1406 - Robert III wedi marw - Brenin yr Alban a chefnogwr Glyndŵr.



Awst 1406 - Ymosododd Henry Dwn ar Gydweli unwaith eto.



Hydref 1406 - Ildiwyd Gŵyr, Dyffryn Tywi a'r rhan fwyaf o Geredigion i Harri IV - yn ôl pob tebyg oherwydd pardwnau a cyhoeddwyd gan y Tywysog Henry.



18 Tachwedd, 1406 - Ymosododd dynion Glyndŵr â Rhuddlan a lladdwyd Maredudd Ieuan Gwyn, ysbïwr am y Saes.



10 Chwefror, 1407 - Ar ôl Glyndŵr golli cefnogaeth yno ym 1405, rhoddwyd pardyn i denantiaid y rhan fwyaf o Sir Fynwy am 'anfadwaith a gwrthryfeloedd yn erbyn y Saeson’.



Mai 1407 - Goruchwyliodd y Tywysog Harri warchae Aberystwyth.



Awst 1407 - Rhoddwyd Castell Harlech dan warchae hefyd.



23 Tachwedd, 1407 - Llofruddiaeth Dug Orleans ym Mharis - un o gefnogwyr Glyndŵr.



19 Chwefror, 1408 - Henry Percy, Iarll Northumberland a cynorthwywr Glyndŵr, cafodd ei ladd ym Mrwydr Bramham Moor ger Wetherby.



23 Medi, 1408 - Syrthiodd Castell Aberystwyth i'r Saeson ar ôl gwarchae hir.



Chwefror 1409 - Daeth gwarchae Castell Harlech i ben a chymerwyd teulu Glyndŵr i Dŵr Llundain - roedd Edmund Mortimer wedi marw yn y castell rywbryd yn ystod y gaeaf caled.



Mai 1409 - Cafodd amddiffynnwr Castell Aberystwyth, Rhys Ddu, ei arteithio i farwolaeth yn Nhŵr Llundain.



16 Mai, 1409 - ‘Ymosodiadau Mawr Diwethaf’ yn y Gororau - achosodd Glyndŵr banig yng Nghroesoswallt, y Knockin a Rhuthun ac yna symudodd i Sir Amwythig.



Mai 1409 - Cafodd Rhys ap Tudor a Philip Scudamore eu hanafu a'u dal yn wael yn y Trallwng, ac yna'u dienyddio yng Nghaer.



Saesneg

Llinell Amser - 1406-1409

                    Digwyddiad                                                                                                                                                                                  

Delweddau

Print
Dangos y Ddewislen Uchaf