Roedd Llywelyn ap Iorwerth (a elwir hefyd yn Llywelyn Fawr) yn fab i Iorwerth Drwyndwn (m. c.1174) a Margaret, merch Madog ap Maredudd o Bowys. Roedd yn ŵyr i Owain Gwynedd ac mae'n debyg iddo gael ei eni yn Nolwyddelan ond cafodd ei gymryd i fyw i Bowys gan Marared ar ôl marwolaeth ei dad.


Efallai iddo briodi'n gyntaf â Tangwystl, merch Llywarch Goch, er na chydnabu'r Eglwys y berthynas hon. Roedd gan y pâr o leiaf ddau o blant, gan gynnwys Gruffudd a Gwenllian.


Trechodd Llywelyn nifer o'i berthnasau yng Ngwynedd mewn cyfres o frwydrau yng nghanol y 1190au. Ymhlith y rhain roedd ei ewythredd, Dafydd a Rhodri, a'i gefndryd, Gruffudd a Maredudd - a phob un yn ddisgynydd i Owain Gwynedd. Yn sgil hyn daeth Llywelyn yn unig reolwr Gwynedd erbyn 1199 ac o'r herwydd fe'i henwodd ei hun yn 'Dywysog holl Ogledd Cymru'.


Enillodd gyfeillgarwch John Brenin Lloegr a gwnaeth gytundeb ffurfiol ag ef yn 1201. Hwn oedd y cyntaf o'i fath rhwng rheolwr Cymreig a Choron Lloegr. Yn 1205, priododd Llywelyn â merch anghyfreithlon John, Siwan (neu Joan), a rhoddodd John faenor Ellesmere yn Swydd Amwythig iddo. Cawsant nifer o blant, a'r amlycaf oedd Dafydd, a ystyriai Llywelyn yn etifedd iddo.

Pan gollodd Gwenwynwyn o Bowys ffafr John yn 1208, meddiannodd Llywelyn dde Powys ac wedyn Ceredigion. Cymerodd Llywelyn ran hefyd yn ymgyrch filwrol brenin Lloegr i'r Alban yn 1209, ond y flwyddyn ganlynol surodd ei berthynas â'i dad-yng-nghyfraith a lansiodd John ddau gyrch brenhinol yng Nghymru.


Gweithredai Siwan yn gyfryngwr rhwng Llywelyn a'i thad a'r canlyniad oedd i Llywelyn barhau'n dywysog Gwynedd, ond iddo orfod ildio llawer o'i dir, a'i fab, Gruffudd, i John yn wystl.


Newidiodd ffawd Llywelyn yn 1212, fodd bynnag, pan enillodd gefnogaeth y tywysogion Cymreig eraill. Erbyn 1215, ymunodd barwniaid Lloegr hefyd â rhyfel Llywelyn â John a'i orfodi i lofnodi'r Magna Carta.


Yn 1216, gwysiodd Llywelyn dywysogion eraill Cymru i dalu gwrogaeth iddo yn Aberdyfi lle cadarnhaodd ei safle'n arweinydd arnynt; ac ni fu unrhyw her i hyn am weddill ei deyrnasiad. Yn yr un flwyddyn, bu farw John ac yn ddiweddarach aeth Llywelyn yn ei flaen i lofnodi cytundeb heddwch yng Nghaerwrangon â'i olynydd, Harri III.

Llywelyn oedd y tywysog Cymreig cyntaf i drafod cytundeb cynghrair â phŵer tramor, sef Philip Augustus o Ffrainc, ac enillodd gefnogaeth y Pab, Innocent III, hefyd. Priododd nifer o blant Llywelyn â theuluoedd y Gororau, a chryfhaodd hyn ei sefyllfa, ond ei nod oedd sicrhau y byddai ei fab, Dafydd, yn ei olynu.


Ymosododd ei luoedd ar nifer o drefi a ddaliai arglwyddi'r Gororau, megis Llanfair ym Muallt, Castell-nedd a Chydweli ac anfonodd Harri gyrchoedd brenhinol i Gymru yn 1223, 1228 a 1231. Erbyn 1234, fodd bynnag, roedd Llywelyn wedi llwyddo i drafod cytundebau â Harri a sefydlodd heddwch am weddill ei deyrnasiad.


Yn 1230 bu sgandal pan grogwyd William de Braose gan Llywelyn ym mis Mai 1230 ar ôl iddo gael ei 'ddal yn siambr Llywelyn gyda merch brenin Lloegr, gwraig Llywelyn'. Er gwaethaf hyn, byddai ei fab Dafydd maes o law yn priodi â merch William, Isabella.


Bu farw Siwan ym mis Chwefror 1237 a dioddefodd Llywelyn strôc yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Byddai'n marw ym mis Ebrill 1240, a chladdwyd ef yn Aberconwy, ond heriwyd hawl Dafydd i'r olyniaeth yn nheyrnas Gwynedd gan ei frawd hŷn, Gruffudd.


Roedd teyrnasiad Llywelyn yn un llwyddiannus sy'n ei wneud yn un o lywodraethwyr mwyaf Cymru: cadwodd Wynedd yn ddiogel a'i gadael yn gryf ac yn ddiogel; adeiladodd gestyll i'w hamddiffyn rhag ymosodiad; arweiniodd fyddinoedd i ymladd ag arglwyddi'r Gororau a brenhinoedd Lloegr; roedd yn gefnogol i'r Eglwys a'r mynachlogydd; a daeth â holl diriogaeth frodorol Cymru dan ei reolaeth. Dyma pam y cafodd yr enw 'Fawr'.


Cyfeiriadau

The Age of Conquest: Wales 1063-1415 gan R.R. Davies

Twenty-one Welsh Princes gan Roger Turvey

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig -   Llywelyn ap Iorwerth  


Bywgraffiadau Cysylltiedig:

Iorwerth Drwyndwn - tad      Siwan (Joan) - gwraig

Dafydd ap Llywelyn - mab     Gruffudd ap Llywelyn - mab

Dafydd ap Owain Gwynedd - ewythr   Maelgwn ap Rhys - arglwydd Ceredigion

Gwenwynwyn ap Owain Cyfeiliog - tywysog Powys

Llywelyn Fawr

Print
Saesneg
Dangos y Ddewislen Uchaf