CoronwyHarri IVd Harri IV yn Frenin Lloegr yn Hydref 1399 ar ôl trawsfeddiannu coron Richard II. Roedd blynyddoedd cyntaf ei deyrnasiad yn gythryblus ac felly cychwynnodd ar nifer o ‘Alldeithiau Brenhinol' er mwyn arddangos ei awdurdod.


 Arweiniodd nifer o'r alldeithiau hyn i Gymru, fel arfer mewn ymateb i ymosodiadau yn Lloegr gan Glyndŵr a'i ddilynwyr. Aeth Harri a byddinoedd mawr ar yr ymgyrchoedd hyn, yn nodweddiadol yn cynnwys 3000 i 4000 o ddynion ynghyd â chyflenwad sylweddol o fwyd a chyfarpar.


 Nid oedd symud byddinoedd o'r maint yma yn hawdd yng Nghymru gan fod daearyddiaeth y wlad a'r tywydd garw yn llyffethair. Amlygodd William Shakespeare hyn yn ei ddrama ‘Henry IV - RhI’ (Act III, Golygfa I) pan ddywed ‘Glendower’: "Three times hath Henry Bolingbroke made head against my power; thrice from the banks of Wye, and sandy-bottomed Severn have I sent him bootless home, and weather-beaten back".


Mae’r adroddiadau isod yn disgrifio’r prif alldeithiau a wnaed gan y Saeson yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr:


Hydref 1400

 

Ar Fedi 24ain, daeth wythnos gyntaf Gwrthryfel Owain i ben ym Mrwydr Efyrnwy, ar ôl iddo ymosod ar drefi a chestyll yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Ymatebodd Harri IV ar Fedi 28ain pan adawodd yr Amwythig gyda byddin fawr a theithio trwy Ogledd Cymru i chwilio am Glyndŵr a'i gefnogwyr. Gorymdeithiodd y fyddin trwy Fangor i Ynys Môn, i ymosod ar diroedd cefndryd Owain, y Tuduriaid. Difrodwyd Abaty Llanfaes gerllaw a gorfodwyd i abatai Enlli, Maenan a Chymer addo teyrngarwch iddo. Yna dychwelodd Harri i Loegr trwy Harlech a Dolgellau, gan gyrraedd yn ôl yn Amwythig ar Hydref 15fed heb fawr ddim i'w ddangos am ei ymdrechion.


Hydref 1401

 

AnfonoddYstrad Fflur Harri IV wŷs i'w fyddin i ymgynnull yng Nghaerwrangon ar Hydref 1af, ac yna gorymdeithio trwy Gymru i Abaty Ystrad Fflur. Yma bu ei filwyr yn gwersylla yn yr abaty, yn dwyn ei greiriau ac yn clymu eu ceffylau wrth yr allor. Lladdwyd o leiaf un mynach a chaethiwyd eraill, ynghyd â channoedd o blant o Gymru a gymerwyd yn ôl i Loegr fel caethweision. Roedd rhan arall o fyddin Lloegr wedi gorymdeithio trwy Dde Cymru i Aberhonddu, ac yna ymuno â byddin Harri yn Llanymddyfri. Yma y dienyddiwyd Llywelyn ap Gruffudd Fychan am gamarwain Harri wrth iddo chwilio am Glyndŵr. Bu'r fyddin yn ysbeilio a threisio ar ei ffordd yn ôl i Loegr, gan losgi cnydau, dienyddio caethion ac atafaelu tiroedd ar eu ffordd adref. Cyrhaeddodd Harri Amwythig erbyn Hydref 15fed heb fawr i'w ddangos am ei ymdrechion unwaith eto.


Haf 1402

 

Ddiwedd mis Awst, lansiodd y Saeson ymosodiad tridarn i Gymru: arweiniodd y Tywysog Harri gyrch o Gaer i Ogledd Cymru i atgyfnerthu cestyll Harlech a Chaernarfon; arweiniodd ei dad ymosodiad o'r Amwythig i Ganolbarth a Gogledd Cymru; ac arweiniodd ieirll Warwick, Stafford ac Arundel ymgyrch o Henffordd i Dde Cymru. Cyflogwyd cyrchoedd Chevauchée i ddifrodi trefi a'r ardaloedd o'u hamgylch - er y byddai rhai yn beio Glyndŵr yn ddiweddarach am lawer o'r difrod, gan gynnwys dinistr Llanrwst ac Abaty Maenan gerllaw. Cafwyd un digwyddiad nodedig yn ystod yr alldaith hon yn ystod storm ar Fedi 7fed, pan chwythwyd pabell Harri IV i lawr a bu bron iddo gael ei ladd pan loriwyd pabell fawr. Erbyn Medi 22ain, roedd yr ymgyrch ar ben a dychwelodd y fyddin adref ar ôl cael eu plagio gan dywydd gwael.

 

Gwanwyn 1403

 Sycharth

Ddechrau mis Mai, arweiniodd y Tywysog Harri ymosodiad arall ar Ogledd Cymru, y tro hwn ei unig fwriad oedd i ddinistrio cartrefi Glyndŵr. Dechreuodd trwy losgi maenordy Owain yn Sycharth, cyn croesi 'r Berwyn i wneud yr un peth i'w gaban hela yng Nglyndyfrdwy. Disgrifiwyd yr hanes mewn llythyr a anfonodd at ei dad ar Fai 15fed.




Hydref 1403

 

Mewn ymateb i ymgyrch Glyndŵr i ddyfryn Tywi, arweiniodd Harri IV alldaith o Gaerwrangon a gyrhaeddodd Caerfyrddin erbyn Medi 24ain. Atgyfnerthwyd y castell ac roedd Harri yn ôl yn Llundain erbyn diwedd mis Medi. Yn syth wedi hynny, cynyddodd gwŷr Glyndŵr eu hymosodiadau ledled Cymru, a syrthiodd nifer o gestyll i ddwylo'r Cymry erbyn diwedd 1403.

 

Hydref 1404


AnafwydCastell Coety y Tywysog Harri yn ddifrifol ym Mrwydr Amwythig ym mis Gorffennaf 1403 ond roedd wedi gwella digon erbyn hydref 1404 i arwain ymgyrch i Dde Cymru i estyn cymorth i Gastell Coety. Coety oedd y castell olaf a adawyd dan reolaeth Lloegr yn yr ardal ond roedd wedi bod dan warchae am chwe mis. Cafodd Harri gymorth ei frawd iau, Thomas, ar yr alldaith, ac er iddynt lwyddo i achub y castell fe arhosodd dan warchae tan y mis Medi canlynol.



Hydref 1405

 

Ar ôl ymgilio gyda Glyndŵr a'i gynghreiriaid o Ffrainc yn Great Witley ddiwedd mis Awst, teithiodd Harri o Henffordd trwy Dde Cymru i achub Castell Coety eto. Roedd ganddo fyddin fawr gyda magnelau trwm, a llwyddwyd i godi'r gwarchae. Ar y daith yn ôl i Loegr, fodd bynnag, collwyd llawer o gyfarpar y brenin mewn llifogydd, gyda’r rhan fwyaf o’i drysor wedi hynny yn syrthio i ddwylo'r Cymry. Cyrhaeddodd yn ôl yn Henffordd ar Fedi 29ain.

Alldeithiau Brenhinol

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf