Ail fab Gruffudd ap Llywelyn (m.1244) a Senana ac ŵyr Llywelyn ap Iorwerth (m.1240) oedd Llywelyn ap Gruffudd (a elwir hefyd yn Llywelyn Ein Llyw Olaf). Ef oedd ffefryn ei ewythr, Dafydd ap Llywelyn (m.1246), a daeth yn rheolwr Gwynedd ar ôl marwolaeth Dafydd.
Pan ddychwelodd ei frawd hŷn, Owain Goch (m.c.1282), o alltudiaeth yn Lloegr cytunodd y ddau frawd i rannu Gwynedd rhyngddynt yn 1247 trwy Gytundeb Woodstock, er i Harri III fynnu dal gafael ar y Berfeddwlad i'r gorllewin o afon Conwy.
Yn 1254, haeriodd brawd iau Llywelyn, Dafydd ap Gruffudd (m.1283), hefyd ei hawl i gyfran o'r etifeddiaeth ond fe’i gwrthodwyd. Arweiniodd hyn at ryfel cartref a'r canlyniad fu trechu Owain a Dafydd gan Llywelyn ym mrwydr Bryn Derwin yn 1255, ac ar ôl hynny carcharodd y naill a'r llall. Roedd Llywelyn yn awyddus i reoli Gwynedd gyfan ac erbyn 1257 roedd wedi llwyddo i adennill y Berfeddwlad oddi wrth y Saeson. Byddai Rhodri'n parhau'n garcharor am fwy nag 20 mlynedd, ond penderfynodd Llywelyn ryddhau Dafydd o'i gaethiwed a rhoi tir iddo yn y Berfeddwlad mewn ymgais i'w heddychu, ond roedd hwn yn gam annoeth yn y pen draw.
Sefydlodd Llywelyn ei hun yn ddigonol yn y Deheubarth a
Phowys i ddechrau ei alw ei hun yn Dywysog Cymru, ond ni fyddai Harri III yn ei gydnabod ac yn hwyrach trosglwyddodd Dafydd ei deyrngarwch i Harri. Aeth Llywelyn ati i ochri â'r barwniaid Seisnig dan arweiniad Simon de Montfort, gan addo priodi â merch Simon, Eleanor.
Yn y diwedd ffrwydrodd rhyfel cartref yn Lloegr yn 1264, a ddaeth i ben pan drechwyd de Montfort yn Evesham flwyddyn yn ddiweddarach, ac wedi hynny ailgydiodd Harri III yn yr awenau. Mewn ymdrech i wneud heddwch, cytunodd Llywelyn a Harri ar Gytundeb Trefaldwyn ym mis Medi 1267. O dan delerau'r cytundeb hwn, byddai Llywelyn yn talu gwrogaeth i Harri, ac yn gyfnewid byddai'n ennill hawl etifeddol ar dywysogaeth Cymru i'w olynwyr, a hefyd yr hawl i'w alw ei hun yn Dywysog Cymru. Yn ogystal, câi wrogaeth y tywysogion Cymreig eraill.
Hwn oedd uchafbwynt gyrfa Llywelyn, ond ni ddaeth heb gost. Roedd wedi cytuno i dalu symiau enfawr o arian i Harri ond dirywiodd ei berthynas â'r Saeson pan roddodd Edward I, brenin newydd Lloegr, loches i'w frawd, Dafydd, a Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys. Bu'r ddau'n rhan o gynllwyn i ladd Llywelyn yn 1274 ac wedi ffoi i Loegr ar ôl iddo fethu.
Yn dilyn hynny, gwrthododd Llywelyn dalu gwrogaeth i Edward ar y sail y byddai ei fywyd dan fygythiad pe bai'n gwneud hynny. Penderfynodd hefyd briodi ag Eleanor de Montfort i gyflawni ei addewid i'w thad, ond fe'i cipiwyd ar ei ffordd i Gymru a'i dal yng Nghastell Windsor gan Edward.
Arweiniodd hyn at ryfel ac ym 1277 ymosododd Edward ar Wynedd. Ar ôl gorfodi Llywelyn i ildio, lluniwyd
cytundeb Aberconwy a osodai amodau llym arno. Dinistriwyd prif ran ei dywysogaeth ond byddai'n cadw'r hawl i'w alw ei hun yn Dywysog Cymru. Cafodd hefyd yr hawl i briodi ag Eleanor, a digwyddodd hyn yng Nghaerwrangon yn 1278.
Am y pedair blynedd nesaf roedd Llywelyn yn brwydro i fyw oddi mewn i delerau'r cytundeb, yn enwedig pan fyddai anghydfodau ynghylch tir ac anghytundeb a ddylid defnyddio cyfraith Cymru neu Loegr i'w datrys. Nid Llywelyn a gychwynnodd wrthdaro newydd, fodd bynnag, ond ei frawd. Ymosododd Dafydd ar Gastell Penarlâg ym mis Mawrth 1282 ac ymunodd Llywelyn ag ef yn gyflym, gan ddeall dyfnder cefnogaeth Cymru yn erbyn gormes llym Lloegr.
Ar ôl i'r Cymry gael llwyddiannau cychwynnol, trodd y rhyfel o blaid y Saeson. Collwyd Ynys Môn a'r Berfeddwlad, a thorrodd Llywelyn ei galon pan fu farw Eleanor wrth roi genedigaeth i'w merch, Gwenllian. Wedyn ceisiodd drafod heddwch trwy drafodaethau â John Pecham, Archesgob Caergaint, ond roedd Edward yn benderfynol o'i ddinistrio.
Cipiodd y Saeson Ynys Môn ddechrau mis Tachwedd 1282 ond fe'u trechwyd ym mrwydr Moel-y-don wrth iddynt geisio croesi Culfor Menai. Wedyn gadawodd Llywelyn Dafydd i amddiffyn Gwynedd a chymryd llu i'r de i agor ail ffrynt yn y Canolbarth. Ar 11 Rhagfyr, cafodd ei ladd ger Llanfair ym Muallt ar ôl cael ei wahanu oddi wrth ei fyddin. Torrwyd pen Llywelyn a'i anfon at Edward yn Rhuddlan cyn cael ei arddangos dros y porth i Dwr Llundain, lle cafodd ei goroni ag eiddew i'w watwar. Nid yw man gorffwys olaf ei gorff yn hysbys ond yn ôl traddodiad mae wedi ei gladdu yn Abaty Sistersaidd Cwm-hir.
Cyfeiriadau
The Age of Conquest: Wales 1063-1415 gan R.R. Davies
Twenty-one Welsh Princes gan Roger Turvey
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig - Llywelyn ap Gruffudd
Bywgraffiadau Cysylltiedig:
Gruffudd ap Llywelyn - tad Eleanor de Montfort - gwraig
Owain Goch - brawd Dafydd ap Gruffudd - brawd
Rhodri ap Gruffudd - brawd Gruffudd ap Gwenwynwyn – tywysog Powys
Llywelyn ap Gruffudd