22 Chwefror, 1403 - Rhyddhawyd tref yr Hôb gan milwyr Glyndŵr. |
|
15 Mai, 1403 - Dinistriodd y Tywysog Harri - mab Harri IV - gartrefi Glyndŵr yn Sycharth a Glyndyfrdwy. |
|
Mehefin 1403 - Gorchmynnodd y Tywysog Harri i'r beilïaid yn Cantref Cilgwri wahardd gwerthu grawn neu ddarpariaethau i Gymry'r Fflint neu rannau eraill o Gymru. |
|
24 Mehefin, 1403 - Ymosododd Cymry Brycheiniog ar Castell Aberhonddu. |
|
3 Gorffennaf, 1403 - Ar ôl iddynt orfodi Castell Llanymddyfri dan warchae, parhaodd y fyddin Glyndŵr i lawr dyffryn Tywi. |
|
3 Gorffennaf, 1403 - Yn Llandeilo Fawr, ymunodd Glyndŵr â Henry Dwn, a oedd wedi ymosod ar Gastell Dinefwr. |
|
5 Gorffennaf, 1403 - Ymosododd Glyndŵr a 800 filwyr ar Gastell Carreg Cennen, a amddiffynwyd gan John Scudamore. |
|
Gorffennaf 1403 - Cymerodd Glyndwr gestyll Dryslwyn, Llansteffan a Chastell Newydd Emlyn - yn ogystal â Chaerfyrddin ar 6 Gorffennaf. |
|
8 Gorffennaf, 1403 - Ymwelodd Glyndŵr â Hopcyn ap Tomas ab Einion yn Nhalacharn am gyngor achos roedd Hopcyn yn 'feistr o Brut'. |
|
11 Gorffennaf, 1403 - Fe wnaeth dynion yr Arglwydd Carew drechu rhai o fyddin Glyndŵr ger Sanclêr. |
|
21 Gorffennaf, 1403 - Brwydr Amwythig. |
|
Gorffennaf/Awst 1403 - Symudodd Glyndŵr trwy Dde Cymru - ymosododd Hywel Gwynedd yn y Gogledd. |
|
13 Awst, 1403 - Arweiniodd Henry Dwn a'i fab ymosodiad ar Gastell Cydweli. |
|
24 Medi, 1403 – Cyrhaeddodd Harri IV yng Nghaerfyrddin ar 'Alltaith Frenhinol'. |
|
Tachwedd - Ymunodd llynges Ffrengig â Glyndŵr i ymosod ar Gastell Caernarfon. |
|
Rhagfyr 1403 - Y rhan fwyaf o Gymru dan reolaeth Glyndŵr. |
|
Digwyddiad
Delweddau (Treigl)
Llinell Amser -1403