1066  Goresgyniad y Normaniaid ar Loegr


Gorchfygodd a lladdodd William o Normandi Harold Godwinson, unig lywodraethwr Lloegr, ym mrwydr Hastings. Roedd gan Gymru, fodd bynnag, nifer o wahanol reolwyr yn dilyn marwolaeth Gruffudd ap Llywelyn yn 1063, a sylweddolodd y Normaniaid y cymerai hwy lawer yn hwy i orchfygu y wlad.

Buan iawn y sefydlodd William glustogfa ar hyd y ffin o Gaer i Gas-gwent o'r enw Y Mers, a chreodd dair iarllaeth i'w rheoli. Gosododd rai o'i farchogion mwyaf arswydus fel ieirll i reoli'r ardal: Hugh d'Avranches yng Nghaer; Roger de Montgomerie yn Amwythig; a William FitzOsbern yn Henffordd.


1067  Gwent


Goresgynodd William FitzOsbern Went a dyma'r deyrnas gyntaf i'w meddiannu gan y Normaniaid. Dechreuodd FitzOsbern ar unwaith adeiladu Castell Cas-gwent.


1069  Brwydr Mechain


Bleddyn a Rhiwallon ap Cynfyn yn trechu Maredudd ac Ithel, meibion ​​Gruffudd ap Llywelyn, mewn brwydr ger Llanfechain. Bleddyn yn unig a oroesodd, fodd bynnag, a chymerodd reolaeth wedyn ar Wynedd a Phowys.


1072  Brwydr Pont Rhymni


Lladdwyd Maredudd ab Owain ab Edwin, tywysog Deheubarth, yn y frwydr yng Nghaerdydd gan Caradog ap Gruffudd, gyda chefnogaeth llu Normanaidd. Dilynwyd Maredudd fel arweinydd gan ei frawd, Rhys.


1075  Brwydr Camddwr


Gorchfygwyd Caradog ap Gruffudd gan Rhys ab Owain ab Edwin ger Llanwrtyd - Bu Rhys hefyd yn rhan o ladd Bleddyn ap Cynfyn tua'r un amser.


1075  Brwydrau Bron-yr-erw a Gwaeterw


Ymladdwyd dwy frwydr rhwng Trahaearn ap Caradog a Gruffudd ap Cynan am reolaeth Gwynedd ar ôl marwolaeth Bleddyn ap Cynfyn.


1078  Brwydr Pwllgwdig


Gorchfygwyd Rhys ab Owain gan Trahaearn ap Caradog mewn brwydr ger Abergwaun, a lladdodd Trahaearn ef wedyn i ‘ddial gwaed’ ei gefnder, Bleddyn ap Cynfyn.


1081  Brwydr Mynydd Carn


Unodd Rhys ap Tewdwr â Gruffudd ap Cynan o Ynys Môn, i drechu byddin dan arweiniad Trahaearn ap Caradog o Arwystli , Caradog ap Gruffudd o Forgannwg , a Meilyr ap Rhiwallon ap Cynfyn o Bowys, ar Fynydd Preseli.


Cipiwyd Gruffudd ap Cynan gan y Normaniaid yn fuan wedi brwydr Mynydd Carn a chadwyd ef yn garcharor hyd 1094; bu wedyn yn llywodraethu Gwynedd hyd ei farwolaeth yn 1137. Roedd Rhys ap Tewdwr wedi cymryd rheolaeth o'r Deheubarth ar ôl Mynydd Carn ac yna'n gorfod ei amddiffyn rhag ymosodiadau.


1088  Brwydr Llechryd


Gorchfygwyd Cadwgan, Madog a Rhiryd ap Bleddyn ap Cynfyn gan Rhys ap Tewdwr mewn brwydr ger afon Teifi - Lladdwyd Madog a Rhiryd ond llwyddodd Cadwgan i ddianc.


1091  Brwydr Llandudoch


Gorchfygodd Rhys ap Tewdwr Gruffudd ap Maredudd ger aber Teifi yn Llandudoch.


