O ymadawiad y Rhufeiniaid yn y bumed ganrif OC tan i'r Normaniaid gyrraedd yn 1067, roedd Cymru yn wlad annibynnol. Yn y cyfnod hwn rhannwyd y wlad i nifer o deyrnasoedd bychain. Roedd aml i frwydr rhwng y rhain a'i gilydd a gyda'u cymdogion yn Lloegr. Roedd ganddi ei Heglwys annibynnol, ei hiaith, ei llenyddiaeth a'i diwylliant.


Yn y cyfnod hwn ymosododd Llychlynwyr ar nifer o gymunedau ar hyd yr arfordir. Sefydlwyd cysylltiadau masnachol rhwng y Llychlynwyr a'r Cymry, ac mae enwau ynysoedd Skomer a Skokholm yn dyst i'w dylanwad.
















Roedd Cymru'r Canoloesoedd cynnar yn gasgliad o deyrnasoedd bychain. Roedd y rhain yn falch o'i hannibyniaeth, ond yn ddarostyngedig i frenhinoedd Lloegr, megis Edgar ac Athelstan. Roedd y teyrnasoedd yn ymfalchïo yn eu cyfoeth celfyddydol. Cymraeg oedd eu hiaith, ac roedd traddodiad barddol arbennig o gryf, gyda'r beirdd yn teithio o gymuned i gymuned yn trosglwyddo storiâu a barddoniaeth am arwyr fel Arthur a Myrddin.


Un o frenhinoedd mwyaf pŵerus y Canoloesoedd cynnar oedd Rhodri Mawr o Wynedd (m.877). Sefydlodd Rhodri linach brenhinoedd Gwynedd a barhaodd tan 1283.


Sefydlodd Hywel Dda, brenin Dyfed (m.950) gorff o gyfreithiau i Gymru gyfan. Roedd yn ymwelydd cyson â Llys brenhinol Lloegr, a bu ar bererindod i Rufain yn 928.


Roedd Gruffudd ap Llywelyn (m.1063) yn ryfelwr ffyrnig a lwyddodd i deyrnasu dros Cymru, ond daeth ei deyrnasiad i ben pan gafodd ei drechu gan y brenin Harold Godwinsson o Loegr.


Daeth newid dramatig pan goncrwyd Lloegr gan y Normaniaid yn 1066. Yn y flwyddyn ganlynol, pan ddaeth y Normaniaid i Gymru, sicrhaodd William I ('Y Concwerwr') fod nifer o arglwyddi Normanaidd yn cael tir ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Prysurodd y rheini i ymgyrchu o ganolfannau fel Cas-gwent, Amwythig, Henffordd a Chaerloyw i gipio tiroedd mwyaf ffrwythlon Cymru. Bu'r cystadlu rhwng brenhinoedd Cymru o dipyn o fantais i'r ymosodwyr. Sefydlodd y Normaniaid gestyll yng nghanolfannau fel Cas-gwent, Caerdydd, Aberhonddu, Y Fenni, Castell Nedd, Abertawe, Penfro ac Aberteifi. Sefydlwyd bwrdeistrefi ger y cestyll - y prif fwrdeistrefi oedd Cas-gwent, Caerllion, Caerdydd, Aberhonddu a Rhuddlan.


Adnabuwyd y tiroedd hyn ar hyd y ffin gyda Lloegr, gynt yn perthyn i Gymru, ond erbyn hyn dan reolaeth y Normaniaid fel 'Y Mers'. Roedd y Cymry yn dal eu gafael ar yr ucheldiroedd mynyddig, ond roeddynt dan fygythiad cyson arglwyddi'r Mers a brenin Lloegr.


Yn 1081 aeth y brenin William ar bererindod i Dyddewi a chydnabod Rhys ap Tewdwr yn frenin ar diroedd Deheubarth. Er hynny, bradychwyd Rhys a'i ladd mewn brwydr ger Aberhonddu yn 1093. Bu’r weithred hon yn fygythiad i deyrnasoedd Gwynedd a Phowys hefyd.

Roedd tirlun Cymru yn sialens sylweddol i'r gelyn Normanaidd. Roedd cyfle i filwyr Cymru encilio i'r mynyddoedd pan roeddynt dan fygythiad. Gan fod cynifer o deyrnasoedd yng Nghymru byddai rhaid i'r Normaniaid goncro pob un o'r rhain yn eu tro. Roedd ganddynt diroedd sylweddol yn Lloegr a Ffrainc hefyd ac, yn allweddol, roedd ganddynt ddyletswydd i wasanaethu eu brenin. Canlyniad  hyn oll oedd bod llai o amser ganddynt i ehangu eu tiroedd yng Nghymru.


Roedd cydbwysedd grym rhwng y barwniaid Normanaidd a'u brenin o bwys mawr, ac yn sicr o gael effaith sylweddol ar hanes Cymru. Pan roedd brenin Lloegr yn gryf (William I, Harri I, Harri II, Edward I) bu rhaid i'r Cymry fod yn wyliadwrus, ond pan roedd y brenin yn wan (William II, Stephen) cafodd y Cymry gyfle i wrthryfela yn erbyn y gelyn Normanaidd. Cafodd dau o frenhinoedd Lloegr (John a Harri III) gyfnodau o gryfder, ond hefyd gyfnodau bregus pan gafodd y Cymry gyfleoedd i ymosod.


Tu hwnt i diriogaethau barwniaid y Mers roedd tiriogaethau tywysogion Cymreig a'r arglwyddi. Y tywysogaethau pwysicaf oedd Gwynedd, Powys a'r Deheubarth (de-orllewin Cymru). Roedd yn ofynnol i'r rhain, fel y barwniaid, dalu gwrogaeth i frenin Lloegr.


Sefydlwyd mynachlogydd a phriordai sylweddol gan fynaich o Ffrainc, rhai Benedictaidd yn gyntaf, ac yna'r rhai Sistersaidd.


Sefydlwyd bwrdeistrefi ger y cestyll i greu cartrefi i'r Eingl-Normaniaid a gelwid y bwrdeistrefi hyn a'r tir o'u cylch yn Saesonaethau. Roedd y cymunedau yn dilyn deddfau Eingl-Normanaidd, ac roedd trefn faenoraidd yn bodoli. Gelwid y tiroedd y tu allan i'r bwrdeistrefi - tir mynyddig ar y cyfan - yn frodoraethau. Yma roedd y Cymry yn dilyn eu ffordd traddodiadol o fyw. Roedd masnach rhwng y ddwy gymuned yn sicrhau eu bod yn cymysgu a'i gilydd. Roedd cyfreithiau Cymreig yn gweithredu yn y brodoraethau. Serch hynny roeddynt yn dioddef o gyfreithiau gormesol a gwahaniaethol Eingl-Normanaidd. Y canlyniad oedd fod gan y Cymry statws israddol yn eu gwlad eu hun.

 

 Bu brwydro ffyrnig rhwng tywysogion Cymru a'r Normaniaid/Saeson trwy'r cyfnod. I sicrhau pŵer roedd y tywysogion yn barod i ddallu, ysbaddu neu ladd i sicrhau eu bod yn ennill y dydd - yn aml, eu teuluoedd oedd yn dioddef. Rhwng 1075 a 1197,allan o 24 aelod o linach Powys roedd 14 wedi'u lladd neu eu hanffurfio. Roedd brenhinoedd Lloegr ac arglwyddi'r Mers yn llawn mor greulon a digyfaddawd, fel mae tynged Edwart II a Hugh le Despenser yn profi.

Y rheswm am y cystadlu brwd rhwng brodyr oedd y gyfraith  etifeddiaeth gyfrannol Gymreig yn rhannu perchenogaeth tir rhwng y brodyr (ni allai unrhyw wraig fod yn berchen ar dir). Roedd teyrnas   y Deheubarth, dan reolaeth Yr Arglwydd Rhys (m.1197), wedi'u malurio gan frwydro  rhwng  wyth mab cyfreithlon a saith mab anghyfreithlon Rhys.


 Pan sylweddolodd brenin Lloegr y byddai concro Cymru gyfan yn ormod o sialens, ac yn annhebygol o barhau'n hir, cafwyd cyfnod o gadoediad. Bu priodasau rhwng y teuluoedd brenhinol Cymreig a Seisnig; priododd dwy o ferched brenhinoedd Lloegr -anghyfreithlon ond cyfoethog - â thywysogion Cymreig. Roedd Nest, merch Rhys ap Tewdwr, yn feistres i Harri I ond bu Owain ap Cadwgan, tywysog Powys yn ddigon dewr i'w chipio oddi wrth y brenin! 


