Prin iawn yw’r ffeithiau cadarnhaol am fywyd Hywel Ap Cadell sydd wedi goroesi yr
unarddeg canrif ers ei farwolaeth yn y
flwyddyn 950 ond
adnabyddir yr enw
Hywel Dda hyd y dydd heddiw. Yn wir mae’r teitl Ymddiriodolaeth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn enw hollol adnabyddus ar hyd a lled De Orllewin Cymru.
Ar ôl gorchfygu hen linach Cunedda, daeth Merfyn Frych, hen dadcu Hywel yn frenin ar Wynedd. Yn ôl yr hanes, brodor o Ynys Manaw oedd Merfyn Frych yn wreiddiol. Roedd hen deulu brenhinol Cunedda wedi teyrnasu yng Ngwynedd am bedair can mlynedd cyn cael eu disodli gan y tywysog o Ynys Manaw.
Ymsefydlwyd un o deuluoedd brenhinol mwyaf blaenllaw Cymru gan Merfyn oherwydd yr oedd y rhan fwyaf o dywysogion Gwynedd a Deheubarth yn yr Oesoedd Canol yn ddisgynyddion iddo. Mab Merfyn oedd Rhodri Fawr sef tadcu Hywel Dda, a thrwy feddianu Powys a Cheredigion ehangwyd ei deyrnas yn ogystal a’i rym yn sylweddol. Bu farw Cadell, tad Hywel, yn 910 felly daeth Hywel yn frenin ar y tiroedd a enillwyd yn Ne Cymru gan ei dadcu Rhodri Fawr.
Lladdwyd Rhodri ap Hyfaidd aelod olaf yr hen deulu brenhinol yn Nyfed tua 904/905 a dyma Cadell a’i fab Hywel yn ychwanegu Dyfed at Geredigion ac Ystrad Tywi. Daeth y deyrnas hon i gael ei hadnabod fel Deheubarth. Er mwyn cryfhau ei afael ar ei diriogaeth newydd priododd Hywel ac Elen, merch Llywarch ap Hyfaidd. Yr oedd Hywel eisoes yn llywodraethu yn Seisyllwg.
Daeth llinach
brenhinol Brycheiniog i ben pan fu farw
Tewdwr Ap Griffith tua 930 ac mae’n
ymddangos bod Hywel wedi meddiannu y
deyrnas honno hefyd.
Ar ôl creu teyrnas Deheubarth oedd, ym marn y diweddar Dr John Davies, yn uned allweddol yn hanes Cymru yn ystod y pedwar can mlynedd ddilynwyd, unwyd hi a thiriogaeth Idwal Foel brenin Gwynedd wedi iddo gael ei ladd gan y Saeson yn 942.
Wrth gipio teyrnas Gwynedd oddi wrth ei gefnder Idwal Foel, yr oedd Hywel yn llwyr anwybyddu hawliau meibion Idwal. Yr oedd Powys o dan reolaeth Gwynedd ar y pryd, felly daeth Powys o dan ei reolaeth hefyd. Yn ystod y cyfnod hwn, pan oedd Hywel yn llwyddo cipio un teyrnas ar ôl y llall, mae’n bosib mai ef ei hun orchmynodd bod ei dad yng nghyfraith yn cael ei lofruddio. Ac eithrio Morgannwg a Gwent, dywed Dr John Davies (Hanes Cymru, 1990) bod ‘Hywel yn frenin ar deyrnas a estynau o Brestatyn i Benfro’ pan fu farw yn 950.
Bu Hywel yn rheoli ar y cyd gyda’i frawd Clydog am ddeng mlynedd nes i Clydog gael ei ladd yn 920. Mae’n bosib mai eu trydydd brawd Meurig oedd y llofrudd ac o hyn ymlaen Hywel oedd yr unig reolwr dros Deheubarth. Trwy ymdrechu yn ddyfal ac yn ddiflino, fe lwyddodd i deyrnasu dros y rhan fwyaf o Gymru, yn wir daeth yn agosach i sefydlu ei awdurdod dros Gymru gyfan nac unrhyw frenin o’i flaen.
