Prif strategaeth filwrol Harri IV oedd dod o hyd i Glyn Dŵr ac yna ei drechu mewn brwydr. Roedd Owain a'i gapteiniaid yn filwyr profiadol ac, er eu bod yn gallu mwstro byddin o rwng 8,000 a 10,000 o ddynion pe bai angen, roedd yn well ganddyn nhw symud byddinoedd Lloegr o amgylch y wlad i ymosod ar nifer o safleoedd.
Rhai brwydrau eraill oedd:
Brwydr Efyrnwy (Medi 24ain, 1400) - Trechodd llu o Loegr dan arweiniad Hugh Burnell ddynion Glyn Dŵr ger y Trallwng ar Fedi 24ain, 1400. Daeth hyn â phennod gyntaf y Gwrthryfel i ben.
Brwydrau Cadair Idris a Dinas Mawddwy (Mai 1401) - Arweiniodd Henry ‘Hotspur’ Percy luoedd Lloegr yn erbyn dynion Glyn Dŵr ger Dolgellau ac, mewn sgarmes ar wahân gerllaw, gwnaeth John Charlton yr un peth yn fuan wedi hynny. Yna symudodd y Cymry tua'r de ac ymlaen i Frwydr Hyddgen.
Brwydr Twtil (Tachwedd 2il, 1401) - Gwrthyrrwyd dynion Glyn Dŵr pan ymosodon nhw ar Gastell Caernarfon. Mae'n debyg mai hwn oedd y tro cyntaf i Owain ddefnyddio ‘Draig Aur' Uthyr Pendragon fel ei faner frwydr.
Brwydrau Llyngoed & Craig y Dorth (Awst 20fed, 1404) - Enillodd milwyr o Loegr dan arweiniad Richard Beauchamp frwydr yn Llyngoed, ger Y Grosmwnt yn erbyn gwŷr Glyn Dŵr. Yna symudodd y Cymry tua’r de a brwydro â’r Saeson eto yn Craig-y-Dorth ger Mitchel Troy, lle trechwyd milwyr Lloegr ac yna cael eu ‘erlid i fyny at gatiau’ Trefynwy.
Brwydr Y Grosmwnt (Mawrth 11eg, 1405) - Ymosododd byddin Glyn Dŵr ar dref Y Grosmwnt ond dioddefodd golledion trwm wrth ymladd â'r Saeson, dan arweiniad Gilbert Talbot. Mae’n ddigon posib bod Rhys Gethin, dirprwy Owain, wedi cael ei ladd yn y frwydr gan nad oes sôn amdano ym Mrwydr Pwll Melyn ym Mrynbuga ychydig wythnosau’n ddiweddarach.
'Brwydr' Woodbury Hill (Awst 1405) - Yn ôl croniclydd o Ffrainc, Monstrelet, daeth byddin Glyn Dŵr (yn cynnwys Ffrancwyr) wyneb yn wyned â byddin Harri IV ger Caerwrangon. Er i nifer o ddynion gael eu lladd ar y ddwy ochr yn ystod ysgarmesoedd, ar ôl 8 diwrnod daeth yr ymgiprys i ben heb frwydr sylweddol. Un awgrym yw bod cadoediad anffurfiol wedi'i gytuno rhwng Harri ac Owain.
Brwydr Stalling Down (1403, 1404 neu 1405) - Mae'n debyg bod brwydr wedi digwydd ym Mryn Owain ger y Bont-faen, lle gorchfygwyd byddin Harri IV gan fyddin Glyn Dŵr. Ceir y cyfeiriad cyntaf ati gan Iolo Morganwg - sy'n peri i ni amau a yw'r hanes yn wir, yn anffodus. Mae yna lawer iawn o draddodiad lleol bod brwydr wedi digwydd yno, fodd bynnag.
Brwydrau Eraill