626  Ymosod ar Ynys Môn


Goresgynodd Edwin o Northumbria Ynys Môn a gorfodi brenin newydd Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, i alltudiaeth. Dychwelodd Cadwallon i Gymru a threchu Penda o Mersia mewn brwydr, cyn ffurfio cynghrair gyda fe.


633  Brwydr Heathfield


Gorchfygwyd Edwin o Northumbria gan Cadwallon ap Cadfan a Penda o Mersia ym mrwydr Heathfield ger Doncaster.


634  Brwydr Heavenfield


Lladdwyd Cadwallon ap Cadfan gan Oswald o Bernicia ym mrwydr Heavenfield, ger Mur Hadrian yn Hexham.


Tua 650 Undeb Dyfed a Brycheiniog


Priododd Cloten ap Nowy o Ddyfed â Ceindrech ferch Rhiwallon o Frycheiniog ac unodd y ddwy deyrnas. Yn gynnar yn yr 8fed ganrif, lleihawyd y teyrnasoedd hyn pan oresgynnwyd Dyfed gan Seisyll ap Clydog o Geredigion ac y crewyd teyrnas Seisyllwg.


658  Brwydr Tren Powys


Gorchfygodd byddin Eingl-Sacsonaidd Cynddylan ap Cyndrwyn o Bengwern mewn brwydr ger Baschurch. Disgrifiwyd hyn yn y gerdd ‘Canu Heledd’, yr hon a ysgrifenwyd gan ei chwaer i alaru am ei farwolaeth a marwolaethau ei brodyr eraill yn y frwydr. Yn y pen draw, amsugnwyd Pengwern i Mersia.

Bu'n rhaid i'r Cymry hefyd ddelio â dinistr a achoswyd gan newyn a phlâu cyson yn ystod degawdau canol y 7fed ganrif.


721  Brwydrau Garthmaelwg a Pen-cwm


Arweiniodd Rhodri Moelwynog ab Idwal o Wynedd y Cymry i drechu lluoedd Aethelbald o Fersia mewn dwy frwydr ger y ffin ym Maelienydd.


743  Brwydrau yn Ergyng ac Anergyng


Gwrthyrrodd Ithel ap Morgan o Glywysing a Gwent ymosodiadau gan Aethelbald a Cuthred o Gegwis yn ne-ddwyrain Cymru.


760-796 Offa o Mersia


Ymladdodd Offa o Mersia nifer o frwydrau yn erbyn y Cymry yn ystod rhan olaf yr 8fed ganrif: yn Henffordd yn 760; yn De Cymru yn 778 a 784; ac mewn brwydrau gerllaw Rhuddlan yn 795 a 796, lle lladdwyd Caradog ap Meirion o Wynedd a Maredudd ap Tewdr o Ddyfed, yn y drefn honno. Fodd bynnag, lladdwyd Offa ei hun yn fuan wedyn.


825  Merfyn ap Gwriad (Merfyn Frych)


Bu farw Hywel ap Rhodri Molwynog o Wynedd yn 825 a dilynwyd ef gan ei or-nai, Merfyn Frych. Merfyn oedd brenin cyntaf Gwynedd i beidio â disgyn o linach wrywaidd Cunedda, a ffurfiodd gynghrair â Phowys pan briododd â Nest ferch Cadell.


844  Rhodri ap Merfyn


Bu farw Merfyn Frych yn 844 a dilynwyd ef yn frenin Gwynedd gan ei fab, Rhodri.

Roedd grym Mersia yn dirywio erbyn hyn, ac roedd Gegwis yn gynyddol yn dyfod yn brif rym yr ochr arall i'r ffin. Roedd Cymru wedi dechrau cyfnod o dwf a mwy o annibyniaeth yn ystod teyrnasiad Merfyn, fodd bynnag, a barhawyd wedyn gan Rhodri.


Mae Rhodri yn adnabyddus am amddiffyn y wlad yn erbyn nifer o ymosodiadau Eingl-Sacsonaidd a Llychlynnaidd, ac y mae yn dra thebyg iddo gymeryd rheolaeth ar Bowys a Seisyllwg yn ystod ei deyrnasiad. Rhoddwyd yr enw ‘Rhodri Mawr’ iddo ychydig ganrifoedd ar ôl ei farwolaeth.

Print
Saesneg

Cadwallon ap Cadfan tan Merfyn Frych

Dangos y Ddewislen Uchaf