Ar ôl llwyddiant ysgubol Alfred yn erbyn y Daniaid, daeth yn frenin ar Wessex yn 871, a mawr oedd ei barch gan reolwyr Prydain. Penderfynodd arglwyddi a thywysogion Cymru gael cymorth a nawdd ganddo, felly cafodd benarglwyddiaeth ar Gymru gyfan. Parhawyd y drefn o
benarglwyddiaeth brenhinoedd Eingl-Sacsonaidd dros Gymru am fod hyn yn rhan o gadwyn oedd yn cefnogi undod y Cristnogion yn erbyn y Llychlynwyr paganaidd.
Cafodd Idwal Foel ei ladd gan y Saeson yn 942 am wrthryfela yn erbyn y drefn. Lladdwyd Rhodri Mawr, tadcu Hywel gan y Saeson yn y ganrif gynt 877/878 tra yn brwydro i amddiffyn Powys.
Uchelgais mwyaf y brenhinoedd Eingl Sacsonaidd oedd ymestyn eu hymerodraeth i gynnwys tiriogaeth a phobloedd Celtaidd Prydain. Yn ystod y ddegfed ganrif cafodd y Llychlynwyr eu trechu unwaith eto yn Northumbria, gan Edward Hŷn a’i fab Athelstan a’u byddin Eingl Sacsonaidd. Yn dilyn y fuddugoliaeth hon rhoddodd Athelstan y teitl ‘Brenin Prydain Oll’ iddo’i hun a dyma deyrnas Lloegr yn dod i
fodolaeth.
Roedd Hywel yn barod i
gydnabod mai ofer a drud,
mewn sawl
ffordd fyddai gwrthryfela yn erbyn Lloegr. Yng Ngorffennaf 927 daeth Hywel, brenin yr Alban ac arweinwyr eraill at ei gilydd yn Eamont ger Penrith yng Nghumbria er mwyn trafod termau heddwch gydag Athelstan. Cyfarfu Athelstan ag arweinwyr y Cymry yn Henffordd yn ychwanegol yn yr un flwyddyn. Rhaid oedd ufuddhau a phlygu i Athelstan gan dalu gwrogaeth oedd yn cynnwys 20 pwys o aur, 300 pwys o arian, a 25,000 o ychen bob blwyddyn.
Pan fu farw cafodd Hywel ei ddisgrifio fel ‘Brenin y Brythoniaid’ (y Cymry) yng nghofnodion blynyddol y cyfnod. Serch hynny roedd yn cael ei ddisgrifio fel ‘brenin bach’ neu is-frenin ar siarteri llys brenin Lloegr.
Prif nôd Hywel yn ystod y cyfnod hwn oedd diogelu heddwch ei deyrnas. Y pris oedd yn rhaid i Hywel ei dalu oedd ufudd-dod llwyr i ewyllys Brenin Lloegr. Roedd yn ymwelydd cyson â llys y brenin dichon o dan orchymyn. Efallai mai arwydd o wendid personol oedd ymateb Hywel i ymddygiad Athelstan ond teg yw cofio bod Hywel wedi llwyddo osgoi unrhyw fath o ryfel gwaedlyd gyda’r Eingl Sacsoniaid ar hyd yr amser oedd yn frenin dros Gymru.
Yr un fath a llawer o arglwyddi neu frenhinoedd cyfoes led led Ewrop roedd Hywel yn ddi dostur yn ei ymdrechion i ledaenu ei diriogaeth. Serch hynny nid oedd yn anelu at greu Cymru unedig, yn hytrach, ei benderfyniad milain oedd sicrhau dyfodol ei linach. Sut felly y cafodd y teitl ‘Hywel Dda’?
