Roedd Owain ap Gruffudd - neu Owain Gwynedd fel yr oedd yn fwyaf adnabyddus - yn fab i Gruffudd ap Cynan (m.1137) ac Angharad, merch Owain ab Edwin o Degeingl. Roedd
Gruffudd wedi bod yn arweinydd cryf ar Wynedd ers blynyddoedd lawer ond, erbyn 1120, roedd ei feibion yn arwain ei luoedd ar ei ran ac yn adeiladu ar y sylfeini yr oedd yntau wedi'u gosod.
Ganwyd Owain tua 1100 yn ail fab i Gruffudd. Roedd ganddo o leiaf ddau frawd, Cadwallon a Cadwaladr, ac o leiaf ddwy chwaer, Gwenllian a Susanna. Priododd Gwenllian â Gruffudd ap Rhys o'r Deheubarth a phriododd Susanna â Madog ap Maredudd o Bowys.
Ar ôl i Cadwallon gael ei ladd mewn brwydr ger Llangollen yn 1132, arweiniodd Owain ymosodiadau ar aneddiadau’r Normaniaid yng Ngheredigion gyda Chadwaladr. Yn 1136, dyma nhw'n ymuno â Gruffudd ap Rhys i drechu llu Normanaidd mawr ym mrwydr Crug Mawr ger Aberteifi, ac wedyn cysylltwyd Ceredigion â Gwynedd.
Ar ddiwedd y 1140au, cysylltwyd hefyd Iâl a Thegeingl yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac, er mwyn eu hamddiffyn, adeiladodd Owain Domen y Rhodwydd, castell ger Llandegla. Arweiniodd Harri II ei ymosodiad cyntaf ar Degeingl yn 1157 ond bu’n aflwyddiannus - trechwyd ei uned lyngesol ger Ynys Môn ac wedyn ymosododd lu o Gymru yn ddirybudd arno yng Nghoed Ewlo ger Penarlâg. Sylweddolai Owain fod mwy o gryfder milwrol gan Harri, fodd bynnag, a chytunodd i wneud heddwch ag ef i atal ail ymgyrch.
Madog ap Maredudd o Bowys oedd un o gymdeithion Harri ar yr ymosodiad hwn a manteisodd ar enciliad dilynol Owain i orchymyn dinistrio Tomen y Rhodwydd. Pan fu farw Madog yn 1160, daethpwyd â rhannau helaeth o Bowys yn ôl o dan reolaeth Gwynedd.
Tyngodd Owain lw o deyrngarwch i Harri yn Woodstock ym mis Gorffennaf 1163 ond wedyn 'gwrthryfelodd' yn erbyn hwn yn 1164. Arweiniodd Harri ymgyrch i fynyddoedd y Berwyn yn 1165 er mwyn 'caethgludo a dinistrio'r holl Frythoniaid (Cymry)'. Roedd Owain wedi ymgynnull llu mawr yng Nghorwen er mwyn ei wynebu gyda phob tywysog o Gymru, gan gynnwys ei nai, Rhys ap Gruffudd (m.1197). Penderfynodd Harri ddilyn llwybr annoeth i mewn i Gwm Ceiriog, fodd bynnag, a chafodd ei ddynion grasfa ym Mrwydr Crogen. Ar ôl hyn ni cheisiodd oresgyn Cymru eto.
Yn 1166 a 1167 cipiwyd trefi Basingwerk, Rhuddlan a Phrestatyn yn Nhegeingl ac o ganlyniad, am y tro cyntaf ers dros ganrif, estynai rheolaeth Gwynedd ar draws y Gogledd cyfan o Ynys Môn i aber Dyfrdwy.
Yn ystod ei deyrnasiad, roedd Owain yn nodedig am amddiffyn ei reolaeth dros esgobaeth Bangor yn erbyn: y pab (Alexander III); brenin Lloegr (Harri II); ac archesgob Caergaint (Thomas Becket). Fe heriodd hefyd bab ac archesgob Caergaint trwy briodi â'i gyfnither. Owain oedd yn bennaf gyfrifol am lunio'r drefn lywodraethol a chymdeithasol a wnaeth Wynedd yn rym mor bwerus yn y 13eg ganrif. Ef oedd y person cyntaf i'w alw ei hun yn Dywysog Cymru a chynigiodd gefnogaeth filwrol i Louis VII o Ffrainc yn erbyn Harri.
Ar ôl iddo farw ddiwedd Tachwedd 1170, blinwyd Gwynedd gan ffraeo teuluol a rhannwyd y tir a’i isrannu maes o law. Lladdwyd mab hynaf Owain, Hywel, gan ei hanner brodyr ym mrwydr Pentraeth yn fuan ar ôl marwolaeth Owain ac wedyn gwanychu a wnaeth pŵer Gwynedd am bron 30 mlynedd.
Cyfeiriadau
The Age of Conquest: Wales 1063-1415 gan R.R. Davies
Twenty-one Welsh Princes gan Roger Turvey
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig - Owain Gwynedd
Bywgraffiadau Cysylltiedig:
Gruffudd ap Cynan - tad Angharad - mam
Cadwaladr - brawd Gwenllian - chwaer
Gruffudd ap Rhys - brawd yng nghyfraith Llywarch ap Bran - brawd yng nghyfraith
Madog ap Maredudd - brawd yng nghyfraith Owain Cyfeiliog - cyfoeswr
Iorwerth Drwyndwn - mab Maelgwn ab Owain - mab
Dafydd ab Owain - mab Rhodri ab Owain - mab
Cynan ab Owain - mab Anarawd ap Gruffudd - llys-nai
Cadell ap Gruffudd - llys-nai Maredudd ap Gruffudd - nai
Yr Arglwydd Rhys - nai Gruffudd Maelor I - nai
Owain Fychan ap Madog - nai
Cadwallon ac Einion ap Madog - cefnogwyr (gweler Elystan Glodrydd)
Owain Gwynedd