Rhagor o Wybodaeth

O ymadawiad y Rhufeiniaid yn y bumed ganrif OC tan i'r Normaniaid gyrraedd yn 1067, roedd Cymru yn wlad annibynnol. Yn y cyfnod hwn rhannwyd y wlad i nifer o deyrnasoedd bychain. Roedd aml i frwydr rhwng y rhain a gyda'u cymdogion yn Lloegr. Roedd gan Gymru ei heglwys annibynnol, ei hiaith, ei llenyddiaeth a'i diwylliant.

Daeth newid dramatig pan goncrwyd Lloegr gan y Normaniaid yn 1066. Yn y flwyddyn ganlynol, pan ddaeth y Normaniaid i Gymru, sicrhaodd William I ('Y Concwerwr') fod nifer o arglwyddi Normanaidd yn cael tir ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Prysurodd y rheini i ymgyrchu o ganolfannau fel Cas-gwent, Amwythig, Henffordd a Chaerlŷr i gipio tiroedd mwyaf ffrwythlon Cymru. Bu'r cystadlu rhwng brenhinoedd Cymru o dipyn o fantais i'r ymosodwyr. Sefydlodd y Normaniaid gestyll yng nghanolfannau fel Cas-gwent, Caerdydd, Aberhonddu, Y Fenni, Castell Nedd, Abertawe, Penfro ac Aberteifi. Adnabuwyd y tiroedd hyn ar hyd y ffin gyda Lloegr - gynt yn perthyn i Gymru, ond erbyn hyn dan reolaeth y Normaniaid - fel 'Y Mers'. Roedd y Cymry yn dal eu gafael ar yr ucheldiroedd mynyddig, ond roeddynt dan fygythiad cyson arglwyddi'r Mers a brenin Lloegr.

Sefydlwyd bwrdeistrefi ger y cestyll i greu cartrefi i'r Eingl-Normaniaid a gelwid y bwrdeistrefi hyn a'r tir o'u cylch yn Saesonaethau. Roedd y cymunedau yn dilyn deddfau Eingl-Normanaidd, ac roedd trefn faenoraidd yn bodoli. Gelwid y tiroedd y tu allan i'r bwrdeistrefi - tir mynyddig ar y cyfan - yn frodoraethau. Yma roedd y Cymry yn dilyn eu ffordd draddodiadol o fyw. Roedd masnach rhwng y ddwy gymuned yn sicrhau eu bod yn cymysgu a'i gilydd. Roedd cyfreithiau Cymreig yn gweithredu yn y brodoraethau. Serch hynny roeddynt yn dioddef o gyfreithiau gormesol a gwahaniaethol Eingl-Normanaidd. Y canlyniad oedd bod y Cymry a statws israddol yn ei gwlad eu hun.

Bu gwrthsafiadau yn erbyn yr Eingl-Normaniaid gan dywysogion Deheubarth a Phowys, a hefyd yn ne-ddwyrain Cymru, ond y gwrthsafiad mwyaf ddaeth o gyfeiriad tywysogion Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru. Roedd tywysogion Gwynedd yn awyddus i ehangu eu pŵer a'i dylanwad trwy ffurfio cynghreiriau gyda'r tywysogaethau llai, a herio rheolaeth yr Eingl-Normaniaid. Y mwyaf o dywysogion Gwynedd oedd Llywelyn ap Iorwerth adnabyddid fel Llywelyn Fawr (1173 - 1240) a Llywelyn ap Gruffudd ('Llywelyn ein Llyw Olaf') 1247 - 82. Yn ogystal â bod yn arweinwyr milwrol cryf, roedd gan y ddau sgiliau diplomyddol sylweddol, a daeth y ddau i reoli'r rhan fwyaf o dir Cymru. Cafodd Llywelyn ap Gruffudd ei gydnabod fel Tywysog Cymru gan Harri III o Loegr yng Nghytundeb Trefaldwyn yn 1267.

Roedd olynydd y brenin Harri, Edward I (1272 - 1307) yn eithriadol o gryf a didostur, a gwrthododd dderbyn fod Llywelyn yn Dywysog Cymru. Lladdwyd Llywelyn mewn rhagod yn 1282, a lladdwyd ei frawd Dafydd yn Amwythig yn 1283. Gyda marwolaeth Dafydd, daeth llinach Gwynedd i ben.  Cymeriadau nodedig ein hanes i fyny i'r amser hyn oedd Rhodri Mawr (m.877), Hywel Dda (m.950), Gruffudd ap Llywelyn (m.1063), Gruffudd ap Cynan (m.1137), Owain Gwynedd (m.1170) a Rhys ap Gruffudd -  'Yr Arglwydd Rhys' (m.1197).

