Prif strSwydd Amwythigategaeth Harri IV oedd goresgyn Cymru gyda byddinoedd mawr mewn ymateb i ymosodiadau gan luoedd Glyndŵr. Fodd bynnag, roedd angen cyflenwad sylweddol o fwyd a nwyddau i gynnal yr Alldeithiau Brenhinol hyn. Daeth y rhain o siroedd Lloegr oedd yn ffinio â Chymru, Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Swydd Henffordd.


 Am y rheswm hwn, roedd dynion Owain yn ymosod yn aml dros y ffin i ddwyn bwyd a llosgi cnydau i sicrhau na fyddau byddinoedd Lloegr yn medru eu defnyddio. Erbyn Awst 1404, er enghraifft, roedd y rhan fwyaf o gymunedau Swydd Amwythig wedi cymodi ag Owain i sicrhau na fyddai difrod pellach i'w tiroedd.

 

 Ar ôl cwymp castell Harlech yn gynnar yn 1409, roedd Glyndŵr heb ganolfan addas i ddal seneddau ac i arddangos ei statws tywysogaidd. Dychwelodd yn ôl at y tactegau gerila a ddefnyddiwyd ar ddechrau'r Gwrthryfel - ac arweiniodd nifer o gyrchoedd i'r Mers.

 

 Ym mis Mai 1409, arweiniodd Glyndŵr fintai o ryfelwyr i ymosod ar Groesoswallt, Amwythig a'r Trallwng. Roedd y llu hwn yn cynnwys llawer o'i gefnogwyr a nifer o filwyr o'r Alban a Ffrainc oedd wedi glanio yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar.

 

 Ymatebodd y Saeson yn gryf i’r ymosodiadau hyn, a gwyddys i nifer o arweinwyr ym myddin Owain gael eu cipio yr adeg hon: aethpwyd â Rhys ap Tudur i Gaer a’i ddienyddio yn ddiweddarach; yr un dynged gafodd Philip Scudamore yn Amwythig; ac aethpwyd â Rhys Ddu i Lundain lle cafodd ei grogi, ei drywanu a'i chwarteru.

 

 Er mai hwn oedd cyfraniad mawr olaf Owain, parhaodd y cyrchoedd yn rheolaidd tan o leiaf 1417, gyda milwyr Lloegr yn cael eu hanfon i Gymru mewn ymateb. Roedd y Cymry yn dal i gael eu hystyried yn rym pwerus gan y Saeson mor hwyr â 1420. Er hynny, derbyniodd Maredudd ab Owain bardwn gan Harri V ym mis Ebrill 1421.

‘Y Prif Gyrchoedd Olaf’

Ymgyrch 1409

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf