Digwyddiad
Delweddau (Treigl)
Llinell Amser - 1404
Gwanwyn 1404 - Cymerodd Glyndŵr gestyll Cricieth, Aberystwyth & Harlech. |
|
Mai 1404 - Ymosododd Glyndŵr a'i filwyr ar Castell Coety. |
|
10 Mai, 1404 - Cynhaliodd Glyndŵr gynhadledd yn Nolgellau lle penododd Gruffudd Yonge fel ei Ganghellor a John Hanmer fel ei Lysgennad Arbennig. |
|
Mehefin 1404 - Ar ôl iddynt roi Castell Coety dan warchae, fe wnaeth dynion Glyndwr barhau â'u hymgyrch trwy Morgannwg. |
|
Mehefin 1404 - Brwydr Bryn Owain, ger Y Bont-faen (yn ôl Iolo Morgannwg). |
|
Mehefin 1404 - Ymosododd Glyndŵr ar gestyll a threfi ym Mro Morgannwg, gan gynnwys Castell Caerdydd. |
|
10 Mehefin, 1404 - Ymosododd Glyndŵr a'i filwyr ar Ergyng. |
|
21 Mehefin, 1404 - Senedd gyntaf Glyndŵr ym Machynlleth. |
|
14 Gorffennaf, 1404 - Gorffennodd Gruffudd Yonge a John Hanmer gytundeb ffurfiol â Charles VI ym Mharis. |
|
Awst 1404 - Ymosododd Henry Dwn ar Gydweli unwaith eto. |
|
20 Awst, 1404 - Ar ôl cael ei drechu'n drwm ym Mrwydr Mynydd Camstwn (ger Y Grysmwnt), enillodd fyddin Glyndŵr Brwydr Craig y Dorth (ger Trefynwy). |
|
Medi 1404 - Cafodd Castell Biwmares ei ddal gan carfan Gymro. |
|
14 Tachwedd, 1404 - Methodd y Saeson â thorri'r gwarchae yng Nghastell Coety. |
|