Cipiodd Edward y tiroedd yng ngogledd Cymru fu gynt yn nwylo'r tywysogion, a sicrhau ei afael arnynt trwy adeiladu cestyll cadarn fel Caernarfon, Conwy a Harlech. Sefydlwyd bwrdeistrefi ger y cestyll i fod yn gartrefi i fasnachwyr a chrefftwyr o Loegr a'u teuluoedd. Roedd y bwrdeistrefi yn gaeth i gyfreithiau a llywodraeth Seisnig.   

Rhannwyd Gwynedd i dair sir - Môn, Caernarfon a Meirionnydd. Roedd rheolaeth y rhain yn debyg i'r hyn oedd yn digwydd yn Lloegr. Adnabuwyd y tair sir, gyda Fflint yn y gogledd-ddwyrain, a siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi yn y de fel Y Dywysogaeth. Am dros 250 o flynyddoedd rhannwyd Cymru'n ddwy - y Dywysogaeth a'r Mers. Yn 1301 cyhoeddodd Edward I mai ei fab Edward fyddai yn Dywysog Cymru, ac ef gafodd y cyfrifoldeb o reoli Cymru.  

Yn y cyfnod pan oedd Cymru o dan reolaeth estroniaid bu nifer fawr o Gymry yn gwasanaethu ym myddinoedd brenhinoedd Lloegr - roeddynt yn cael eu gwerthfawrogi'n arbennig am eu sgiliau ar y bwa hir. Gwnaethant gyfraniad sylweddol i'r buddugoliaethau ym mrwydrau Creçy (1346) a Poitiers (1356).

Yn y ganrif hon roedd cyflwr y Cymry yn druenus. Tra roedd y bwrdeistrefi yn ffynnu, roedd y Cymry yn dioddef o gyfreithiau gwahaniaethol a threthi trwm; roedd y Cymry yn cael eu trin fel personau  israddol yn eu gwlad eu hun. Yn y gorffennol penodwyd Cymry fel esgobion yng Nghymru, ond rhwng 1372 a 1400 o'r 16 o esgobion a benodwyd, un yn unig oedd yn Gymro.

Yn 1348 cyrhaeddodd y Pla Du a chollwyd un rhan o dair o boblogaeth Cymru. Dychwelodd y pla yn 1361, 1369, 1379,a 1391.

Daeth y chwilio am Fab Darogan i'w benllanw yn 1400 pan gyhoeddwyd Owain ap Gruffudd Fychan ('Owain Glyndŵr') yn Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr. Roedd Glyndŵr yn gymwys iawn gan ei fod yn ddisgynnydd uniongyrchol o linachau Powys a Deheubarth a hefyd a chysylltiadau cryf a llinach Gwynedd. Roedd y cyhoeddiad yn her feiddgar i goron Lloegr, a bu gwrthryfel yn erbyn gormes y Saeson. Erbyn 1405 roedd bron Cymru gyfan yn nwylo Glyndŵr, yn cynnwys cestyll Aberystwyth a Harlech. Cynhaliodd ddwy Senedd. Mewn llythyr at frenin Ffrainc (Llythyr Pennal) datganodd Glyndŵr ei fwriad i sefydlu dwy brifysgol ac i sicrhau fod gan Gymru eglwys annibynnol (roedd gan Glyndŵr gysylltiadau diplomyddol cryf gyda Ffrainc). Daeth cymorth milwrol hefyd o Ffrainc. Ysywaeth, erbyn 1410 roedd yr ymgyrch wedi gwanychu a bu'n rhaid iddo guddio. Bu farw yn 1415.

Am ragor o wybodaeth am hanes Glyndŵr dilynwch y linc: Hanes Glyndŵr

Daeth yr Oesoedd Canol i ben 70 mlynedd yn hwyrach pan ddaeth Harri VII, anwyd yng Nghymru, ac yn ddisgynnydd o linach Gwynedd, i hawlio coron Lloegr a sefydlu brenhinlin y Tuduriaid.                                                                                                                                                                                                                                                                  

Am ragor o wybodaeth am Gymru'r Canoloesoedd: Cymru yn yr Oesoedd Canol

Cyflwyniad

Print
Saesneg
Dangos y Ddewislen Uchaf