Ym Mhennal ger Machynlleth yn 1406, ysgrifennodd Owain Glyndŵr lythyr at Frenin Ffrainc yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer Cymru newydd, annibynnol.
*
Galwodd Owain o leia ddwy senedd - ym Machynlleth ac yn Harlech. Er na wyddom lawer am hyn, gwyddwn fod Glyndŵr wedi galw pedwar cynrychiolydd o bob cwmwd yng Nghymru i ddod i’r senedd yn Harlech yn 1405.
Seneddau
*
Eglwys i Gymru
Ymgyrchodd Owain i sicrhau fod yr esgobion yn Gymry ac yn Gymry Cymraeg. Eglwys Gadeiriol Tyddewi fyddai sedd Archesgob Cymru, a byddai incwm y mynachlogydd yn aros yng Nghymru.
*
Datganodd Glyndŵr ei fod yn bwriadu creu dwy brifysgol yng Nghymru - un yn y gogledd ac un yn y de. Dim ond 22 o brifysgolion oedd yn Ewrop gyfan ar y pryd - cymerodd yn agos i bum canrif i freuddwyd Owain gael ei gwireddu.
Prifysgolion
* Symudwch Dros y Llun I’w Chwyddo
Llythyr Pennal