Bu hwn yn gyfnod o newidiadau cymdeithasol a diwylliannol sylweddol. Un wnaeth gyfraniad sylweddol wrth herio tra-arglwyddiaeth yr Eingl-Normaniaid oedd Gruffudd ap Cynan (m.1137) a frwydrodd yn ddewr am ddegawdau i ail-sefydlu Gwynedd fel prif frenhiniaeth Cymru. Cafodd ei garcharu yng Nghaer am ddegawd cyn dianc. Ail-feddiannodd ei fab, Owain Gwynedd (m.1170), diroedd yn ne-ddwyrain Cymru o afael y Saeson bron mor bell ag afon Dyfrdwy. Ymunodd â Gruffudd ap Rhys o Ddeheubarth i drechu'r Saeson mewn brwydr ger Aberteifi yn 1136.

 

Cydweithiodd Owain Gwynedd gyda'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth i danseilio cynlluniau Harri II yn 1164, ac fe adeiladodd y ddau ohonynt gestyll. Cynhaliodd Rhys ŵyl o gerddoriaeth a barddoniaeth yng nghastell Aberteifi yn 1176. Cafodd y digwyddiad ei gydnabod fel eisteddfod gyntaf Cymru.

 

Roedd tywysogaeth Powys yn ymestyn o dde-ddwyrain Gwynedd i'r Deheubarth. Roedd tan gryn bwysau oddi wrth dywysogaeth bwerus Gwynedd ac arglwyddi'r Mers. Bu'r pwysau'n ormod yn y pen draw, a daeth y dywysogaeth i ben cyn diwedd y ddeuddegfed ganrif.

 

Wedi marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170 gwanychodd pŵer Gwynedd am 30 o flynyddoedd. Ond pan ddaeth ei ŵyr, Llywelyn Fawr (m.1240), i deyrnasu adfywiwyd Gwynedd a daeth  i reoli pob rhan o Gymru. Cymerodd Llywelyn fantais o wendid y brenin John o Loegr a oedd yn cael ei herio gan rhai o'r barwniaid (nifer ohonynt yn gynghreiriaid i Llywelyn). Aeth Llywelyn ymlaen i gipio cestyll Caerfyrddin, Aberteifi a Threfaldwyn.

 

Roedd  gan Llywelyn sgiliau diplomyddol sylweddol yn ogystal â  bod yn arweinydd eithriadol ar faes y gad. Priododd  Siwan, merch y brenin John o Loegr. Bu hi yn llysgennad medrid ymddiried ynddi rhwng Llywelyn a llys brenin Lloegr. Priododd pedair o ferched  Llywelyn ag arglwyddi'r Mers. Priododd ei fab Dafydd ag Isabella de Braose, er bod Llywelyn wedi lladd ei thad yn 1230 am ei gwcwalltu gyda Siwan.

 

Roedd Dafydd (m.1246), unig etifedd Llywelyn, heb blant ac felly syrthiodd y dywysogaeth i ddwylo Harri III, brenin Lloegr. Ŵyr Llywelyn, Llywelyn ap Gruffudd ('Llywelyn ein Llyw Olaf') ysgwyddodd y cyfrifoldeb i frwydro unwaith eto i sicrhau annibyniaeth i Gymru. Roedd yn rhyfelwr pŵerus, a llwyddodd i oresgyn sialensiau ei frodyr i ail-adeiladu ac estyn pwerau Gwynedd nes sicrhau fod yr arglwyddi Cymreig eraill yn daeogion iddo. Yn 1267 arwyddodd Harri III o Loegr gytundeb yn cydnabod Llywelyn fel Tywysog Cymru.

 

Er hynny, roedd gan Llywelyn broblemau. Roedd ei frawd Dafydd yn gynghreiriad annibynadwy. Roedd Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys yn elyn digyfaddawd. Roedd wedi bychanu Edward (aeth ymlaen i fod yn frenin), mab Harri III, trwy ei goncro ar faes y gad. Penderfynodd arglwyddi Cymreig ucheldiroedd Morgannwg  gefnogi Gilbert de Clare, perchennog castell Caerffili. Bu hefyd yn cweryla gydag esgobion Llanelwy a Bangor.

 

Cododd Llywelyn drethu sylweddol i dalu am ei gestyll yn Nolforwyn ac Ewlo. Gwrthododd dalu gwrogaeth i Edward I o Loegr, a gwrthododd dalu arian roedd Edward wedi'i hawlio mewn cytundeb.  Ni anwyd etifedd iddo.  

