Roedd Glyndŵr yn ffigwr uchel ei barch yng Nghymru ac roedd llawer yn ei ystyried yn Fab Darogan. Byddai mwyafrif o Aelodau ei Deulu wedi bod yn bresennol ar ddechrau'r Gwrthryfel yng Nglyndyfrdwy ym mis Medi 1400, ynghyd â chasgliad mawr o bobl leol yn cynnwys: Hywel Cyffin (Deon Sant Asaph); Crach Ffinnant (proffwyd); ac aelodau o deuluoedd amlwg, megis Madog ap Ieuan ap Madog ac Ieuan ap Hywel Pickhill.
Yn ôl Rhestr Llys achos yng Nghroesoswallt ym mis Hydref 1400, roedd llawer mwy o bobl wedi ymuno ag Owain yn ystod wythnos gyntaf yr Gwrthryfel. Rhestrir yn y ddogfen enwau bron i 50 o ddynion a oedd wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr ymosodiadau ac a ddatganwyd felly yn ‘fradwyr’, yn ogystal â bron i 150 o bobl eraill a gafodd bardwn oherwydd eu bod wedi cael eu ‘gorfodi i gymryd rhan’.
Ymunodd llawer o bobl eraill ag ef wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen ac, yn Lloegr, penderfynnodd gweithwyr i ddychwelyd adref i ymuno â'i achos, a gadawodd myfyrwyr prifysgol yn Rhydychen eu hastudiaethau i wneud yr un peth.
Cipiodd cefndryd Owain, Gwilym a Rhys ap Tudur, Gastell Conwy ym mis Ebrill 1401 ac fe’u hychwanegwyd wedi hynny at restr bradwyr Harri IV. Daeth y brodyr yn raglawiaid o dan orchymyn Glyndŵr, ynghyd ag uchelwyr eraill gyda llawer iawn o brofiad milwrol. Ymhlith y rhain roedd: Rhys Gethin o Lanfair-ym-Muallt; Henry Dwn o Gydweli; Rhys Ddu o Aberteifi; Hywel Gwynedd o Sir y Fflint; a Hywel Coetmor a'i frawd (Rhys Gethin) o Lanrwst.
Aeth nifer o’r dynion hyn ymlaen i golli eu bywydau wrth ymladd dros achos Owain, ynghyd ag eraill nodedig fel Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn Llanymddyfri a William Gwyn ap Rhys Llwyd yn Aberystwyth.
Chwaraeodd crefydd ran sylfaenol ym mywyd beunyddiol yn ystod y cyfnod hwn ac, ynghyd â Hywel Cyffin, ymunodd aelodau blaenllaw o'r clerigwyr â Glyndŵr, megis John Trefor o Lanelwy, Lewis Byford o Fangor a John ap Hywel o Lantarnam.
Roedd gan Owain staff clerigol yn cynnwys Gruffudd Yonge (canghellor), Benedict Comme (clerc) ac Owain ap Gruffudd ap Rhisiart (ysgrifennydd); a bu grŵp o ddiplomyddion hefyd yn weithgar dramor ar ran Glyndŵr, gan gynnwys Yonge, John Hanmer, Maurice Kerry, Hugh Eddouyer a Dafydd ab Ieuan Goch.
Cafodd Glyndŵr gefnogaeth gan wledydd eraill hefyd yn ystod y Gwrthryfel:
- roedd Saeson nodedig a ymunodd â’i achos yn cynnwys Edmund Mortimer, Henry Percy (Iarll Northumberland) a’i fab Henry ‘Hotspur’, a John a Philip Skydmore (neu Scudamore);
- yn Ffrainc, roedd Siarl VI a’i frawd, Dug Orleans, yn gefnogwyr pwysig a drefnodd i fyddinoedd gael eu hanfon i gefnogi Owain, yn ogystal â milwyr fel Jean d'Espagne; a
- rhoddodd brenin yr Alban, Robert III, ei gefnogaeth hefyd.
Cefnogwyr