Er i Owain Glyn Dwr ymladd a nifer o frwydrau mawr roedd mwyaf enwog fel brwydrwr gerila a oedd yn defnyddio tirlun bryniog Cymru i’w fantais. Roedd ei gysylltiadau â llinell Tywysogion Gwynedd, Powys a’r Deheubarth  ynghyd â’i enw da fel arweinydd gyda gweledigaeth glir ar gyfer Cymru yn sicrhau cefnogaeth iddo ar draws y wlad. Mae ei hanes wedi ysbrydoli nifer o arweinwyr, megis yn ddiweddar Fidel Castro.


Fe fydd y wefan yma yn sôn am y tair brwydr bennaf. Yn gynnar yn ei ymgyrch enillodd ei fuddugoliaeth ym mrwydr Hyddgen enw da iddo fel arweinydd milwrol arbennig; atgyfnerthodd brwydr Brynglas (Pilleth) yr enw da yn ogystal ag ennill cynorthwywr gwerthfawr- Edmund Mortimer. Yn hwyr yn yr ymgyrch cafodd Owain ei orchfygi’n drwm ym Mrwydr Pwll Melyn (Brynbuga).  

Brwydrau Trosolwg

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf