Yn y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 bu nifer o wrthryfeloedd yn erbyn rheolaeth lem Lloegr. Digwyddodd y ddau mwyaf nodedig yn 1294-95 dan arweiniad Madog ap Llywelyn, ac yn 1316 dan Llywelyn Bren.
Yn chwedloniaeth Cymru, y 'Mab Darogan' oedd y rhyfelwr a fyddai'n achub Cymru yn ei hawr dywyllaf ac yn cael gwared ar ei gormeswyr Eingl-Sacsonaidd.
Un enw a broffwydwyd ar gyfer y person hwn oedd 'Owain', a'r un oedd â'r hawl gryfaf i orsedd Gwynedd yn y 14eg ganrif oedd Owain ap Thomas ap Rhodri - sy'n fwy adnabyddus fel Owain Lawgoch.
Roedd taid Owain, Rhodri ap Gruffudd, yn frawd iau i Llywelyn ap Gruffudd ac fe'i defnyddiwyd yn blentyn gwystl gan Harri III o Loegr. Dychwelodd i Gymru ond yn y diwedd ildiodd ei hawliau i dŷ Gwynedd ym 1272. Wedyn treuliodd weddill ei oes yn Lloegr, a byw am lawer o'r cyfnod hwn yn arglwydd maenor Tatsfield yn Surrey.
Roedd gan Rhodri fab, Thomas, a etifeddodd ystadau ei dad yn 1315. Treuliodd ei fywyd yn Lloegr er iddo wneud hawliad ar arglwyddiaeth Llŷn na fu'n llwyddiannus.
Ganwyd mab Thomas, Owain, tua 1330 ond mae'n debyg iddo fynd i wasanaeth Philip VI o Ffrainc yn ifanc. Treuliodd y mwyafrif helaeth o'i fywyd ar y cyfandir lle daeth yn filwr rhagorol yn Ffrainc ac yng ngwledydd eraill Ewrop.
Ymwelodd â Lloegr yn 1365 er mwyn hawlio meddiant ar ei etifeddiaeth, ond gadawodd eto am Ffrainc ymhen blwyddyn. Yn 1369 amddifadodd y Saeson ef o'r etifeddiaeth hon, fodd bynnag, pan ailgyneuodd y gwrthdaro Eingl-Ffrengig, a elwir y Rhyfel Can Mlynedd, ac yr ochrodd Owain â'r Ffrancwyr.
Yn y diwedd, adnewyddodd Owain ei hawliad ar deyrnas Gwynedd a chyda chefnogaeth llys Ffrainc, nododd ei fwriad i ddychwelyd yn 'Dywysog Cymru'. Addasodd faner Gwynedd i roi'r pedwar llew ar eu sefyll yn hytrach nag yn rhygyngog, baner a ddefnyddiai ei gefnder pell, Owain Glyndŵr, rai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Roedd y Ffrancwyr yn adnabod Owain fel 'Yvain de Galles' - Owain Gymro - ac arweiniodd ymgais aflwyddiannus i oresgyn ei famwlad yn 1372. Penododd y Ffrancwr ef yn llysgennad diplomyddol i Castile yn fuan wedi hynny er mwyn sicrhau llongau ar gyfer ymosodiad ar La Rochelle. Roedd gan Owain nifer o gefnogwyr hefyd, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, a chafodd barch dan yr enw 'Owain Lawgoch'.
Penderfynodd Edward III o Loegr fod angen gweithredu’n llym i atal Owain, ac felly cyflogwyd Albanwr o’r enw John Lamb yn ysbïwr i’w lofruddio. Llwyddodd Lamb i ymdreiddio i wersyll Owain a'i ladd yn ystod y gwarchae ar Mortagne-sur-Mer ym mis Gorffennaf 1378. Roedd y llofruddiaeth wleidyddol hon yn groes i'r cod sifalrig a oedd yn llywodraethu rhyfela'r Canol Oesoedd ar y pryd, a byddai'r sôn am y digwyddiad yn parhau am flynyddoedd lawer.
Codwyd cofgolofn er cof am Owain ym Mortagne yn 2003, a Llywodraeth Ffrainc a roddodd y mwyafrif o'r arian ar ei chyfer.
Cyfeiriadau
The Age of Conquest: Wales 1063-1415 gan R.R. Davies
Twenty-one Welsh Princes gan Roger Turvey
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig - Owain Lawgoch
Bywgraffiadau Cysylltiedig:
Rhodri ap Gruffudd - taid
Tomas ap Rhodri - tad
Madog ap Llywelyn - gwrthryfel 1294-95
Llywelyn Bren - gwrthryfel 1316
Owain Glyndŵr - gwrthryfel 1400-15
Owain Lawgoch