 

Cyhuddwyd Llywelyn o fod yn heriwr gan y brenin Edward I yn 1277 ac ar ôl ymosodiad pŵerus - gyda rhai o daeogion Llywelyn yn cefnogi'r brenin - bu'n rhaid i Wynedd ildio. Dim ond y tiroedd i'r gorllewin o Gonwy yng Ngwynedd oedd nawr ym meddiant Llywelyn. Priododd Llywelyn ag Eleanor de Montfort, Ffrances o dras bendefigaidd. Dechreuodd Edward adeiladu cadwyn o gestyll cadarn yn Y Fflint, Rhuddlan, Llanfair-ym-muallt ac Aberystwyth.

 

Ymhen fawr o amser sylweddolodd y Cymry fod llywodraethiad Edward yn llawer mwy gormesol nag un Llywelyn. Gwrthryfelodd ei frawd Dafydd adeg y Pasg 1282 ac ymunodd rhannau sylweddol o Gymru yn yr ymgyrch o dan arweiniad Llywelyn. Anfonodd Edward fyddinoedd i Eryri gyda'r bwriad o gipio Llywelyn a hawlio Gwynedd, ond roedd y Cymry yn benderfynol i wrthsefyll gormes y Saeson a llwyddodd Llywelyn i ddianc i'r canoldir i chwilio am gefnogaeth yno. Bu ymosodiad ar Llywelyn a'i wŷr yng Nghilmeri, ger Llanfair-ym-muallt ar Rhagfyr 11 1282, a lladdwyd Llywelyn. Cymerwyd Dafydd ei frawd yn garcharor ac fe'i dienyddiwyd y flwyddyn ganlynol.

 

Cipiodd Edward y tiroedd yng ngogledd Cymru fu gynt yn eiddo tywysogion Gwynedd a chadarnhau ei berchnogaeth arnynt trwy adeiladu cestyll cadarn yng Nghaernarfon, Conwy a Harlech. Sefydlwyd bwrdeistrefi yn agos i'r cestyll i gartrefu masnachwyr, crefftwyr a'u teuluoedd o Loegr. Cyfreithiau a threfn lywodraethol Seisnig oedd yn bodoli yn y rhain. Yn 1284 cyhoeddwyd Statud Rhuddlan yn deddfu mai cyfreithiau Seisnig fyddai'n gweithredu yng Nghymru (ond roedd ychydig o sylw yn cael ei roi i gyfreithiau Cymreig).


 Rhannwyd Gwynedd yn dair sir - Môn, Caernarfon a Meirionydd. Daeth y rhain o dan gyfundrefn debyg i'r un yn rheoli siroedd Lloegr. Cafodd y tair sir hyn, gyda sir Y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru a siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi'r enw Y Dywysogaeth.  Am dros chwarter canrif (1284 - 1536) rhannwyd Cymru yn ddwy - Y Dywysogaeth a'r Mers. Bu gwrthryfela pellach yn 1287 a 1294 a'r canlyniad oedd ymgyrch bellach gan fyddin Edward, ac adeiladu castell Biwmares.

 

Roedd llai o frwydro yn y ganrif nesaf, ond eto 'roedd yn un gythryblus iawn. Yn 1348 cyrhaeddodd y Pla Du a chollwyd un rhan o dair o'r boblogaeth. Daeth y pla yn ôl yn 1361, 1369, 1379 a 1391.

 

Yn 1301 cyhoeddodd Edward I mai ei fab, Edward, fyddai'n derbyn yr anrhydedd o gael ei enwi'n Dywysog Cymru a rhoddodd iddo'r cyfrifoldeb o reoli Cymru. Bu Edward I farw yn 1307, a pan ddaeth ei fab, Edward II, yn frenin bu newid syfrdanol. Roedd Edward yn wan ac yn amhoblogaidd. Fe'i cipiwyd ger Castell Nedd a'i gymryd i garchar yn Lloegr a cafodd ei ladd  mewn modd cywilyddus yng nghastell Berkeley yn 1327.

