21 Chwefror, 1401 - Adroddodd y Senedd San Steffan fod y Gymry 'mewn hwyliau peryglus'.


Mawrth 1401 - Cyfreithiau Penydiol yn erbyn y Cymry.


1 Ebrill, 1401 - Cipiodd Gwilym a Rhys ap Tudur Gastell Conwy.


31 Mai, 1401 - Roedd Henry Hotspur yn Nolgellau ar gyfer Brwydr Cadair Idris - ac tua'r un pryd roedd John Charleton, Arglwydd Powys, yn ymosod ar luoedd Glyndŵr ger Dinas Mawddwy.


Mehefin 1401 - Ymosododd Hywel Sele ar Glyndŵr yn Nannau, ond cafodd ei ladd a chafodd ei gorff ei ollwng i mewn i goeden wag.


Diwedd Mehefin 1401 - Brwydr Hyddgen, Pumlumon (22 Mehefin, efallai).


24 Mehefin, 1401 - Cymerodd Harri Hotspur rheolaeth Castell Conwy.


Awst 1401 - Mae'n debyg, ymosododd Glyndŵr ar Abaty Cwm Hir, ac yna Sir Faesyfed, Trefaldwyn a'r Trallwng.


Hydref 1401 - Mewn ymateb i Frwydr Hyddgen, ymosododd Harri IV a'i filwyr ar Abaty Ystrad Fflur yn ystod 'Alltaith Frenhinol'.


9 Hydref, 1401 - Cafodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru yn Llanymddyfri gan Harri IV.


2 Tachwedd, 1401 - Brwydr Twtil yng Nghaernarfon.


29 Tachwedd, 1401 - Agorodd Glyndŵr drafodaethau diplomyddol â Brenin Robert o’r Alban ac arglwyddi Iwerddon, ac felly’n datgan ei hun yn frenin annibynnol.


Print

                                       Digwyddiad                                                                                                                                                                                                          

Delweddau (Treigl)

Saesneg

Llinell Amser - 1401

Dangos y Ddewislen Uchaf