Oes y Tywysogion – Pobl Enwog
844 – 1415
Disgrifiad o rai o'r bobl enwog o'r rhan hon o hanes Cymru
1 Merfyn ap Gwriad – Merfyn Frych [Brenin = B] Marw: 844
Bu Merfyn yn teyrnasu dros Wynedd o tua 825 tan 844. Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Gwynedd nad oedd yn ddisgynnydd o linach wrywol Cunedda. Yn anffodus, ni wyddom fawr am ei hanes ac eithrio'r ffaith mai ei olynydd oedd ei fab, Rhodri Mawr.
2 Rhodri ap Merfyn – Rhodri Mawr [B] Marw: 878
Roedd Rhodri'n byw rhwng tua 820 a 878. Dilynodd ei dad fel Brenin Gwynedd, ac yna aeth ymlaen i uno Powys a Cheredigion. Amddiffynnodd Cymru yn erbyn y Sacsoniaid a'r Llychlynwyr ac ystyriwyd ei deyrnasiad yn drobwynt yn hanes Cymru.
3 Hywel ap Cadell – Hywel Dda [B] Marw: 950
Roedd Hywel yn ŵyr i Rhodri Mawr a Hywel fu'n gyfrifol am sefydlu Tŷ’r Deheubarth. Daeth i deyrnasu dros y rhan fwyaf o'r wlad fel Brenin, a galwodd gyfarfod yn Hendy-gwyn ar Daf lle crëwyd deddfau Cymreig. Erbyn diwedd ei deyrnasiad roedd gan Gymru un iaith, un grefydd ac un gyfres o gyfreithiau.
4 Maredudd ab Owain [B] Marw: 999
Roedd Maredudd yn ŵyr i Hywel Dda a daeth yn Frenin Gwynedd yn 986. Ar farwolaeth ei dad yn 988 daeth hefyd i fod yn Frenin Deheubarth. Treuliodd Maredudd ran sylweddol o'i deyrnasiad yn amddiffyn Cymru rhag y Llychlynwyr.
5 Llywelyn ap Seisyll [B] Marw: 1023
Bu Llywelyn yn fuddugol mewn brwydr yn 1018 i fod yn Frenin Gwynedd. Bu hefyd yn Frenin Deheubarth yn 1022 pan enillodd frwydr yn Abergwili, ger Caerfyrddin. Yn ôl Brut y Tywysogion, bu teyrnasiad Llywelyn yn llewyrchus.
6 Gruffudd ap Llywelyn [B] Marw: 1063
Bu Gruffudd yn Frenin Gwynedd a Phowys rhwng 1039 a 1055. Yna daeth yn Frenin Cymru ac amddiffynnodd Cymru rhag ymosodiadau estroniaid. Cafodd ei lofruddio yn Eryri, ond roedd ei deyrnasiad yn arwyddocaol iawn i'r genedl - ef oedd y person olaf i ddal y teitl Brenin Cymru.
7 Bleddyn ap Cynfyn [B] Marw: 1075
Roedd Bleddyn yn ŵyr i Maredudd ab Owain a daeth i fod yn Frenin Gwynedd yn 1063. Yn dilyn
buddugoliaeth ym Mrwydr Mechain yn 1069 daeth yn Frenin Powys. Mae'n debygol mai Rhys ab
Owain oedd yn gyfrifol am lofruddio Bleddyn yn 1075.
8 Rhys ap Tewdwr [B] Marw: 1093
Coronwyd Rhys yn Frenin Deheubarth yn 1079 a ffurfiodd gynghrair gyda Gruffudd ap Cynan o Wynedd. Rheolodd dros ei deyrnas tan 1088 pan gafodd ei alltudio gan feibion Bleddyn ap Cynfyn. Dychwelodd Rhys ychydig fisoedd wedyn i ail-gipio Deheubarth ond fe'i lladdwyd gan y Normaniaid ym Mrwydr Brycheiniog.
