Hon oedd y frwydr gyntaf arwyddocaol enillodd Owain. Codwyd byddin o un mil pum cant o ddynion Eingl-Ffleminiaidd i wrthwynebu bygythiad Owain.

 Fe wnaeth y ddwy fyddin gwrdd ar Fynydd Hyddgen, darn o weundir cors mawn ar ochr ddeheuol cadwyn Pumlumon yng nghanolbarth Cymru yn gynnar ym Mehefin 1401.


Mae yna lawr o anghytuno ymysg haneswyr ynglŷn â chryfder byddin y Cymry, ond mae yna gytundeb cyffredinol bod byddin Owain cryn lawer yn llai na byddin y gelyn. Awgrymodd ymchwil diweddar roedd hyn yn frwydr gyfnodol oedd yn cynnwys dau gyrch. Roedd nifer helaeth o ddynion Owain ar gefn ceffylau ac roedd y gwŷr traed yn saethwyr medrus. Defnyddiwyd y ddau gaffaeliad yma er lles angheuol, a diogelwyd buddugoliaeth anhygoel. Darganfuwyd beddau torfol yn ardal Bryn y Beddau, Mynydd Bychan a Nant y Moch.


Roedd y fuddugoliaeth yma wedi gwella enw da Owain ac roedd yn hynod o effeithiol- llawer yn well na sarsiant recriwtio yn annog ymrestriad.

Cerflun o Owain Glyn Dŵr -  Corwen

Llun gan- Allen Baines

Maen coffa Cofiwn, Hyddgen


Brwydr Hyddgen

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf