Daw'r rhan fwyaf o'n gwybodaeth am y Brenin Gruffudd ap Llywelyn o waith Walter Map ysgrifennydd Seisnig, a addaswyd ar ffurf fwy aruchel gan Frut y Tywysogion a
Chroniclau'r
Eingl-Sacsoniaid. Ni anwyd Gruffudd i brif linach frenhinol Cymru ond roedd yn fab i Llywelyn ap Seisyllt, rheolwr Gwynedd, a'i wraig Angharad.
Cafodd Llywelyn ap Seisyllt, a fu farw tua 1023, ddau o blant gydag Angharad, merch y mae ei henw’n anhysbys a Gruffudd a anwyd tua 1013. Ailbriododd Angharad a rhoi genedigaeth i ddau fab arall, Bleddyn a Rhiwallon, dau hanner brawd i Gruffudd a'i chwaer.
Sefydlodd Gruffudd ei hun yn Frenin Gwynedd yn 1039 ac ymladdodd ei frwydr gyntaf yn Rhyd-y-groes ar lan Afon Hafren yn y flwyddyn honno ger lleoliad presennol y Trallwng. Bu'n fuddugol, gan chwalu byddin Lloegr a oedd wedi dod i oresgyn gogledd-ddwyrain Cymru. Yn 1041, trodd ei sylw at y Deheubarth ac ym mrwydr Pencadair trechodd Hywel ab Edwin. Fodd bynnag, llwyddodd Hywel i ddianc ond daliwyd ei wraig a'i chymryd gan Gruffudd yn wraig iddo yntau.
Yn 1044, bu brwydr ger aber Afon Tywi rhwng lluoedd Gruffudd a lluoedd Hywel. Y tro hwn lladdwyd Hywel ac enillodd Gruffudd fuddugoliaeth dyngedfennol.
Aeth bron degawd heibio tra roedd Gruffudd yn cadarnhau ei reolaeth ar y Deheubarth ac yn ymladd yn erbyn y Llychlynwyr a oedd yn ymosod o’u safleoedd yn Iwerddon. Chwythodd tywydd stormus y fflyd oresgynnol o Iwerddon i greigiau arfordir Cymru ac, o'r herwydd, roedd Gruffudd yn rhydd i ymosod ar yr ardal ffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Ym 1052, dair blynedd ar ddeg i'r diwrnod ar ôl ei fuddugoliaeth yn Rhyd-y-groes, gorymdeithiodd ei fyddin trwy Swydd Amwythig, ac ymosod ar Henffordd a'r ardal gyfagos. Enillodd Gruffudd fuddugoliaeth dyngedfennol unwaith eto ac yn ôl Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid, “lladdwyd Saeson da iawn a Ffrancwyr hefyd”.
Rhuddlan ar lannau Afon Clwyd oedd prifddinas Gruffudd ac roedd ganddo lynges sylweddol wedi'i hangori yn yr aber - a phen blaen aur ar ei long yntau hyd yn oed. Defnyddiwyd y llu morwrol hwn i ymosod ar ei elynion, yn llongau cyflenwi i'w fyddin, ac i fasnachu ag Iwerddon a gwledydd Ewropeaidd eraill.
Ffurfiodd Gruffudd gynghrair ag Elfgar o Fersia, a gafodd ei frocera gan Rhys Sais ac ar ôl sicrhau ei ffin ddwyreiniol penderfynodd droi ei sylw at Deyrnasoedd Morgannwg a Gwent, yr oedd Gruffudd ap Rhydderch yn rheoli arnynt. Rhywle ger aber Afon Gwy, dinistriwyd lluoedd Gruffudd ap Rhydderch gan fyddin Gruffudd ap Llywelyn a gyrhaeddodd dros y tir o'r gogledd gyda chefnogaeth Elfgar a'i fflyd o'r de.
Bellach roedd Gruffudd ap Llywelyn yn barod am ymosodiad arall ar Henffordd ac ym 1055 aeth i mewn i Swydd Henffordd unwaith eto, y tro hwn gan ymosod ar amddiffynfeydd cadarn y ddinas a “llu nerthol”. Aeth ymlaen i anrheithio Henffordd, gan adael yn farw ryw 400 o filwyr y fyddin a drechodd.