Teithiodd Hywel i Rufain yn 929 efallai er mwyn grymuso delwedd ei hun fel brenin Cristnogol, defosiynol. Rhufain hefyd oedd prif ganolfan y Ffydd Gristnogol ac yr oedd taith Hywel yn adlewyrchu’r
ffaith bod Cymru yn ran o fyd Cristnogol y Canol
Oesoedd. Esbonia Dr John Davies mai o ganlyniad
cyfundrefnu cyfraith
Cymru y cafodd Hywel y cyfenw ‘Dda’.
Mae’r gyfraith yn un o greadigaethau mwyaf ysblennydd diwylliant y Cymry (Dr. John Davies, Hanes Cymru, 1990). Roedd ei thraddodiad meddygol hefyd ar y blaen, roedd hyn yn rhan holl bwysig o gyfraith hynafol y Cymry yn ogystal â chyfraith Hywel. Mae’n anochel bod Hywel wedi dod o dan ddylanwad cyfundrefn cyfraith Lloegr yn ogystal â dulliau cyfreithiol rhai gwledydd cyfandirol pan oedd yn ymwelydd yn Llys Lloegr. Ar hyd y canrifoedd mae arbenigwyr mewn geiriau hynafol cyfraith Cymru, yn ogystal ag ysgolheigion mewn dulliau ysgrifenedig cyfreithiol clerigwyr y gwahanol oesau, wedi archwilio datblygiad cyfraith Hywel yn fanwl. Dau enw pwysig ymhlith y clerigwyr yw Blegywryd a Cynyr ap Cadwgan.
Gorchmynion a chyfraith y ffydd Gristnogol oedd yn hawlio blaenoriaeth ar unrhywfath o ddeddf gwlad seciwlar yn yr Oesoedd Canol, roedd yn rhaid cydymffurfio a chyfundrefnau Eglwys Rufain. Roedd gan y Normaniaid amheuon mawr am rannau o gyfraith Hywel, sef y gyfraith Gymreig wreiddiol. Roedd deddf gwlad Cymry er enghraifft yn caniatau i gefndryd pell briodi’i gilydd. Yn y gyfundrefn gyfreithiol Gymreig roedd hawliau’r claf yn bwysig, hyd yn oed y claf mwyaf isel ei radd. Roedd gan y meddyg oblygiadau cyfreithiol yn y gymuned. Nodir hefyd hawliau gwragedd a merched ac wrth gwrs rheolau galanas.
Lladin yw iaith y fersiwn hynaf sydd wedi goroesi; copi ydyw â ysgrifenwyd tua 1230, o destun a luniwyd tua 1175 (Dr John Davies) hynny yw, dwy ganrif ar ôl dyddiau Hywel. Traddodiad cryf yn hytrach na thystiolaeth gadarn hanesyddol sydd yn cysylltu Hywel a’i gyfundrefn gynhwysfawr gyfreithiol. Nid oes sôn am weithgareddau Hywel mewn cyswllt a llunio cyfraith i Gymru mewn unrhyw ffynhonell o’r cyfnod.
Mae llyfrau cyfraith sydd yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg yn nodi sut y gwnaeth Hywel Dda, brenin neu dywysog Cymru, gynnal cynulliad mawr oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cwmwd yng Nghymru. Hen dŷ gwyn ar Daf yn Nyfed oedd y lleoliad a’r bwriad oedd ‘diwigio cyfreithiau’r wlad a gosod awdurdod y brenin ar yn nhw’. (Tywysogion; Hughes/ Huw Pryce/ Richard Wyn Jones/Spencer Smith 2006)
Hywel yw’r unig dywysog neu frenin o Gymru sydd wedi bathu darn o arian a’i enw arno. Ceiniog yw’r darn hwn a fathwyd yng Nghaer ac sydd yn argyhoeddi statws ac awdurdod ‘Hywel Frenin’ yn yr Oesoedd Canol.
Cyfeiriadau
Hanes Cymru gan John Davies
Tywysogion gan Huw Pryce gyda Richard Wyn Jones a Spencer Smith
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig - Hywel Dda
Bywgraffiadau Cysylltiedig:
Blegywryd - ysgolhaig Idwal Foel - brenin Gwynedd
Hywel Dda