9 Gruffudd ap Cynan [B] Marw: 1137
Ganwyd Gruffudd yn Nulyn yn 1055, ac roedd yn hanner Cymro a hanner Llychlynnwr. Yn 1081 ymunodd a byddin Rhys ap Tewdwr a bu'n fuddugol ym Mrwydr Mynydd Carn, ond yn hwyrach cafodd ei gipio gan y Normaniaid a'i garcharu am 12 mlynedd. Wedi dianc aeth ymlaen i fod yn frenin ar Wynedd am bron 40 mlynedd, ac fe'i hystyriwyd fel 'amddiffynnwr a heddychwr Cymru gyfan'.
10 Gwenllïan ferch Gruffudd Marw: 1136
Merch Gruffudd ap Cynan oedd Gwenllïan, a gwraig Gruffudd ap Rhys. Pan roedd ei gwr yn ymladd yng Ngwynedd gadawyd Gwenllïan i amddiffyn ardal Cydweli. Fe'i lladdwyd wedi brwydr ar Faes Gwenllïan, ond cafodd ei henw ei ddefnyddio fel galwad i uno'r Cymry mewn brwydrau wedi ei marwolaeth.
11 Gruffudd ap Rhys Marw: 1137
Mab Rhys ap Tewdwr oedd Gruffudd ac fe briododd Gwenllïan ferch Gruffudd. Yn 1136 ymunodd byddin Gruffudd a byddinoedd ei frodyr-yng-nghyfraith, Owain Gwynedd a Cadwaladr, i ymladd yn erbyn y Normaniaid. Wedi marwolaeth ei wraig ymladdodd Frwydr Crug Mawr, ger Aberteifi, gan drechu'r Normaniaid ac achosi colledion sylweddol i'w byddin.
12 Madog ap Meredudd [B] Marw: 1160
Ŵyr i Bleddyn ap Cynfyn oedd Madog. Priododd a Susanna, merch Gruffudd ap Cynan. Daeth y briodas a chynghrair heddychlon rhwng Powys a Gwynedd am nifer o flynyddoedd tan ymosodai Owain Gwynedd ar ogledd Powys. Yn 1157 ymunodd Madog ag ymgyrch Harri II yn erbyn Owain ond wedi hynny treuliodd weddill ei fywyd yn byw yn heddychlon ac fe'i claddwyd ym Meifod.
13 Owain Gwynedd [B – Tywysog = T] Marw: 1170
Bu Owain yn Frenin Gwynedd o 1137 tan ei farwolaeth yn 1170. Ef oedd y person cyntaf i alw ei hunan yn 'Dywysog Cymru' ac i sefydlu cynghrair gyda Brenin Ffrainc. Bu'n fuddugol yn erbyn byddin Harri ym mrwydr Crogen yn 1165.
14 Rhys ap Gruffudd – Yr Arglwydd Rhys Marw: 1197
Ganwyd Arglwydd Rhys yn fab i Gruffydd ap Rhys a Gwenllïan yn 1132. Rheolodd dros Ddeheubarth o 1155 a daeth i fod y rheolwr mwyaf pwerus yng Nghymru ers marwolaeth Owain Gwynedd. Cefnogodd fynachlogydd Hendy-gwyn ar Daf ac Ystrad Fflur. Adeiladodd Gastell Aberteifi, lle cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176.
15 Llywelyn ap Iorwerth - Llywelyn Fawr Marw: 1240
Roedd 'Llywelyn Fawr' yn ŵyr i Owain Gwynedd a Madog ap Maredudd, a daeth i reoli dros Wynedd gyfan yn 1199. Daeth i gytundeb gyda Brenin John o Loegr yn 1201 ac fe briododd Joan, merch John. Yn 2012 bu John yn pwyso ar dywysogion Cymreig eraill, ac arweiniodd hyn at y rheini i gefnogi Llywelyn mewn gwrthryfel arweiniodd, yn rhannol, i lunio'r Magna Carta.
16 Llywelyn ap Gruffudd - Llywelyn Ein Llyw Olaf [T] Marw: 1282
Ŵyr i Llywelyn Fawr oedd Llywelyn, a daeth i fod yn 'Dywysog Cymru'. Yn 1267 arwyddodd gytundeb yn cydnabod Harri III fel ei arglwydd ac, yn dilyn y penderfyniad hwn, derbyniodd gefnogaeth tywysogion eraill Cymru. Gwrthryfelodd Llywelyn yn 1282 yn erbyn teyrnasiad gormesol Edward I, ond collodd ei fywyd mewn sgarmes yng Nghilmeri, ger Llanfair-ym-muallt.
17 Dafydd ap Gruffudd [T] Marw: 1283
Brawd ieuangaf Llywelyn ap Gruffudd oedd Dafydd ac ef ddaeth yn olynydd iddo fel Tywysog Cymru yn 1282. Newidiodd ei deyrngarwch rhwng Llywelyn a'r Saeson nifer o weithiau cyn cymodi gyda'i frawd yn 1277. Cipiwyd Dafydd ym Mehefin 1283 ond ym Mis Hydref ac ef oedd y pendefig cyntaf i'w grogi, yna ei drywanu a rhannu ei gorff yn bedwar.
18 Gwenllïan ferch Llywelyn Marw: 1337
Ganwyd Gwenllïan ym Mehefin 1282 yn unig blentyn i Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montfort. Bu ei rhieni farw cyn iddi gyrraedd 6 mis oed, ac roedd Edward I o Loegr yn ystyried y gallai fod yn fygythiad yn y dyfodol. Cymerwyd Gwenllïan i Leiandy yn Sempringham. Yno treuliodd weddill ei hoes, gan farw yno yn 1337 yn 54 mlwydd oed.
19 Owain ap Tomos - Owain Lawgoch [T] Marw: 1378
Roedd Owain ap Tomos yn ŵyr i Rhodri ap Gruffudd, ac yn frawd i Llywelyn a Dafydd. Treuliodd ei blentyndod yn Tatsfield, ger Llundain. Penderfynodd dilyn gyrfa fel milwr yn ymladd ledled Ewrop. Arweiniodd fyddin o hurfilwyr dros y Ffrancod yn y Rhyfel Canrif. Yn 1378 llofruddiwyd Owain ger Mortagne-sur-Gironde yn Ffrainc gan ysbïwr o Loegr i sicrhau na fyddai'n dychwelyd i Gymru fel 'Tywysog Cymru'.
20 Owain ap Gruffudd Fychan - Owain Glyndŵr [T] Marw: 1415
Owain oedd 'Y Mab Darogan' ddaeth i achub Cymru yn ei hargyfwng pennaf. Yn 1400 arweiniodd wrthryfel yn erbyn Henry Bolingbroke ar ôl i hwnnw greu deddfau llym ar y Cymry (roedd Bolingbroke wedi trawsfeddiannu coron Lloegr). Wedyn cyhoeddwyd Owain yn 'Dywysog Cymru'. Erbyn 1404 roedd Owain yn rheoli Cymru gyfan ond daeth ei ymgyrch i ben wedi colli nifer o frwydrau'n sylweddol. Bu farw ym Medi 1415.
Cymdeithas Owain Glyndŵr
Wefan: owain-glyndwr.wales
Facebook: Owain Glyndwr Society / Cymdeithas Owain Glyndŵr
Treiglol
* Cliciwch ar y Bobl Hyn i Weld Bywgraffiad
Merfyn ap Gwriad ~ Merfyn Frych |
|
|
|
|
|
Maredudd ab Owain |
|
Llywelyn ap Seisyll |
|
|
|
Oes y Tywysogion |
|
Bleddyn ap Cynfyn |
|
Rhys ap Tewdwr |
|
Gruffudd ap Cynan |
|
Gwenllian ferch Gruffudd |
|
Gruffudd ap Rhys |
|
Madog ap Maredudd |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dafydd ap Gruffudd |
|
Gwenllian ferch Llywelyn |
|
|
|
|
O Gyfnod Oesoedd Canol Cymru
Pobl Nodedig