1093  Brwydr Batl


Lladdwyd Rhys ap Tewdwr mewn brwydr ger Aberhonddu gan lu Normanaidd dan arweiniad Bernard de Neufmarché, a oedd wedi cael y dasg o orchfygu Brycheiniog.


1093  Brwydr Rhiwbeina


Lladdwyd Iestyn ap Gwrgant o Forgannwg gan lu dan arweiniad Robert Fitzhamon, a oedd wedi cael y dasg o orchfygu Morgannwg.


Gwrthwynebodd y Cymry y datblygiadau Normanaidd i De Cymru drwy'r 1090au ond, erbyn i Harri I gael ei goroni'n frenin Lloegr ar ddechrau'r 12fed ganrif, roedd y Normaniaid wedi estyn y Mers o Went i Sir Benfro.


Daeth nifer o arweinwyr arwyddocaol i'r amlwg yng Nghymru yn ystod y 12fed ganrif. Roedd y rhain yn cynnwys: Gruffudd ap Cynan o Wynedd a'i feibion, Owain, Cadwallon a Cadwaladr; Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr o'r Deheubarth a'i fab, Rhys; Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn ym Mhowys, a'i fab, Madog; Caradog ab Iestyn ap Gwrgant ac arglwyddi Afan; a Madog ab Idnerth a'i feibion, Einion Clud a Cadwallon, yn Rhwng Gwy a Hafren.


1116   Marwolaeth Owain ap Cadwgan


Gorchfygwyd Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr gan lu Normanaidd mewn brwydr ger Aberystwyth, a lladdwyd Owain ap Cadwgan gan gwmni o Fflemiaid ym mrwydr Ystrad Rwnws ger Nantgaredig - er ei fod yng ngwasanaeth Harri I o Loegr.


1118  Brwydr Maes Maen Cymro


Gorchfygwyd Goronwy ab Owain o Ddyffryn Clwyd gan Hywel ab Ithel o'r Rhos a Rhufeiniog a Maredudd ap Bleddyn mewn brwydr waedlyd ym Maes Maen Cymro yn Rhewl ger Rhuthun. Roedd byddin Goronwy a'i frodyr yn cynnwys marchogion Normanaidd o diroedd iarll Caer.


1132  Marwolaeth Cadwallon ap Gruffudd


Roedd meibion ​​Gruffudd ap Cynan yn arwain ei luoedd erbyn 1120, ond lladdwyd Cadwallon ap Gruffudd gan ei gefndryd cyntaf, Cadwgan ap Goronwy ac Einion ab Owain, yn Nanheudwy ger Llangollen yn 1132.


Yna bu tair brwydr arwyddocaol yn 1136 i amddiffyn Deheubarth yn erbyn y Normaniaid.


1136  Brwydr Gŵyr


Gorchfygodd Hywel ap Maredudd o Frycheiniog lu Normanaidd ar Gŵyr ddechrau'r flwyddyn.


1136  Brwydr Maes Gwenllïan


Lladdwyd Gwenllïan ferch Gruffudd ap Cynan - a gwraig Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr - pan orchfygwyd ei byddin gan lu Normanaidd dan arweiniad Maurice de Londres yng Nghydweli. Cafodd ei meibion, Morgan a Maelgwyn, eu lladd hefyd.


1136  Brwydr Crug Mawr


Gorchfygodd Owain Gwynedd, ei frawd Cadwaladr, a Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr lu Normanaidd mawr yng Nghrug Mawr ger Aberteifi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


1137  Marwolaeth Gruffudd ap Cynan


Bu farw Gruffudd ap Cynan - fel y gwnaeth ei fab-yng-nghyfraith, Gruffudd ap Rhys - a daeth Owain Gwynedd yn arweinydd y Cymry.


Print
Saesneg

Bleddyn ap Cynfyn tan Gruffudd ap Cynan

Dangos y Ddewislen Uchaf