Chwaraeodd cefnogaeth brenin Ffrainc, Siarl VI, a’i frawd iau Louis (Dug Orleans) ran bwysig yn ymgyrch Glyndŵr. Ar ôl i'r Ffrancwyr wneud cytundeb ym mis Gorffennaf 1404, casglwyd byddin o dros 10,000 o ddynion i hwylio i Gymru. Fodd bynnag, aflwyddiannus fu'r ymdrech oherwydd diffyg arweinyddiaeth Iago II, Iarll y Mers.
Cadarnhaodd Glyndŵr gytundeb gyda’r Ffrancwyr ym mis Ionawr 1405 a chynullwyd byddin Ffrengig fawr arall i hwylio ddiwedd mis Gorffennaf. Glaniodd y fflyd drawiadol, dan arweiniad Jean de Hangest, Jean de Rieux a Renaud de Trie, yn Aberdaugleddau yng Ngorllewin Cymru ddechrau mis Awst.
Yn fuan wedyn ymunodd llu mawr o ddynion Glyndŵr â nhw ac, yn ôl y croniclydd Michel Pintoin, ymosododd y fyddin o Gymry a Ffrancwyr ar: Hwlffordd, Picton, Dinbych-y-pysgod, Sanclêr, Caerfyrddin ac Aberteifi yn eu tro. Erbyn dechrau mis Tachwedd, ysgrifennodd fod y Ffrancwyr wedi dechrau dychwelyd adref, gyda’r fyddin gyfan wedi gadael erbyn y Grawys ym 1406.
Mae adroddiad Enguerrand de Monstrelet yn wahanol. Wedi cipio Caerfyrddin, awgrymodd ef fod y fyddin o Gymry a Ffrancwyr wedi ymdeithio trwy Dde Cymru cyn cyrraedd maestrefi Caerwrangon. Cafodd y fersiwn hon ei chadarnhau gan Pintoin, a soniodd fod y fyddin wedi teithio pellter o 60 milltir Ffrengig o Gaerfyrddin i Aberteifi - pan nad yw'r pellter rhwng y ddwy ond tua 71/2 milltir Ffrengig.
 Monstrelet ymlaen i sôn am fyddinoedd Glyndŵr a Harri IV yn cwrdd yn Great Witley, ger Caerwrangon heb frwydro. Am 8 diwrnod, gwersyllodd byddin Glyndŵr ar Woodbury Hill, a gwersyllodd Henry a'i fyddin ar Abberley Hill yr ochr arall i ddyffryn Teme. Paratowyd i frwydro bob dydd ond, ar wahân i ysgarmesoedd, ni chafwyd brwydr sylweddol.
Encilio wnaeth y ddwy fyddin wedi hynny - mae'n debyg bod hyn oherwydd diffyg llinellau cyflenwi addas, neu o bosibl cafwyd cytundeb rhwng Owain a Harri IV. Beth bynnag a ddigwyddodd, roedd y Ffrancwyr wedi dychwelyd adref erbyn y Pasg canlynol.
Cynghrair Cymru a Ffrainc
Ymgyrch 1405