 

Yn y ganrif hon roedd cyflwr y Cymry yn druenus. Tra roedd y bwrdeistrefi yn ffynnu, roedd y Cymry yn dioddef o gyfreithiau gwahaniaethol a threthi trwm; roedd y Cymry yn cael eu trin fel personau  israddol yn eu gwlad eu hun. Yn y gorffennol penodwyd Cymry fel esgobion yng Nghymru, ond rhwng 1372 a 1400, o'r 16 o esgobion a benodwyd, un yn unig oedd yn Gymro.

 

Tyfodd anfodlonrwydd y Cymry am eu cyflwr a dechreuodd y genedl ddyheu am rywun i'w harwain i fywyd gwell. Roedd yr hiraeth hwn am Fab Darogan yn ddwys. I lawer, yr olaf yn llinach tywysogion Gwynedd, Owain ap Thomas, adnabuwyd fel Owain Lawgoch, oedd y dewis amlwg. Roedd yn or-nai i Llywelyn Fawr ac yn swyddog ym myddin brenin Ffrainc, ac yn enwog drwy Ewrop am ei ddewrder ar faes y gad.  Roedd brenin Lloegr yn sylweddoli ei fod yn Gymro balch o linach tywysogion y Cymry, ac felly yn fygythiad i goron Lloegr. Anfonwyd Albanwr, John Lamb, fel ysbïwr i Ffrainc i'w lofruddio yn Mortaigne-sur-Gironde yn 1378.


 Daeth y chwilio am Fab Darogan i'w benllanw yn 1400 pan gyhoeddodd ei gefnogwyr Owain ap Gruffudd Fychan (Owain Glyndŵr) yn Dywysog Cymru. Roedd gan Glyndŵr gymwysterau ardderchog gan ei fod yn ddisgynnydd i linachau Powys a Deheubarth, a chysylltiadau cryf i linach Gwynedd. Roedd y cyhoeddiad yn fygythiad beiddgar i goron Lloegr ac arweiniodd at wrthryfel yn erbyn y Saeson. Erbyn 1405, roedd yn rheoli y rhan fwyaf o  Gymru. Cipiwyd

cestyll Harlech ac Aberystwyth. Cynhaliwyd dwy senedd ac anfonwyd llythyr (Llythyr Pennal) i frenin Ffrainc yn datgan ei uchelgais i gael dwy brifysgol ac eglwys annibynnol i Gymru (roedd gan Glyndŵr gysylltiadau diplomyddol cryf gyda Ffrainc fu'n cefnogi ei ymgyrch filwrol). Erbyn 1410 roedd yr ymgyrch wedi gwanychu a bu rhaid i Glyndŵr guddio; bu farw yn 1415.


I gael adroddiad llawn am hanes Glyndŵr, dilynwch y linc: Hanes Glyndŵr


Daeth yr Oesoedd Canol i ben 70 mlynedd yn hwyrach pan ddaeth Harri VII, a anwyd yng Nghymru, ac yn ddisgynnydd o linach Gwynedd, i hawlio coron Lloegr gan gychwyn ar deyrnasiad y Tuduriaid a barodd am fwy na chan mlynedd.

Datblygodd Cymru fel cenedl yn y ddwy ganrif wedi ymadawiad y Rhufeiniaid (383 O.C.).  Dechreuodd y Gymraeg ddatblygu o'r Frythoneg wedi eu hymadawiad.  ‘Roedd y Frythoneg yn cael ei siarad o ardal Forth/Clyde yn y gogledd i’r Môr Udd (English Channel) yn y de cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Yn ardal Ystrad Clud [Strathclyde] ysgrifennwyd y farddoniaeth gyntaf y gellir ei alw yn Gymraeg. Tua’r flwyddyn 600 O.C.  ysgrifennwyd campweithiau Aneirin a Taliesin, ganrifoedd cyn gweld llenyddiaeth ysgrifenedig mewn Ffrangeg, Sbaeneg neu Eidaleg.  Ceir enwau Brythoneg/Cymraeg mewn ardaloedd trwy Lloegr a'r Alban, e.e. mae Cumbria yn gyfystyr â Cymru;  Moel Fryn yw Malvern; Moel Rhos yw Melrose, ayyb. Roedd cymunedau o siaradwyr Cymraeg yn byw yn swyddi  Henffordd, Caerwrangon, Caerloyw a Swydd Amwythig hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

*

* Symudwch Dros y Llun I’w  Chwyddo

Cymru yn yr Oesoedd Canol

Print
Saesneg
Dangos y Ddewislen Uchaf