Etifeddodd Rhodri
deyrnas Gwynedd gan ei dad ond mae'n enwog am fod y person cyntaf i uno tair o deyrnasoedd mwyaf Cymru, a'u hamddiffyn rhag cyrchoedd y Llychlynwyr a'r
Sacsonaidd hyd ei farwolaeth yn 878.
Roedd Rhodri yn fab i Merfyn ap Gwriad, neu Merfyn Frych (m. 844), a Nest, merch Cadell ap Brochfael o Bowys. Dilynodd ei dad yn frenin Gwynedd yn 844.
Digwyddodd yr ymosodiad Llychlynnaidd cyntaf ar Gymru i'w gofnodi tua 850, ond mae'n debyg y bu llawer o ymosodiadau cynharach. Wynebodd Rhodri hefyd ymosodiad Sacsonaidd yn 853 dan arweiniad Burgred o Fersia ac Aethelwulf o Wessex.
Yn dilyn marwolaeth ei ewythr, Cyngen ap Cadell, yn 855, ychwanegodd Rhodri Bowys at ei diroedd ac amddiffynnodd Ynys Môn rhag cyrch Llychlynnaidd yn fuan wedi hynny. Flwyddyn yn ddiweddarach dychwelodd y 'Northmyn' a threchwyd eu harweinydd, Gorm, mewn brwydr gan Rhodri. Erbyn 865, fodd bynnag, roedd y Sacsoniaid wedi llwyddo i'w yrru o Ynys Môn ond llwyddodd i ddychwelyd yn fuan wedyn i'w hadennill.
Priododd Rhodri ag Angharad merch Meurig ap Dyfnwallon, brenin Seisyllwg - ardal a oedd yn cynnwys rhanbarthau Ceredigion ac Ystrad Tywi. Pan fu farw brawd Angharad, Gwgon ap Meurig, trwy foddi yn 872, cymerodd Rhodri reolaeth ar ei diroedd a hwn oedd y tro cyntaf yr unwyd tair o brif deyrnasoedd Cymru.
Parhaodd Rhodri i amddiffyn Cymru yn erbyn ymosodiadau Llychlynnaidd a Sacsonaidd am weddill ei deyrnasiad. Llwyddodd y Llychlynwyr i'w yrru'n alltud i dde Iwerddon yn 877, ond dychwelodd ymhen blwyddyn i adennill ei diroedd. Lladdwyd Rhodri ym 878, yn ôl pob tebyg gan lu o Fersia dan arweiniad Ceolwulf.
Aeth dau o'i feibion, Anarawd a Cadell, ymlaen i sefydlu tai Aberffraw (Gwynedd) a Dinefwr (Y Deheubarth), yn eu tro, ond mae Rhodri'n fwyaf enwog am fod yr un a lwyddodd i uno tair teyrnas Gymreig ac wedyn eu hamddiffyn rhag goresgynwyr tramor. Yn hynny o beth, roedd ei deyrnasiad yn drobwynt yn hanes Cymru.
Cyfeiriadau
Twenty-one Welsh Princes gan Roger Turvey
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig - Rhodri Mawr
Bywgraffiadau Cysylltiedig:
Merfyn Frych - tad Gwgon ap Meurig - brawd yng nghyfraith
Anarawd ap Rhodri - mab Cadell ap Rhodri - mab (gweler Hywel Dda)
Cyngen ap Cadell - ewythr Hywel ap Rhodri Molwynog - hen ewythr
Cynan Dindaethwy - hen daid
Seisyll ap Clydog - un o hynafiaid gwraig Rhodri, Angharad
Rhodri Mawr