DdiweddCastell Dinefwr mis Mehefin 1403, tra roedd ‘Gwŷr Brycheiniog’ yn ymosod ar dref Aberhonddu (tref dan reolaeth y Saeson), roedd Glyndŵr yn ymgynnull byddin fawr ar gyfer ymgyrch i dde-orllewin Cymru.


 Dan arweinyddiaeth Rhys Gethin a Rhys Ddu, ymosododd gwŷr Glyndŵr ar dref Llanymddyfri ar Orffennaf 3ydd, lle cipiwyd y castell ar ôl gwarchae byr. Ymdeithio wedyn drwy ddyffryn Tywi i Landeilo, lle roedd Castell Dinefwr eisoes dan warchae gan wŷr dan arweiniad Henry Dwn a Gwilym ap Philip o Gydweli.


 Erbyn i'r fyddin gyrraedd Dryslwyn dywedwyd fod dros 8000 o wŷr wedi ymuno, ac wedi gorfodi cwnstabl y castell i ildio ar unwaith. Roedd llu llai hefyd wedi rhoi Castell Carreg Cennen dan warchae ar yr un pryd, gyda’i gwnstabl, John Scudamore, yn adrodd bod yr ardal gyfan wedi ei llethu gan Owain a’i ddynion.


 Tua’r adegCastell Caerfyrddin hon, cipiwyd Castellnewydd Emlyn hefyd ar ôl i’w geidwad ildio’r castell heb ymladd, ac ymosododd Glyndŵr a’i ddynion a chymryd tref a chastell Caerfyrddin ar Orffennaf 6ed. Roedd hon yn fuddugoliaeth sylweddol iddo.

 

 Dywedir i Glyndŵr ymgynghori â Hopcyn ap Tomos ab Einion - ‘meistr Brut’ - tra yng Nghaerfyrddin, ac mae’n ddigon posib bod hyn wedi dylanwadu ar ei gynlluniau ar gyfer rhan nesaf yr ymgyrch. Yn lle teithio tua’r dwyrain trwy Forgannwg i gwrdd yn y pen draw â Henry ‘Hotspur’ Percy ym Mrwydr Amwythig, teithiodd Glyndŵr i’r cyfeiriad arall tuag at Sir Benfro.


 Cafodd ei fyddin ei hatal ger Sanclêr, fodd bynnag, pan ddaeth gwŷr o dan arweiniad Thomas, yr Arglwydd Carew, yn eu herbyn. Mae'n ddigon posib bod y ddau ddyn wedi llunio cytundeb yma a arweiniodd at droi Glyndŵr o gwmpas a theithio trwy Forgannwg, a thrwy hynny adael tiroedd Carew heb eu cyffwrdd.


 Daeth yr ymgyrch hon i ben ar ôl ymosod ar nifer o drefi ym Morgannwg a Gwent, ac ar yr adeg hon honnodd Iolo Morgannwg fod Brwydr Stalling Down wedi digwydd ger y Bont-faen.

Dyffryn Tywi

Ymgyrch 1403

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf