DechYr Wythnos Cyntafreuodd 'Gwrthryfel Glyndŵr ar Fedi 16eg, 1400 pan anerchodd Owain gynulleidfa o'i deulu a'i ffrindiau yng Nglyndyfrdwy yn nyffryn Dyfrdwy. Cafodd ei alw’n ‘Fab Darogan’ gan ei ddilynwyr - dyn a fyddai’n arwain y Cymry mewn gwrthryfel yn erbyn eu gormeswyr. I'w wrthwynebwyr yn Lloegr, fodd bynnag, roedd yn gynhyrfwr a oedd yn rhan o wrthryfel cynyddol.

 

 Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, arweiniodd Glyndŵr ymosodiad annisgwyl ar Ruthun gyda chefnogaeth tua 250 o ddynion, lle cafodd y dref ei hysbeilio a'i llosgi ond methiant fu'r cais i gipio'r castell. Clywir yn aml mai ffrae rhwng Owain a’i gymydog Reginald de Grey, arglwydd Rhuthun, am berchenogaeth tir oedd y sbardun arweiniodd at yr ymosodiad, ac felly at y Gwrthryfel.


 Ar ôl ymosod ar Ruthun, symudodd gwŷr Glyndŵr i’r gogledd ac ymosod ar Ddinbych. Unwaith eto, llosgwyd y dref ac ymosodwyd ar y castell, ond methiant fu'r cais i'w gipio. Ailadroddwyd hyn mewn trefi eraill yn yr ardal yn Lloegr ac, erbyn Medi 21ain, ymosodwyd hefyd ar Ruddlan, Fflint, Penarlâg a Holt.


 Wrth symud ymhellach i'r de, cafodd Whittington, Croesoswallt a Felton yr un driniaeth cyn ymosod ar y Trallwng ar Fedi 23ain. Mae'n debyg bod Brwydr Efyrnwy wedi'i hymladd ar y diwrnod canlynol, pan gafodd dynion Owain eu rhyng-gipio a'u gwasgaru gan filwyr Seisnig o'r Amwythig dan arweiniad Hugh Burnell.


 Dyma ddiwedd wythnos gyntaf y Gwrthryfel, ac ar ôl hynny cynigiwyd pardynau i'r holl bobl oedd yn rhan o'r aflonyddwch - heblaw am Glyndŵr a'i gefndryd, Gwilym a Rhys ap Tudur.

Gogledd-ddwyrain Cymru

Ymgyrch 1400

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf