Gellid dweud mai Brynglas oedd brwydr bwysicaf gwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Cafodd ei ymladd ar lechwedd ger pentref Pilleth (sydd ger Trefyclo) a adnabuwyd yn Brynglas ar Fehefin 22ain 1402. Arweinydd dynion Owain oedd Rhys Gethin- cadfridog mwyaf dawnus a dewr Owain.
Gorymdeithiodd byddin fawr y Saeson- wedi eu harwain gan Syr Edmund Mortimer- ar hyd dyffryn Lugg i ymladd â dynion Owain ym Mrynglas. Roedd gan Mortimer nifer helaeth o ystadau yng Nghymru a’r Gororau ac roedd gan ei nai ifanc gwell hawl i’r goron nac oedd gan Harri IV. Rhannodd y fyddin fach Gymreig- roedd un adran wedi’u gosod ar frig y bryn i annog dynion Mortimer i ymladd â nhw, tra ciliodd y lleill i ddyffryn cudd ochr yn ochr â’r bryn.
Wrth i ddynion Mortimer ymestyn i fyny’r llethr, glawiodd saethau arnynt o ddynion bwa hir Owain gydag effaith marwol. Er roedd gan fyddin Mortimer gyflenwad da o fwâu hir, roeddent yn llai effeithiol wrth gael eu tanio i fyny. Wrth i’r ddwy fyddin ymladd ar y bryn ymosododd dynion Owain- a oedd wedi bod yn cuddio yn y dyffryn- ar ddynion Mortimer o’r ochr dde. Yn ystod y frwydr waedlyd, ymunodd nifer o ddynion bwa Cymreig Mortimer â dynion Owain. Roedd anrhefn ym myddin y Saeson a chipiwyd Mortimer. Yn hwyrach fe ddaeth yn gefnogwr pybyr i Glyn Dŵr a briododd Catrin, merch Owain.
Fe wnaeth y fuddugoliaeth gyfraniad cynhwysfawr i’r rheolaeth gynyddol sefydlodd Owain yng Nghymru yn y blynyddoedd canlynol.
Mae yna fynediad i faes y gad drwy lwybr byr sydd i ffwrdd o’r B4356 rhwng Llanandras a Monaughty (mae’r llwybr yn addas i geir). Mae yna faes parcio o faint da ger yr Eglwys ynghyd a phanel llawn lliw sy’n dehongli’r frwydr. Gwelwch arwyddion i faes y gad. Roedd nifer o adrannau o’r eglwys yn sefyll adeg y frwydr ac mae wedi elwa o adferiad sylweddol yn ddiweddar. Claddwyd nifer o’r meirw mewn safle sydd wedi nodi heddiw gan grŵp o goed Wellingtonia (gweler y llun) a chladdwyd eraill yn fynwent yr eglwys uwchben.
Mae’r Gymdeithas yn ddyledus i Bryan Davies o Frycheiniog am gynllun maes y gad
Gellid dweud mai Brynglas oedd brwydr bwysicaf gwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Cafodd ei ymladd ar lechwedd ger pentref Pilleth (sydd ger Trefyclo) a adnabuwyd yn Brynglas ar Fehefin 22ain 1402. Arweinydd dynion Owain oedd Rhys Gethin- cadfridog mwyaf dawnus a dewr Owain.
Brwydr Brynglas (Pilleth)
Brwydr Brynglas