Ymatebodd Brenin Lloegr trwy anfon Harold, y darpar Frenin, gyda byddin enfawr i ymosod ar Gymru. Ond methodd â darostwng Gruffudd a'i ddynion ac yn y pen draw llofnodwyd cytundeb heddwch yn Billingsley, lle enillodd Gruffudd ddarnau o dir ger y ffin a oedd gynt yn eiddo i'r Saeson.
Yna ym 1056, casglodd Leofgar, Esgob Henffordd fyddin fawr ynghyd ac ymosod ar Gymru trwy ddringo dyffryn Gwy gyda'r bwriad o adennill y tir a gollwyd yn y cytundeb. Fodd bynnag, yn y frwydr â lluoedd Gruffudd ger Y Clas-ar-Wy, collodd yr Esgob ei fyddin a'i fywyd ei hun gan adael Gruffudd yn Frenin ar Gymru gyfan. Bu'n rheoli arni tan 1063 o'i Brifddinas yn Rhuddlan.
Priododd Gruffudd â merch rheolwr Mersia, Ealdgyth ac mae Walter Map yn nodi bod ganddo “wraig hardd yr oedd yn ei charu’n fwy nag yr oedd hi’n ei garu yntau”. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod pa wraig oedd gan Walter dan sylw. Roedd ganddo o leiaf dri o blant: Owain a fu farw yn 1059, Maredudd a fu farw yn 1069 ac Idwal a fu farw hefyd yn 1069.
Nadolig 1063, ymosododd Harold, a fyddai’n dod yn enwog oherwydd Brwydr Hastings, yn annisgwyl ar Ruddlan gyda llu o filwyr ar gefn ceffylau a llosgi'r dref ond methodd â dal Gruffudd. Dihangodd i'r gorllewin. Cipiodd Harold Ealdgyth, gwraig Gruffudd, a'i phriodi maes o law gan ei gwneud yn frenhines Lloegr. Methodd Gruffudd ag ailgynnull ei luoedd ar ôl dinistrio Rhuddlan ac fe'i llofruddiwyd, o bosibl gan Cynan ap Iago o linach frenhinol flaenorol Cymru a thad Gruffudd ap Cynan.
Mae’r hyn a gyflawnodd Gruffudd ap Llywelyn yn destun rhyfeddod; oedd, roedd yn ddidostur ac yn benderfynol ond adenillodd y diriogaeth rhwng bryniau Clwyd ac aber Dyfrdwy ac ardaloedd mawr ar hyd ffin Cymru a Lloegr gan sefydlu'r ffin ar y dwyrain. Unodd Gymru gyfan o dan un Brenin.
Meddai Thomas Charles-Edwards yn ei astudiaeth drylwyr o’r cyfnod rhwng 350 a 1064 Wales and the Britons ar dudalennau 568 a 569: "no other Welsh king known in history ruled more of his country than did Gruffudd ap Llywelyn.” Â yn ei flaen i ddyfalu: “he was [possibly] responsible for the system of cantref and commote, the local territorial divisions, which covered the entire country from the commote of Talybolion in the north-west of Anglesey to Portskewett in the far south of Gwent.” …. Dywed hefyd “I suggest, therefore, that Gruffudd ap Llywelyn who, with his power over all Wales, was responsible for the fully-developed and universal system of cantref and commote.” Rhaid cyfrif Gruffudd ap Llywelyn yn un o arweinwyr mwyaf Cymru.
Cyfeiriadau:
Brut y Tywysogion
Croniclau'r Eingl-Sacsoniaid
The Last King of Wales: Gruffudd ap Llywelyn c.1013 - 1063 gan Michael a Sean Davies
Wales and the Britons 350 – 1064 gan T M Charles-Edwards. Tudalennau 568 - 569
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig - Gruffudd ap Llywelyn
Bywgraffiadau Cysylltiedig:
Llywelyn ap Seisyll - tad Maredudd ab Owain - taid
Bleddyn ap Cynfyn - hanner brawd Rhiwallon ap Cynfyn - hanner brawd
Iago ap Idwal - brenin Gwynedd Cynan ap Iago - tywysog Gwynedd
Hywel ab Edwin - brenin y Deheubarth
Gruffudd ap Rhydderch - brenin Morgannwg
Gruffudd ap Llywelyn